Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr ünwyd "yr annieynwr." §rcn|)tm:a*f!j ac ©ffeiriatmefj) g JSaittt. (gan y parch. r. p. williams, ebenezer.) " Iddo ef yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddiwrth ein pechodati yn ei waed ei hun. ac a'n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad ef; iddo ef y byddo y gogoniant a'r g:úlu yn oes oesoedd. Amen."—Dat. i. 5, G. Mae y geiriau uchod yn cael eu dwyn yn mlaen mewn canlyniad i'r erfyn- iad am "ras a thangnefedd " i eglwysi Asia. Mae yr erfyniad am y bendithion hyn yn cael ei gyfeirio at y tri Pherson Dwyfol, y rhai a osodir allan yn y geiriau o dan enwau a theitlau gwahanol. Yn ngoleuni athraw- iaeth y Drindod yn unig y gwelirystyr a chysylltiadau y testun. Y mae y Tad yn cael ei ddynodi yn flaenaf. Gehwir ef, " Yr hwn sydd, yr hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfod." Barna rhai fod yr ymadrodd hwn yn cyfeirio at y Drindod. " Yr hwn sydd " ydyw y Tad; " yr hwn a fu " ydyw y Mab; " yr hwn sydd ar ddyfod " ydyw yr Ysbryd Glan. Nid oes gronyn o sail i'r haeriad hwn, o herwydd mae yr Ysbryd a'r Mab yn cael eu henwi drachefn yn yr adnodau sy'n dilyn. Mae yr ymadrodd, " Yr hwn sydd, yr hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfod," yn gwbl gyfystyr â'r enw Jehofah, ac yn arwTyddo hunanhaufodiad, hollbresenoldeb, annibyniaeth, anghyfnew- idioldel), a pharhad tragwyddol, y rhai ydynt briodoliaethau naturiol Duw. " Ac oddiwíh y saith ysbri/d sydd gerbron ei orseddfainc ef." Tybia rhai mai saith angel crëedig a olygir yma wrth y " saith ysbryd," ond y mae, o leiaf, ddau beth yn y geiriauyn wrthbrawf i'r dybiaeth. Y maent yn tybio fod "gras a thangnefedd " yn deüliaw oddiwrth y "saith ysbryd," yngystal ag oddiwrth " Yr hwn sycìd, yr hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfocl;" ac y mae yn berffaith eglur nas galì bendithion dwyfol d'deilliaw na chael eu gweinyddu gan fodau creadigol. Hefyd, y mae y " saith ysbryd " yn cael eu gosod o rlaen Iesu Grist, yr ail Berson yn y Drindod, oncl nid oes un rheswm paham y gosodid angylion o flaen Crist, nac yn wir paham y cysylltir hwynt â'r Personau Dwyfol mewn ffurf o gyfarchiad gweddígar o gwbl. Wrth y " saith ysbrycl " y mae i ni ddeall yr Ysbryd Glan. Mae y rhif saith bob amser yn gosod allan bob cyflawnder, amrywiaeth, a pher- ffeithrwydd, fel y mae y "saith eglwys" yn gosod alían yr lioll eglwys yn gyffredinol. Yn mhellach, dywedir fod y "saith ysbrycl gerbron ei orsecìd- fainc ef." Nid ydyw jrr ymadrodd yn golygu foci yr Ysoiyd yn is mewn naturiaeth i'r Hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc: fel Personau Dwyfol y maent ar dir perffaith gydraddol. Oncl wrth eu golygu yn eu cymeriad swyddol, fel y maent yn cael eu gosod gerbron yn y fan hon, y mae un yn cymeryd ei safle ar dir uwch nag a gymerir gan y llall, ac felly darlunir un fel yn eistedd ar yr orseddfainc, a'r líall gerbron yr orseddfainc. Ond os yw Medi, 1881. T