Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "YR annibynwr." Jlmcanion; gUIoûiutjî Êglforjatg, Mae dyn yn greadur cymdeithasgar. Ni chafodd ei grëu iddo ei hun, na'i ddanfon i'r byd yn blentyn unigrwydd. Mae natur yn ei ddysgu i gyfeillachu â'i gyd-ddynion, ac i gydweithredu â hwy; mewn canlyn- iad, cawn gymdeithasau dynol dan rwyniau cyffredin er cyflawni am- canion arbenig. Mae hefyd yn greadur crefyddol yn gystal a chymdeithasgar; mae ganddo ryw dybiaeth am fodolaeth Duw yr hwn a'i creodd. Mae rhywbeth o'i fewn yn dysgu iddo fod Duw yn teyrn- asu yn mhlith ei greaduriaid, ac mai ei ddyledswydd ef yw sicrhau ei ffafr. Gan ei fod wedi ei gynysgaeddu â natur grefyddol, neu duedd a chymhwysder i addoli, mae pob cenedl, hyd yn nod yn ei sefyllfa fwyaf anwaraidd, yn addoli rhyw fodolaeth sydd uwch na hwy eu hun- ain. Fel hyn, mae sylfaen crefydd gymdeithasol yn natur dyn. Mae ynddo duedd a gallu i grefydda yn gymdeithasol, yn gystal a gwlad- ydd.u yn gymdeithasol. Ond nid yw y ddyledswydd o aelodaeth eg- lwysig yn cael ei gadael i awgrymiadau ein natur, na chyfarwyddiadau ein rheswm yn unig. Sylfaenir hi ar egwyddorion purach, a thardd o uwch man, gorchymynir crefydd gymdeithasol gan air Duw—cwyd allan o'r hywyd Cristionogol. Felly y cawn Grist yn casglu cymdeithas o ddysgyblion pan oedd yma ar y ddaear, a gellir edrych arni fel yr arddangosiad cyntaf o eglwys dan yr oruchwyliaeth newydd. Mewn cydymffùrfiad â gorchymyn Crist, anerchir y Cristionogion ar y pwnc mewn lluaws mawr o fanau yn y Testament Newydd. Cawn yr apostolion a'u cynorthwywyr yn casglu yn nghyd y dychweledigion ieuainc, yn sefydlu cymdeithasau, ac yn gosod ynddynt swyddwyr, ac yn dwyn yn mlaen eu haddoliad cymdeithasol yn ol y rheol ddwyfol. Dyma ddechreuad yr Eglwys Gristionogol. Faint o hanesiaeth a chrefydd—faint o'r hyn sydd bwysig i ddyn fel teithiwr i dragwyddol- deb, yn gystal ac yn ddyddorgar iddo fel deiliad y byd hwn, sydd yn gysylltiedig â'r gair Eylwys. Y fath allu moesol, y fath dynged uchel, y fath weithrediadau dwyfol ac amcanion goruchel sydd yn gysyllt- iedig â hi; eto ni chamddeallwyd ungair yn fwy, ac nì chamddefnydd- iwyd un yn waeth; achlysurodd fìloedd o ddadleuon, oerodd gariad y saint, a chynhyrfodd deyrnasoedd i ryfela â'u gilydd dan gochl amddi- ffyn y ffydd. Trowyd hi i amddiffyn y dyraniaeth waethaf, a'r gor- thrwm creulonaf a welodd ein daear erioed. Mai, 1880. I