Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." ■»«•»»■ $*nrg Mntìì §mj}*r. [Cyfieithwyd yr eithygl a ganlyn allan o un o gyhoeildiadau Protestanaidd goreu a hynaf Ffrainc, pa un sydd dan olygiaeth yr enwog È. de Presennse, ar gais Golygydd y DrsG- BDTDD, gan y Parch. Ctnffig Dàvies, Menai Bbidge ] Er na wyddys llawer iawn am H. W. Beecher yn Ffrainc, y mae yn enwog yn Ngogledd America. Priodolir iddo gan ei edmygwyr ath~ rylith; cydnebydd ei wrthwynebwyr fod ganddo dalent tuhwnt i gystadleuaeth; a chyfaddefa pawb ei fod yn arfer dylanwad eang. Ceisiwn gyfrif am y dylanwad hwn a'i esbonio. Mae efe yn un o'r personau mwyaf gwreiddiol a hynotaf yn ein hoes. Yn yr efrydiad yma cynygiaf amlinellu rhai o'i nodweddion. Ganwyd H. W. Beecher ar y 24ain o Fehefin, 1813, yn Lichfield, tref fechan yn Connecticut. Mae rhai gwledydd yn ífrwythlawn mewn dynion enwog. Y mae New England felly i radd tra uchel—wedi ei phoblogi gan y Puritaniaid, ífydd pa rai oedd danllyd a diblygu—y mae ysbryd y tadau yn y plant. Cryd Annibyniaeth Americanaidd, mae calonau wedi curo ynddo yn wastad dros Dduw a thros ryddid, hyd yn nod yn nghanol enciliadau gwrthun Undodiaeth, pa rai nid oeddynt ddim amgen o ran eu tarddiad na gwrthryfel y teimlad crefyddol a moesol yn erbyn athrawiaethau eithafol. Yma y cododd y mudiad i ddilëu caethwasiaeth. Dyma fam-wlad yr uwchanianydd Jonathan Edwards, y darganfyddwr Benjamin Franklin, W. Ellery Channing, yr hanesydd Bancroft, y meddyliwr Emerson, a'r bardd Longfellow. Y mae rhai teuluoedd hefyd wedi eu breintio yn rhyfeddol. Teulu felly yw eiddo y Beechers. Ei dad, y gweinidog a'r prifathraw duwin- yddol, a gyflwynodd ei hyawdledd tanbaid i wasanaeth yr achosion mwyaf ardderchog. Yr oedd ei fam yn wraig dra nodedig; efe a gyf- lwyna iddi hi yr anrhydedd am ran bwysig o'i ddadblygiad crefyddol a moesol. Ei frodyr oll ydynt wŷr o safle uchel. Drwy un llyír y mae ei chwaer, Mrs. Beecher Stowe, wedi enill enwogrwydd gogoneddus, pan nad oedd yn bwriadu gwneud dim mwy drwyddo na chyflawni gweithr^d dda; enw y llyfr yw, "Caban fy Ewyrth Tom." Ehoddodd, fel y bernir yn gyffredin, ddyrnod farwol i'r sefydliad atgas o gaeth- wasiaeth. Mewn cylchoedd eraill, a thrwy foddion gwahanol, H. W. Beecher a ddeil i fyny yn aurhydeddus yr enw a wisga. Nid oedd cychwyniad ei yrfa, mewn un moddj yn ddysglaer. Ar ol efrydu llenyddiaeth yn Ngholeg Amherst, a duwinyddiaeth yn Seminary Ebrill, 1880. o