Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." -♦♦♦♦♦■ Jlitgau % faís. (gan h wf a mo n .)] Myned i ardd Gethsemana—a gawn, Er mwyn gwel'd CALFARIA; Awenydd, o newydd, wna Emyn nefolaidd yma. Ac am orig yma aros—gaffom, I adgoffa'r wylnos Y bu Ner, yn nyfnder nos, Yn ochain yn ein hachos. Gardd yw hon uwch gerddi anian,—a'i henw Yn synu'r byd cyfan; Cysegrol, ryfeddol fan, A ddenodd Dduw ei hunan. Engyl dan ei llaesion gangau—gwyrddion, Gerddant hyd ei llwybrau, I gael hoff gyd adgoffau Adeg yr ocheneidiau. Yr awel lem rewol yma,—o'r gwydd, Drydar y gerdd leddfa; Ar hyd y nos sibrwd wna Hir ludded yr AlL Adda. Y nos y llwybrai ein Iesu—i'r lle, Troai'r lloer i synu; Ai asur lawn a'i ser lu O'i herwydd i alaru. Y nos hon, Iesu'ì hunan,—o'i ofid, A yfai ein cwpan; Yn ei gur gruddfanai gan Ollwng ei galon allan. Ac ar y barug oerwyn,—drwy y chwâ, Deuai'r chwys i ddisgyn, IONAWR, 1881. A