Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'ît HWN YR UNWYD <fYR ANNIBYNWR." |ibjoIgg» friupim SÍIijîubb, (GAN Y PARCíL j. tiiomas, d.d., liverpool). [Darllenwyd yr hyn a ganlyn yn y Tabernacl, Liverpool, nos Iau, Chwefror 3ydJ; ac ar daer ddymuuiad y rhai a'i gwrandawodd, cyhoeddir ef.—J. Thomas.] "Am hyny, wedi i mi gaul help gan Dduw, yr wyf yn ai-os hyd y dydd hwn."—Act. xiyi. 22. Mab y "dydd hwn" i mi yn ddiwrnod i'w gofio. Triugain mlynedd i heddyw y ganwyd fi; ac er ìnor anhawdd i mi gymodi â'r syniad, bydd yn rhaid i mi bellach foddloni i gael fy nghyfrif yn "hynafgwr yn mysg gwỳr," er, ysywaeth, nad "yn gyfryw un a Phaul yr hynafgwr." Cymeraf y cyâe hwn heno i dafiu brasolwg ar y tymor hwnw; a gwn yr csgusodwch y cyfeiriadau persouol a wnaf. Bendithiwyd ii â rhieni o dduwioldeb diamheuol, a chyflwynasant fi mewn bedydd i'r Arglwyddtrwy ddwylaw y pregothwr mwy^fhyawdl a gyfododd erioed o'n cenedl—yr anfarwol John Eiias. Magwyd tì ar aelwyd grefyddol, ac i'r addysgiadau a dderbyniais yno, ac yn Ysgol S:xbbathol a societies y Methodistiaid, gyda'r rhai yr oedd fy rhieni yn aelodau, byddaf byth yn ddyledus. Dysgais yr Hyfforddwr, a rhai llyfrau cyfain o'r ysgrythyrau, heblaw canoedd o benodau a Salmau gwasgaredig, cyn fy mod yn ddeuddeg oed; a dyna sydd wedi bod i mi yn ystorfa gyíoethocai fy ngweinidcgaetb dros fy holi fywyd. Yn nyddiau fy mebyd, disgynodd fy llinynoedd inewn lieoedd hyfryd. Mwynheais y weinidog- aeth oreu, a gwrandewaia ar brif bregethwyr ein cenedl yn yr haner cyntaf o'r ganrif yma,a chewri oedd ar y ddaear yn y dyddiau hyny. C<3wri mewu cyrff a chew- ri mewn meddyliau, cewri mewn dawn a chewri mewn duwioldeb; agallaf yuhawdd faddeu i'r ycliydig hen bobl sydd eto yn aros am hiraethu ar ol y dyddiau gynt, a "blysio yr addfed ffrwyth cyntaf," er nad wyf ychwaith yn meddwl y byddaiy pregethwyr hyny, pe clywem hwy yu awr, y peth oeddynt i ni jTn y dyddiau hyny. Am y pymtheng mlynedd cyntaf o'm hoes, ychydig wrandewais ar neb y tuallau i gylch yr enwad gyda'r hwn y'm dygwyd i fyny, oddigerth unwaith ar Christma3 Evans, ac unwaith ar Williams o'r "Wern, ac unwaith ar Roberts, Llanbrynmair, ac unwaith ar Jones, Penybont ar-Ogwy, ac unwaithar Caledfryn, yrhwn, y pryd hwnw, yn ddyn ieuanc penfelyn, a bregethai o flaen yr hybar-ch John Roberts, Llanbrynmair. Clywais Thomias Aubroy a Rowland Hughes hefyd unwaith bob un; heblaw hyny, nis gwn a glywais i neb arall y tuallan i enwad y Methodistiaid, cyn fy mod yn bymtheg oed. Gwrandewais lawer ar John Elias, John Jones, Talysarn, a'i frawd, David Jones, Henry Rees, John Hughes, William Morris, Cilgeran, Ebenezer Richard, a'i frawd, Thomas Richard, John Evans, Llwyn- flbrtun, Morgan Howells, ac eraill o'r un tô, sydd wedi eu casglu at eu tadau cyn cof gan y genedlaeth bresenol. Clywais John Jones, Treflynon, a Richard Jones, Wern, a Richard Llwyd, Beaumaris, er nad oes genyf ond cof plentyn am danynt. Mae wedi ei ofyn i mi lawer gwaith yn ystod y dsugain mlynedd diweddaf, pa fodd y dygwyddodd i mi fod yn anufudd i draddodiadau fy nhadau, a gadaeí yr enwad gyda'r hwn y'm dygwyd i fyny, ac â'r hwn yr oedd rhyngwyf gynifer o linynau i'm cysylltu. Anaml yr wyf wedi myned i'r drafferth i ateb yr ymhol- wyr hyn, am y teimlwn eu bod yn holi yn f wy oddiar ymyraeth na dim arall; MAWRTH, 1881. * F