Skip to main content

Y DYSG-EDIDD: A'R JIWN Ytt UNWYD " Ytt ANNIBYNWR." ŵabarit j§atl §ttto. GAN Y PARCH. R. THOMAS (AP VYCHAN), BALA.. [Derbyniasom y bregeth werthfawr hoa oddiwrth fab eia diweddar gyfaill a chydolygydd, fel engraifft o'r lluaws o bregethau, rhai o honynt wedi ea hysgrifenu ynllawer helaethach, ydynt i gael eu cyhoeddi yn faan yn nglŷn â Chofiant ei dad, o anrhydeddus a pharchedig goffadwriaeth.—Gol ] "Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll."—2 Tim. ii. 19. Yn y benod hon anogir Timotheus i ymroddiad dianwadal i amryw- iol bethau a weinyddent i gynydd a defnyddioldeb ei ymdrechion efengylaidd—1. I ymnerthu yn y gras sydd yn Nghrist Iesu (adn. 1); ac yr oedd Paul wedi clywed o enau Crist ei hun ei fod ef yn ddigon i'r achlysur, a hefyd wedi cael profiad helaeth o hyny. 2. Anogir Timotheus i draddodi y gwirioneddau a glywsai gan Paul i ddynion ffyddlawn, pa rai hefyd allent addysgu eraill, adn. 2. 3. Anogir ef i oddef cystudd, adn. 3. 4. I gofio fod Tesu Grist wedi ei gyfodi o feirw, a phaham, adn. 8. 5. I adgoífa y pethau hyn, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd na byddai i'r frawdoliaeth ymryson yn nghylch geiriau, adn. 14. I osod ei hun yn brofedig gan Dduw, adn. 15. Anogir ef hefyd i ochelyd nifer o achosion rhwystr i gynydd crefyddol, megys— 1. Halogedig ofersain, adn. 16. 2. Chwantau ieuenctyd, adn. 22. 3. Ynfyd ac annysgedig gwestiynau, ain eu bod yn magu ymrysonau, adn. 23. Yn yr adnodau blaenorol i'r testuu cyfeiria Paul at gyfeiliornad pwysig Hymenèus a Philetus, pa rai a ymhònent ddarfod eisoes yr adgyfodiad, ac yr oeddeu maentumiaeth wedi llwyddo i ddymchwelyd ffydd rhai o'r Cristionogion ar y mater hwnw. Yn mha ddull y golyg- ent fod yr adgyfodiad yn ffaitli orphenedig nid oes perffaith hysbys- rwydd. Tebygol yw eu bod yn dal allan mai adgyfodiad moesol yn unig a briodolir i natur y cyfnewidiad rhyfedd a ddatgenid gan Paul a'i gymdeithion, ac y sicrhäent mor'ddifrifol a ddeuai oddiamgylch fel dynesiad lleidr. Mai adgyfodiad ydoedd i'r enaìd—o farwolaeth pechod i ryw fwynhad o ryw ddyrchafiad ysbrydol, i ansawdd tra chymysglyd, yn ol tystiolaeth cofnodion am bersonau eraill a gofleid- ient y cyffelyb ddaliadau—nad oedd i Gristionogion ddysgwyl am ddim cyfnewidiad arall: eu bod hwy yn gymhwys i berffaith ddedwyddwch heb eu cyrff, ac na byddai yn fantais iddynt o gwbl ailfeddianu eu cyrff yn yr adgyfodiad, mai Crist yn unig a adgyfodwyd yn y corff, a bod yr adgyf- odìad yn orphenol, neu wedi myned drosodd yn ei gyfodiant personol Tachwedd, 1881. a2