Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y Dpsaedpdd ífA'r hwn y mae yr Annibyriwr wedi ei Uno." Cyf. Nbwydd—85.] IONAWR, 19lü. :Hen. Gyf.—581. Y DYN CALL.* GAN Y DIWEDDAR BARCH. W. REES, D.D. (GwÜym Himethog). ■' Pob call a wna bethau trwy wybodaeth."—Diarhebion xiii. 16. MAE pob dyn am gaei ei gyfrif yn gall. Dyn gwag a gymer arno fod yn ddoeth, y mae y ffol yn ddoeth yn ei olwg ei hun—yn ddoethach na phawb arall; fíordd sicr o glwyfo teimladau dynion ydyw eu galw a'u cyfrif yn ffoHon ac anghall, ac eto dyma wir nodau y rhan fwyaf o dd}'nion. Pe gosodid cloch am wddf pob ffol, ni a fyddem i gyd yn glochyddion, ebe Catwg ddoeth. Ynfydion, ffolion, a rhai anghall, y geilw doethineb blant dynion, wxth eu hannerch; y mae llawer o gallineb hefyd yn mysg dynion, o ryw fath, y mae yn fwy o gyfrwysdra nag ydyw o wir a phriodol gallineb: rhydd y testun ddesgrinad o wir gallineb, neu o ddyn gwir gall: nid oes neb calì naturiol mwy na'u gilydd,—peth a ddysgir ydyw synwyr a challineb trwy sylw, ymdrech a phronad, fel pethau eraill. Gallasem ni fod yn llawer callach nag ydym pe buasem wedi ymroi i ddysgu calüneb a synwyr. Y mae y Beibl wedi ei roddi i ddysgu callineb i'r anghall, ac i roddi i'r bachgen wybodaeth a synwyr mewn pethau ysbrydol. Ond pa fath yw y call? "Pob call a wna bethau trwy wybodaeth." Y mae Uawer o ddynion haner call yn y byd—yn gall mewn rhai pethau, yn ffolion mewn pethau eraill; y mae pìant y byd hwn yn gall yn eu cenhedlaeth yn mhethau y byd hwn, yn gallach yn y pethau hyn na phlant y goleuni yn eu pethau hwy: nid * •■ Diau y bydd yn dda gan lawer o gyfeillion ac edmygwyr Dr. Rees, gael ar ddeall íod rhai degau o'r pregethau grymus a> draddodwyd ac a ysgrifenwyd ganddo yn ystod tymhorau llwyddianus ei weinidogaeth yn Ninbych a Liver- pool, yn awr ar gaí-1, ac yn barod i'r Wasg; a'n gobaith ydyw, ar ol cael cyfie teg i edrych drostynt yn ddiweddar, y bydd i'w fab Ëbenezer Rees, weíed ei ffordd yn glir, a hyny yn dra buan i'w troi allan yn y ffordd arferol, i oleuo, hyfforddi. a bendithio Haweroedd yn y dyddiau a ddaw, fel y bu ddynt wneud i laweroedd yn y dyddiau gynt "