Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD a'r HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." Hrbbhò téhmnibûgion. (gan y parch. dr. thomas, le'rpwl ) YSGRIF II. Yn ein hysgrif flaenorol, gwnaethom rai sylwadau cyffredinol ar Urddiad Gweinidogion, er ceisio cywiro rhai camsyniadau a ymddengys i ni sydd mewn llawer o feddyliau ar y mater, ac er parotoi y tfordd i gael allan wir ystyr ac amcan y gwasanaeth. Yr ydym yn hyderu ddarfod i ni lwyddo i ddangos gwrthuni y syniad ofFeiriadol am Ürddiad, yn enwedig pan y ceisir ei gario allan o dan y drefn Gynulleidfaol; ac i ddangos hefyd, mai" offeiriadyddol hollol ydyw pob syniad am urddiad ond a fyddo mewn cysylltiad â galwad flaenorol o eiddo eglwys i un i lafurio ynddi. Gan mai cydnabyddiaeth gyhoeddus o ddewisiad un i swydd ydyw, rhaid fod y. dewisiad wedi ei wneud cyn y gellir ei gydnabod. Dewisiad yr eglwys ydyw y peth cyntaf a'r peth hanfodol, er í'od priodoldeb a gweddusder yn galw am gydnabyddiaeth o hyny. Ond gwreiddyn a hanfod offeiriadaeth ydyw urddo dyn i fod yn weinidog lieb fod un eglwys yn galw am ei wasanaeth, nac yn barod i gymeryd ei bugeilio a'i llywodraethu ganddo; a phan y gwneir hyny gan Annibynwyr, y mae yn fwy diystyr na phan ei gwneir gan Esgobaethwyr a Henaduriaethwyr. Gall un fod yn weinidog rheolaidd mewn eglwys Annibynol, er na bu unrhyw neillduad cyhoeddus arno i'r gwaith, os yw yr eglwys wedi ei alw i weinidogaethu iddi; ond nid oes unrhyw ffurf o urddiad yr eir drwyddo yn gwneud dyn yn weinidog, yn ol y drefn Gynulleidfaol, heb fod rhyw eglwys wedi-rhoddi gahvadiddo; ac nid oes gan eglwys Annibynol hawl i alw ar neb i weinidogaethu i unrhyw eglwys ond iddi ei hun. Ond er ein bod yn ymwrthod yn hollol â'r syniad offeiriadol, yr ydym ar yr un pryd yn credu mewn swyddogaeth yn yr eglwys; a hyderwn ddarfod i ni ddangos yn ddigon eglur i'n dar- llenwyr y gwahaniaeth sydd rhwng swyddogaeth ac offeiriadaeth. Yn ein hysgrif bresenol, ceisiwn ddangos YR EGWYDDORION SYDD YN OBLYGEDIG YN URDDIAD GWEINIDOGION, Mae rhyw ystyr ac amcan i'r gwasanaeth. Mae rhyw egwyddorion pwysig yn cael eu haddef a'ucydnabod ynddo. Edrychwn ar rai o honynt:— Mae yr urddiad yn ddatganiai oìn hymlyniad wrth y weinidogaeth fel swydd- ogaeth barhaol yn yr eglwys. Nid ein hamcan yn awr ydyw amddiffyn dwyfoldeb y Swydd \ \ einidogaethol, nac egluro ei natur, na dangos Mai, 1881. K