Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y D Y S G E D Y D D a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." ♦'•'♦ (Üogorwbbtt Jttto p g (Sfomúbog gîa:. (GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL.) "A HWY A OGONEDDASANT ÜDÜW TNOP FI."—GAL. i. 24. * Mae Paul yma yn amddiffyn ei apostoliaeth. Yr oedd dosbarth o athrawon, dan ddylanwad cenfigen at ei boblogrwydd a'i lwyddiant, yn gwneud eu goreu i grëu rhagfarn yn ei erbyn, drwy haeru nad oedd wedi ei alw yn rheolaidd i'r apostoliaeth. Llithiwyd rhai "eneidiau anwadal" i gredu hyny. Ymrwystrodd rhai oedd wedi rhedeg yn dda, ac oerodd sêl rhai unwaith a fu yn dangos mawr serch ato. Teiml- odd Paul fod angenrheidrwydd wedi ei osod arno, ar fwy nag un achlysur, i amddiffyn ei awdurdod fel apostol. Nid peth hyf- ryd i'w deimlad oedd gwneud hyny, ac nid peth hyfryd i deimlad- au gweinidogion eto ydyw gwneud hyny, ond gorfodir hwy weithiau gan hòniadau y rhai a fynant haeru mai ymyrwyr diawdurdod â pheth- au cysegredig ydynt i wneud hyny; a phan y teimlai Paul fod yr ym- osodiadau hyn yn ei erbyn yn milwrio yn erbyn llwyddiant ei weini- dogaeth, ni phetrusai wneud hyny, er mor groes ydoedd i'w deimladau. Mae yn nechreu y llythyr hwn yn disgyn ar y mater yn hollol ddi- gwmpas; "Paul apostol, nid o ddynion na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu G-rist, a Duw Dad." Nid oedd dim a fynai dynion â'i alwad i'r apostoliaeth, "Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y'm dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grrist." Mor bell ydoedd oddi- wrth fod dim a fynai y rhai oedd o'i flaen â'i apostoliaeth, fel nad aeth o ddim yn ei ol i Jerusalem am dair blynedd wedi ei ddychweliad; a'r pryd hwnw welodd o neb ond Pedr, ac Iago brawd yr Arglwydd; ac mor ddyeithr oedd ef yn "eglwysi Judea, y rhai oedd yn Nghrist," fel nad oeddynt yn ei "adnabod wrth ei wyneb;" "Ond yn unig hwy a glywsant fod yr hwn oedd gynt yn eu herlid, yn awr yn pregethu y ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai;" a'r fath oedd llawenydd yr eglwysi pan glywsant hyny nes peri iddynt ogoneddu Duw ynddo. "A hwy a ogoneddasant Dduw ynof íì." Grogoneddu Duw yn Paul, neu GOGONEDDU DUW YN Y GWEINIDOG DA. Mae angeu wedi gwneud bylchau mawrion yn ddiweddar yn rheng- oedd gweinidogaeth ein henwad. Bylchau nas gellir yn hawdd eu • Traddodwyd y bregeth uchod yn y Tabernacl, Liverpool, nos Sabbath, Ebrill '25ain, ac yn nglŷn â'r bregeth, gwnaed cyfeiriadau llawer helaethach at fywyd a chymeriad y Parch. R. Thomas, y rhai a adewir alîan, oblegid fod yr awdwr yn deall fod ysgrif ar ei fywyd a'i nodwedd i ymddangos yn yr uu thifyn o'r Dt8«idydd. i MEHEFIN, 1880. L