Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." (GAN Y parceí. piiíllîps buooes.) [Ymddangosodd yr Ysgrif awgrymindol hon yn y Christian Union, a olygir gan Henry Ward Beecher.] Y mae ceisio deffînio íîydcl wedi proíi yn orchwyl anhawdd i ddynion, a Uawer wedi arwain eu hunain, a'r rhai a'u gwrandaweut, i ddyrysni; ond gellir cael deffiniad gwir uwchlaw pob amheuaeth, adigon cyflawn i gyfarfod pob angen ara ddeífmiad. Ffydd y\v y gallu drwy yr hwn y mae bywioldeb (vitality) un person, drwy gariad ac ufudd-dod, yn d'od yn eiddo person arall. Yr wyf yn credu ynoch, fy nghyfailí, ac í'r graddau yr wyf yn eich caru ac yn ufuddhau i chwi, y mae eich bywioldeb, eich cymeriad. eich yni yn cael eu trosglwyddo i mi. Ymae y sant yn credu yn yr un a esyd yn esiampl; y mae ymilwr yn credu yn ei gadben dewr; y mae y dysgybl yn credu yn ei athraw dysgedig; ac y mae bywioldeb gwrthddrycíi eu fìydd yn cael eu trosglwyddo iddynfc hwy drwy gariad ac ufudd-dod. !STid cariad nac ufudd-dod yw fìydd, ond y mae yn gweithio drwyddynt. Gall dyn fy ngharu heb gredu ynof. Grall dyn ufuddhau i mi heb gredu ynof. Perthynas neillduol rhwng enaid ac enaid yw fíydd; adwaenir y berthynas hon wrth ei heffaith, pan y mae bywyd un enaid yn d'od yn fywyd i enaid arall drwy ufudd-dod a chariad. Felly, fíydd yn Nghrist yw y gallu drwy ba un y mae bywyd Crist (drwy ufudd-dod a chariad), yn d'od yn fywyd i ni. "Mi a groeshoeliwyd gyda Christ, eithr byw ydwyf, eto, nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a'r hyn yr ydwyf yr awrhon yn ei íyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy fìydd Mab Duw, yr hwn a'm carodd, ac a'i dodes ei hun drosof fi." Nid yw y credadyn yn byw ynddo ei hun—y mae bywioldeb Crist, yr hwn y mae yn ei garu ac yn ufuddhau iddo, yn parhaus lifo i'r enaid. Y mae ei holl natur yn curo gan ddylifiad y bywyd dwyíol hwn. Byw ydyw, ond y mae Crisfc yn byw ynddo. Crist yw Mab y dyn, y dyn perffaith, y dyn dwyfol. A phan yn dywedyd fod ei fywioldeb yn ein llanw, golygwn fod bywyd dynol perffaith yn llanw dynoliaeth. Nid yw ffydd yn gwneud cred- inwyr yn greaduriaid amgen na dynion, drwy gymysgu rhy w ddefnydd dwyfol newydd a dyeithriol â'n natur. Dynion ydynt, yn y rhai y mae y bywyd dynol yn gyflawn yn ol mesur eu ffydd. Beth yw AWST, 1881. R