Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." ►♦♦- tyûbtti gaihes a Cjjanmltonboiani gr fagol Sabba%I, (gan y parch. l. williams, bontnewydd.) Daw ambell i enw i fri ac anrhydedd, a throsglwyddir y son am dano o genedlaeth i genedlaeth, ac o oes i oes, o herwydd dygwydd o hono rywdro gael ei wisgo gan ryw berson o nod; yr hwn, trwy ei dalent- au dysglaer, ei wybodaeth eang, ei orchestion beiddgar, neu ei ddaioni cyffredinol, a'i hanfarwolodd. Tybia rhai weithiau fod enw yn gosod bri ar y person; o herwydd hyny chwiliant allan am y rhai mwyaf nodedig, a gosodant hwy ar eu plant, neu cysylltant hwy â'r eiddynt eu hunain. Ond llawer uwch y dyn a esyd fri ar enw, na'r hwn a ddysgwylia fri oddiwrth enw; tra mae y naill fel llafn o aur, yn bur drwyddo, nid yw y llall ond megys lwmp o glai goreuredig; rhwbier ef, a gwelir yn fuan ei waeledd. Perthyna gwrthddrych ein hysgrif i'r dosbarth blaenaf. Er i'w dad, a'i daid cyn hyny, wisgo yr un enw ag yntau, er hyny, nid hwy a osododd fri arno, eithr efe; daethant hwy i sylw yn eu perthynas âg ef, fel y daw ambell i seren i'i golwg yn y ffurfafen mewn cysylltiad â seren arall fwy nEhi ei hunan. Mab i argraffydd ydoedd Eobert Eaikes. ^an^wyd ef yn Caerloyw, Medi 14eg, 1735. Flynyddau lawer cyn ei em ef yr oedd ei dad wedi cychwyn, ar ei gyfrifoldeb ei hun, bapyr newyàd o'r enw The Gloucester Journal, hwnw oedd y nawfed mewn rhif a wnaeth ei ymddangosiad fel un taleithiol. Trodd yr anturiaeth allan yrî un lwyddianus iawn; cafodd gylchrediad helaeth, nid yn unig yn y sir hòno, ond niewn sir- oedd cylchynol. Ond cyfarfyddodd â rhwystrau lawer, rjiai o honynt yn galw am nerth penderfyniad cryf er gallu eu goresgyn. Yn gynar yn y Äwyddyn 1728, cyhoeddodd Mr. Eaikes yn ei bapyr adroddiad o weithrediadau íy y Cyffredin, yr hyn a waherddil gan y gyfraith. Am y trosedd hwnw o'i eiddo gwysiwyd ef i jmddangos o flaen y Ty i gael ei holi, ac i dderbyn ei ddedfryd. Fál'y canlyn y darllena hanes y trial, yr hwn a gyhoeddwyd Ebrill 8fed, 1728: "Eobert Eaikes, yn nghadwriaeth y Serçjeant-at-arms, a ddygpwyd o flaen y Ty, pryd ar ei liniau, y derbyniodd gerydd llym gan Mr. Llefarydd, a gorchymynwyd iddo gael ei ryddhau trwÿ dalu y costau." Fel prawf o bóblogrwydd y papyr yn y cyfnod hwn gellir nodi yr hanesyn canlynol, yr hwn a gyhoeddwyd yn un o'r rhifynau cyntaf o hono: "Apeliodd hen am- aethwr mursenaidd at argraffydd y Gloucester Journal, a chyda gwyneb- pryd difrifol dywedai, ei fod yn ofni nad oedd y blawdwyr a'r pobwyr yn darllen eu Beiblau ond yn anaml iawn, ond y gwyddai efe eu bod Awst, 1880. ' P