Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD AR HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." (GAN y parch. w. nicholson, le'rpwl.) "A'r Danielhwn a lwycldodd yri nheyrnasiad Darius, ac yn nheyrnasiad Cyrua y Persiad." Dan. vi. 28. [Traddodwyd y syhoadau canlynol yn addoldy Grove Street, Lërpwl, nos Sabbath, Tachwedd 9fed, 1879, ar gais pwyllgor yr "Young Men's Christian Association" a chyhoeddir hi ar ddymuniad Cymdcitlias Choyr Icuainc yr eglwys dan fy ngofal; a'm gweddi ydyw ar iddi brofi ynfendith ychwanegol iddynt hv:y ac eraill.] Daeth Daniel yn wr ieuanc dibrofìad i dref fawr o'r enw Babilon. Llwyddodd yn ddirfawr, gan enill ífafr gerbron Duw a dynion; a bwr- iadwn yn awr sylwi ar rai o elfenau ei lwyddiant. Yr oedd ganddo un fantais, ac un anfantais, y rhai ni wyr gwŷr ieuainc Cymreig Liver- pool dditn ani danynt. Ymddengys ei fod o waedoliaeth pendefigaidd. Ni ddywedir, mae yn wir, ei fod o'r had brenlúnol; ond pan chwiliodd Aspenaz, pen-ystafellydd y brenin, am "rai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin"—rhai "o'r had brenhinol, ac o'r tywysogion" oeddynt i fod, a chafwyd Daniel a'r tri llauc o'u nifer. Mae gwaedol- iaetli, boneddigeiddrwydd, ac urddas teuluol yn amddiffynfeydcí cedyrn. Dyma fantais Daniel. Ond er ei gysylltiadau teuluol, yr ydoedd yn gaethwas. Cymerwyd ef o Jerusalem yn y gaethglud gyntaf o eiddo Nebuchodonosor, yn fuan wedi dechreuad teyrnasiad Jehoiacim. Mae ein rhyddid gwladol a chrefyddol genym ni wedi ei bwrcasu yn ddrud â gwaed gwroniaid gynt, ac yn disgyn i ni fel cynysgaeth. Diolchwn i'r Arglwydd am dano. Ond yr oecíd Daniel yn gaethwas, a brwydrau rhyddid ì'm^ hymladd a'u lienill ganddo. Dyma ei anfantais. Ond heb ragarweiniad hŵy, sylwn ar rai o elfenau ei lwyddiant. 1. Ì!r oedd Daniel o fcddwl ymchwügar, ae yn sijchedig am wgbod- aeth. Tebygai i fab Jesse yn y peth hyn. Pan nad oedd Dafydd eto ond llanc, yr oedd son am dano fel "un yn medru canu, yn rymus o nerth, ac yn rhyí'elwr, ac yn ddoeth o ymadrodd hefyd." ("SMlful in worda," medd ymyl y ddalen a'r LXX, am "'doeth o ymadrodd;" a chredir fod yma gyfeiriad at awen farddonol Dafydd, i wasanaeth yr lion yr ystwythai holl eir-gangau yr hen Hebiaeg, gyda hyblygrwydd helyg îr.) Yr oedd yr ymadroddion hyn yn cael eu cylchdaenu am Dafydd cyn iddo eto ladd Goliath. Efrydydd o'i febyd oedd per ganiedydd Israel. Bernir nad oedd Daniel ond rhyw 15 neu 16 oed pan ddygwyd ef i Babilon. Yn iuan wedi bu arholiad ar fechgyn y gaethglud. Awyddai y brenin, fel y crybwyllwyd eisoes, gael rhai o'r had bre- nhinol ac o'r ty wysogion, i sefyll ger ei fron, ac i weini arno. Aspenaz oedd yr cxami/ier; a'r rhai a ddeuent i fyny â'r safon, a enillent Ëiiufs Ionawr, 1880. A