Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'fí HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." gDSggbüoit €unfaî gr $*su:. (GAN Y PAROH. 0. EVANS, LLANBRYNMA.IR.) " Tranoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o'i ddysgyblion; a chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wel<? Oen Duw. A'r ddau ddysgybl a'i clywsant ef yn llefaru, ao a ganlynasant yr Iesu," &c. Ioan i. 35—51. Mae dyuion yn arfer teimlo dyddordeb neillduol yn hanes cychwyn- iad a dechreuad pethau mawrion a phwysig. Hyn sydd yn peri i rai anturio, trwy fyrdd o anhawsderau a pheryglon, i geisio dyfod o hyd i darddiad afonydd mawrion, ac i eraill olrhain a darllen yn awchus gyfrolau meithion o hanesiaeth henafol, er mwyn cael allan pa pryd, a pha fodd, y sylfaenwyd rhyw ddinas enwog, neu y sefydlwyd rhyw deyrnas neu ymerodraeth gref a hirbarhaol. Teyrnas Crist jw y deyrnas fwyaf a phwysicaf a welodd y byd yma erioed. Fe ddaeth efe allan, o weithdy y saer yn Nazareth, i sefydlu teyrnas nad oedd ymerodraeth eang a chadarn Rhufain, yn anterth ei gogoniant, ond megys tegan distadl mewn cymhariaeth iddi. Ac yn niwedd y benod gyntaf hon o Efengyl Ioan, yr ydym yn cael golwg arno yn dechreu ar y gwaith aruthrol fawr ac auhawdd hwn, a hyny mewn dull hynod o dawel a diymhongar, fel pe buasai yn ymaflyd yn y gorchwyl mwyaf rhwydd a chyffredin. Mae ei ddeiliaid yn rhifo myrddiynau erbyn heddyw, ond yma ni a gawn olwg ar y pum' dysgybl cyntaf fu ganddo erioed; ac yr ydym yn gweled y modd y dygwyd y naill a'r llall o'r rhai hyn i gredu ynddo. Fe gafodd dau o honynt eu dwyn at yr Iesu, trwy weinidogaeth Ioan Fedyddiwr (adn. 35—40); un, sef Thylip, trwy air Crist ei hun (adu. 43); un arall, sef Simon Pedr, trwy offerynoliaeth ei frawd Andreas (adn. 42, 43); ar llall, sef Nathanael, trwy gymhelliad a dylanwad ei gyfaill Phyíip, adn. 45. Diau fod yr hanes wedi ei fwriadu i osod allan y gwahanol ffyrdd trwy ba rai y byddai i ddynion gael eu dwyn at Grist o hyn hyd ddiwedd amser. Mae rhai yn cael eu dwyn i gredu yn y Grwaredwr trwy weinidogaeth yr efengyl, eraill trwy ddar- lleniad y gair ei hun yn uniongyrchol, y lleill trwy offerynoliaeth eu perthyuasau naturiol, a'r lleill drachefn trwy gynghorion a dylanwad eu cyfeillion a'u cymydogion. Fel y mae y naill ganwyll yn goleuo y llall, felly y dylai pob Cristion ymdrechu bod yn offeryn i wneud eraill yn gyfranogion o ras, yn ol yr esiampl ragorol a geir yn hanes y dysgyblion cyntaf hyn. Tra yr oedd Ioan Fedyddiwr yn pregethu yn niffaethwch Judea, a'r holl wlad yn cyrchu ato, y mae un bore, tua deg o'r gloch, fel y tybir, Hydref, 1880. * T