Skip to main content

Y DYSGEDYDD; a'R HWN YR ÜNWYD "YR ANNIBYNWR," §ut^bìr g Hätftjj. ffltlliam ®riffit|jf, Êaergüírh [Yr ydym yn ddyledus i'r llenor galluog, Gweirydd Ap Rhys, am yr ysgrif werthfawr hon. Parotowyd hi gan y diweddar Mr. Griffith ei hun, ac ni newidiwyd dim arni oddieithr ei throi o'r person cyntaf i'r trydydd. Ychwanegwyd hanes ei farwolaeth a'i gladdedigaeth gan gyfaill.—Gol] Mab ydoedd Mr. Griffith i'r Parcli. John Griffith, gweinidog yr Anni- bynwyr yn Nghaernarfon, o'i ail wraig Janet, gweddw Mr. Hugh Parry, Tyddynygareg, Dolbenmaen, sir Gaernarfon. Gwr o Laníi- hangel ar Arth, gerllaw Pencader, sir Gaerfyrddin, oedd Johu Griffith; a dyna'r cwbl a wyddom am ei haniad ef; ond y mae genym fwy o hanes haniad ei wraig dduwiol, mam gwrthddrych hyn o gofiant, fel y ceir gweled yn fuan. Yn ebrwydd ar ol gorphen ei dymhor yn Athrofa yr Annibynwyr yn ISTghaerfyrddin, daeth y Parch. J. Griffith i'r Go- gledd, fel cenadwr, pan nad oedd ond rhyw haner dwsin o gapelau bychain gan yr Annibynwyr yn y chwe sir, a phedair o eglwysi gwein- iaid mewn tai anedd. Wedi i Mr. Griffith focl, dros wahanol dy- mhorau, yn pregethu mewn gwahanol fanau yn y Gogledd a'r De, o'r fl. 1777 hyd 1796, pan yr ymsefydlodd fel gweinidog yr Annibynwyr yn Nghaernarfon; yn y fl. 1799, priododd ei ail wraig, Janet, fel y cry- bwyllwyd, pedwaredd merch William ac Alice Griffith o Drwsycoed, yn mhlwyf Beddgelert, sir Gaernarfon. Yr oedd gan Mrs. Griffith saith o chwiorydd, sef Gaynor, Margaret, Alice, Jane, Catherine, Dorothy, a Mary, ac un brawd a'i enw Grifnth; a gallasai y penteulu ddywedyd, gyda mwy o briodoldeb na nemawr un yn y wlad hòno, fel Joshua, "Myfi, mi a'm tylwyth, a wasanaethwn yr Arglwydd." Cododd W. Grifíith, tad-yn-nghyfraith y Parch. J. Griffith, a thaid gwrthddrych ein cofiant, dŷ bychan ar ei ífarm i bregethu yr efengyl ynddo gan unrhyw genad hedd, o unrhyw gyfundeb crefyddol a ddeuai heibio, a cha'i lety ganddo gyda chroesaw. Un diwrnod, aeth un o'r merched at ei mam, a dywedodd fod gwr dyeithr tebyg i bregethwr wrth y drws. Derbyniwyd ef i mewn, a phwy oedd hwnw ond y brawd Mathias, o sefydliad y Mor- afiaid yn Fulneck, sir Gaerefrog (Yorkshire). Aeth Mathias i Ddrws- ycoed ar anogaeth un David Williams, o ardal Eryri. Bu'r gwr hwn mewn masnach yn Llundain, ac yno ymunodd âg eglwys y Morafiaid yn Fetter Lane. Dychwelodd i wlad ei enedigaeth yn ei henaint, ac anogodd Mathias, gan ei fod yn Gymro, i ymweled â'r ardal, a phreg- ethu Crist i'r trigolion, yr hyn a wnaeth yntau gyda phob parodrwydd meddwl. Bu'n cartrefu am ddwy flynedd gyda theulu lletygar Drwsycoed, ac yn pregethu yn y bwthyn crybwylledig ar eu tir. Hydref, 1881, X