Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr ünwyd "yr annibynwr." -♦♦♦♦♦- (gan y parch. d. m. jenrins, liveupool.) [Anerchiad a draddodwyd yn y Cjfarfod Cyhoeddus a gynaliwyd mewn cysylltiad à dathl- iad Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbathol yn Liverpool. Cyfieithwyd a chyhoeddir hi ar gais Undeb Ysgolion Sabbathol Cymreig Liverpool a'r cyffiniau.] Fel cynrychiolydd TJndeb yr Ysgolion Sabbathol Cymreig, dysgwylir i mi ddweyd ychydig eiriau yn y cyfarfod hwn er egluro cyfundrefn o addysg grefyddol, ýr hon sydd, ar rai ystyron, yn neillduol, a'r hon o herwyddei neillduolrwydd, a saif yn hollol ar ei phen eihun,tybiaf, yn mysg holl gyfundrefnau eraill yr Ysgol Sabbathol trwy y byd. Ónd wrth gyflawni y gorchwyl dyddorol a osodwyd arnaf, mae genyf yr an- fantais o son am bobl, neiüduolion cenedlaethol y rhai a ddeallir ond yn anmherffaith gan gynulleidfa Seisonig, a sefydliadau a hanesiaeth crefyddol y rhai na fuont erioed, ofinwyf, yn destynau myfyrdod dwys iawn i'r rhan fwyaf o honynt. Wrth gwrs, mae digon o Saeson yn berffaith gyfarwydd âg agweddau anianyddol ac adnoddau naturiol ein gwlad. Grwyddant, er eu pleser a'u mantais, fod rhanau o Gymru yn llawn o'r golygfeydd mwyaf rhamantus ac ardderchog, a bod yr awyr- gylch yn ei dyffrynoedd ac ar lethrau ei mynyddoedd yn hynod o newydd a bywiog, a gwyddant hefyd y sieryd y bobl ryfedd sydd yn byw ar wahan yn ei threfi a'i phentrefi yr iaith fwyaf perseiniol a hen- afol. Oüd nid ydyw syniadau y byd allanol nior glir a chywir am gyflwr cymdeithas a dadblygiadau neillduol bywyd crefyddol y bobl. Mae yr iaith brydferth a henafol hon ar y ffordd, ac ychydig yw nifer y Saeson a anturiasant dros y terfyn goruchel hwn i gymdeithas wir- ioneddol â bywyd mewDol y Dywysogaeth un amser. Ond os bydd dathliad Canmlwyddiant yr Ysgolion Sabbathol yn Lloegr yn foddion i ddwyn Saeson a Chymry i werthfawrogi yn llawn- ach neillduolion cyfundrefn y naill a'r llall, ac i gorffori rhagorolion y ddwy genedl yn eu gweithrediadau dyfodol, credaf y bydd gan eglwysi y wlad fawr hon achos i ddiolch i Dduw am welliant o bob tu, ac am gaffaeliad newydd o nerth a grym mewn blynyddau dyfodol. Perthyna engreifftiau boreuaf yr Ysgol Sabbathol yn Nghymru, fel mewn rhanau eraill o'r wlad, i gyfnod y^jpihell cyn sefydliad y gyfun- drefn bresenol tua haner diweddaf y deunawfed canrif. Cynaliwyd dosbarthiadau ar nos Sabbathau, mewn cysylltiad â'r eglwysi Ymneill- duol hynaf yn siroedd Trefaldwyn, Aberteifi, Caerfyrddin, a Morganwg, yn foreu yn yr ail canrif ar bymtheg. Ond gan fod y dosbarthiadau Mem, 1880. R