Skip to main content

Y DYSGEDYDD. TACHWEDD, 1849, DYLANWAD CYFFROADAU Y CANRIF DIWEDDAF AE YE EGLWYSI, CAN Y PARCH. D. MORCAN, LLANFYLLIN. Y mae y pwnc uchod wedi ei eirio yn y fath fodd, fel y mae yn anhawdd iawn i neb wybod am ba beth y mae i ysgrif- enu; oblegid pa gyffroadau a feddylir sydd yn dylanwadu ar yr eglwysi? Y mae gwahanol gyffroadau yn bod—cy- ffroadau gwladol, eglwysig, corfforol, a meddyliol. Cymerwn ni y drefn ganlynol er egluro ein meddwl. 1. Y mae dyn yn greadur sydd i weith- redu trwy gyffroadau. Dyma ydyw ei gyfansoddiad naturiol. Y mae gan ddyn feddwl i ddirnad y pethau a berthynant iddo ei hun a'i ddedwyddwch. Y mae yn rhaid ei fod yn ymwybodol o'i anni- gonolrwydd i fod yn ddedwyddwch iddo ei hunan, onide ni byddai modd iddo ddirnad ei fod yn greadur, ac yn gyfrifol. Y Creawdwr yn unig sydd yn Fod ym- wybodol o'i holl ddigonolrwydd ei hun. Ymaederbyngarwch hefyd i argrafBadau yr hyn y mae yn ddirnad yn hanfodol i'r meddwl dynol. Gelwir yr argraffiadau hyn yn deimladau y meddwl sydd yn ddeiliad o honynt. Yr ymwybodolrwyd<1 o'r annigonoldeb sydd yn nghyfansoddiad y meddwl a achosa iddo ddymuno a cheisio yn wastadol yr hyn sydd tu allan iddo ei hun er gwneuthur i fyny ei ddi- ffygion mewn dedwyddwch. Yn ol y ddirnadaeth fyddo gan y meddwl o berygl a methiantmeddu, a siomedigaeth yn ngwrthddrych ei gais, y mae yn naturiol fod ynddo ofn pryderus, ac arswyd brawychus o fod yn amddifad o honynt; oblegid hyny a'i gwnai yn annedwydd. Ond yn ol fel y mae yn dirnad tebygolrwydd a chadernid seiliau meddiant o wrthddrychau ei gais, y mae yn naturiol fod ynddo gyffroad cynhyrfus a grymus o obaith a hyder am fwynhad o'r pethau hyny. Ac yn ol y ddirnadaeth sydd yn y meddwl o sicrwydd mwynhaol o wrthddrychau ei gais, y mae yn naturiol fod ynddo gyffroad cynhyrfus o bleser, llawenydd, a gorfol- edd; oblegid y mae yn cael yr hyn a ddymunai. Y teimladau hyn ydyw y prif rydweliau (arteries) mawr sydd yn dwyn allan nerth a bywyd y meddwl dynol mewn ysgogiadau a gweithrediadau yn barhaus. Y mae Huaws o ís-deiml- adau eraill yn perthyn i'r rhai hyn, ag sydd yn wasanaetbgar i gynbyrfiad ac ysgogiadau y meddwl i fyned trwy gylch ei weithrediadau, ar ba rai ni chawn aros yn bresenol. Gwelwn yma mai ymwybodolrwydd o annigonoldeb y dyn ei hun ydyw ffynnonell holl deimladau y meddwl dynol, ag a achosa ysgogiadau cynhyrfus a bywiog ynddo: gan hyny, y mae pob athrawiaeth a gweinidogaeth a duedda i guddio hyn o olwg y meddwl, a gwenieithio i'r dyn ei fod yr hyn nad yw, nid yn unig yn arwain i siomedigaeth a thwyll, ond hefyd yn gwanhau ac yn Uadd ei deimladau yn eu gweithrsdiad priodol. Y mae trwy hyn yn arwain y dyn i edrych, i ddysgwyl, ac i ymlon- yddu yn yr hyn sydd ganddo ei hun, am ei gymhorth a'i ddedwyddwch. Dyma yr hyn a wnaeth y twyllwr cyntaf â dyn pan y dywedodd, "Chwi a fyddwch megys duwiau." Hwn oedd yr abwyd gwenwynig a roddwyd o'i flaen; a phan y'i llyncodd, lladdwyd pob teimlad ynddo atffynnon gwir ddedwyddwch, a suddodd ei holl deimladau iddo ei hun, ac i'r 2 s