Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. RHAGFYE, 1849 DYLANWAD CYNHYRFIADAÜ AR GREFYDD YN NGHYMRÜ Y CAN MLYNEDD DIWEDDAF. CAN Y PARCH. D. MORCAN, LLANFYLLÍN. Ymdrechasom, yn y Rhifyn diweddaf, ddangos fod dyn, o ran ei gyfansoddiad naturiol, yn greadur sydd yn meddu ar gydwybodolrwydd a serchiadau addas i fod yn ddeiliad cyffroad; a bod crefydd, o ran ei natur, ei phethau, a'r modd tarawiadol yr eglurir hi, yn gymhwys i effeithio byny. Ni a gynnygiwn, yn bresenol, eglurhad ar natur y cynhyrf- iadau byn. 1. Nis gellir dysgwyl cynhyrfiadau yn y byd hwn heb fod gwaeledd a sothach yn gymysgedig â'r goreu o honynt. Y mae gwir grefydd yn ei natur a'i heg- wyddorion yn wahanol iawn i'r teimladau a'r cynhyrfìadau a ddichon fod yn gy- sylltiedig â'i llwyddiant. Y mae mor wahanol ag yw rhuad y dwfr pan yn treiglo rhwng y creigiau, a phan yn rhedeg ar byd y doldir. Y mae crefydd, ynddi ei hun, yn berffaith bur a syml; ond y mae y cynbyrfiadau, fel y gellid dysgwyl, yn llawn o gymysgedd, canys gweithrediadau teimladau dynion llygr- edigydynt; a gallant darddu yn gwbl, neu mewn rhan, oddiar lawer o bethau heblaw yr hyn sydd wir grefyddol. Gall y rhai grymusaf, dros ychydig, godi oddiar gyd-deimlad a chyd-darawiad â tbeimladau cynhyrfus mewn dynion eraill, wrth eu gweled, neu glywed am danynt. Y mae teimladau cynbyrfus yn bethau heintus. Gall y naill eu cael oddiwrth y llall heb fod un egwyddor iddynt, na chan eu deiliaid yr un rheswm paham y maent felly, ond yn unig fod eraill yr un fath. Mewn claddedigaeth y marw, pan y byddai y pertbynasau yn ddrylliog eu teimladau, ac yn gollwng dagrau o galoa friw, gwelwyd eraill yn wylo wrth eu canfod, er eu bod yn ddyeithr i un briw calon, ond cyd- darawiad y tymherau yn unig. Bryd arall, dichon swn a thwrf mawr, a Uawer o ddryllio teimladau fod heb y gwaith da—dim ond ychydig o beth dystaw, yn nirgel ddyn y galon, megys ag yr oedd gyda Elias gynt yn yr ogof yn mynydd Horeb. Yr oedd y gwynt mawr a chryf yn rhwygo y mynyddoedd, daeargryn yn dryllio y creigiau, a'r tân yn fflamio; ond nid oedd yr Arglwydd, drwy y pethau hyn, yn effeithio i gyrhaedd yr amcan. Y llef ddystaw fain oedd yr hyn a ddarostyngodd feddwl yr hen brophwyd; a hon ydoedd goruchwyliaeth anweledig Duw i sicrhau iddo ei hun saith mil o wýr yn Israel rhag plygu eu gliniau i Baal, yn wyneb y dirywiad mawr hwnw. Hefyd, yn nammeg ad- feriad y dryll arian a gollasai y wraig— yr oedd yno oleuo canwyll, ysgubo y tý, a symud y dodrefn, pan nad oedd ond un dryll i'w gael er cymaint y cynhyrfiad. Fel y mae y gwynt mawr yn ysgwyd yr holl goedwig, pan na bydd ond ychydig nifer o'r coed wedi eu dadwreiddio, felly y mae Duw yn ysgwyd gwlad neu ardal, pan, efallai, na bydd ond ychydig nifer yn cael eu symud o farwolaeth i fywyd, wedi y cwbl. Y mae cynhyrfiadau cref- yddol, fel moddion crefyddol eraill, yn bethau a ellir eu defnyddio i ddybenion gwarthus, yn gystal a rbai daionus. 3. Y mae y cynhyrfiadau byn yn bethau persouol, lleol, cylchynol, a graddol. Y mae personau unigol duwiol a cbadarn wedi bod yn ddeiliaid teiml- adau mor gynhyrfus nes eu gorchfygu ganddynt, nid yn unig trwy ddatguddiad