Skip to main content

Y DYSGEDY D D A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." 9 «toh a'r êm îû Sob iDtoub.* (gany parch. e. herber evans). "Dyro i'th was galon ddeallus i farnu dy bobl, i ddeall rhagor rhwng da & drwg............ A'rpeth fu dda yn ngolwg yr .árglwydd, am ofyn o Solomou y peth hyn. A Duw a ddy- wedodd wrtho, o hei wydd gofyn o honot y peth hyn, ac na ofynaist i ti ddyddiau lawer, ao na ofynaist i ti olud, ac nacheisiaist einioes dy elvnion, eithr gofynaist i ti ddeall i wrando barn: wele, gwneuthum yn ol dy eiriau."—1 Bren. iii. 9—12. " Calon ddeallus i farnu dy bóbl." Y dynion a anfarwolir gan y byd ydynt y rhai a geisiant eu prif hyfrydwch yn naioni eraill—eiddynt hwy yw yr enwau ni ollyngir dros gof. Y mae enwau hunain-foddlonwyr a hunain- foddhawyr yn cael eu gollwng i golli; gafaelant am enyd yn nghof dynion, ond nid bytli yti yr hyn sydd yn llawer mwy gaf'aelgar, a'r hyn yn unig a sicrha anfarwoldeb, parch gwirioneddol eu cyd-ddynion. Nis gallodd hunangarwch erioed, ac nis gall byth, sugno bywyd allan o'r egwyddor o anfarwoldeb. Y dynion a ddeuant i fyny, a allant ymgodi hyd at geisio rhyw ddaioni i eraill, íel eu prif nod ac amcan mewn bywyd, ydynt y rhai yr ysgrifenir eu henwau yn mrawdlyfr amser mewn llythyrenau na ddilëir yn dragywydd. Y dynion, pan yr agorir drws cyfleusdra ger eu bron, a ddymunant y peth a'u gwna yn fendith i eraill, ' Dyro i ni galon ddeallus i farnu," i addysgu, i fbesoli, i grefyddoli, i ddyrchafu "dy bobl"—dyma'r dynion yr adseinir eu henwau gan oes ar ol oes. Gelwch i gof yr enwau a ddeuant i fyny hawddaf o'r oesau sydd wedi myned heibio, a sylwch os nad eiddo rhai wedi aberthu ac wedi dyoddef er mwyn bod yn arweinwyr, yn waredwyr, yn ddysgawdwyr, ie, yn iachawdwyr i eraill ydynt. Ehaid i'r neb a fyn fod yn iachäwr eraill f'oddloni bod yn ddyoddefwr ei hun. Y geiriau a wesgir allan o feddwl yn llawn ing, ac o galon wedi ei hysgwyd i'w gwaelodion, a fedrant gyffwrdd â thànau cyfatebol mewn meddyliau a chalonau eraill pob oes a gwlad. Dyma un rheswm paham y mae y Beibl mor llawn o brofìadau dyfnion, gwirioneddol, dynion Duw a berffeithiwyd trwy ddyoddefiadau i addysgu, cysuro, a dyrchafu eu cyd-ddynion. Cymerwch y ddau ddysgawdw mawr o blith brenhinoedd y Eeibl, yr oedd yn rhaid iddynt hwy ddysgu mewn dyoddefaint a phoen meddyliol, yr hyn a gyflwynasant i'r oesaumewn salm a chân, dameg a dihareb. Bum yn meddwl y gallasai y Duw mawr ysbrydoli rhyw feudwy duwiol, rhyw Elias yn y difFaethwch, i lefaruyrholl salmau, ei wneuthur yn ysgrifenydd profiadau heb eu teimlo ei hunan. Ond, y fath golled fuasai hyny! Yr hyn sydd yn tynu y miloedd i'w • Traddodwyd y bresîeth hon nos Fercher, Mai 14eg, 1879. yn Westminster Chapel, Llundain, ar gais a cherbron Cyfarwyddẁyr v Gymdeithas Genhadol, ac }mddangosodd yr wythnos ganlynol yn y Christ- tan World Pulpit. Mehefin, 1881. M