Skip to main content

Y DYSGEDYDD. HYDREF, 1849 OOFIANT Y DIWEDDAR RICHARD PAERY, FFRIDD, GEB LLANERCHYMEDD, MON, YR HWN A FU FARW CHWEFROR, 7, 1849, YN 74 MLWYDD OED. Gwrthddrych ein Cofiant a anwyd yn Llanerchymedd, yn y flwyddyn 1775. Ei dad ydoedd John Parry, Ysgolfeistr, yn y dref uchod, a'i fam oedd Margaret Forsyth, merch i John Forsyth, Mas- nachydd o Glasgow, a Margaret Jones o'r Yoke House, ger Pwllheli, swydd Gaernarfon, y rhai a sefydlasant yn Llanerchymedd. Bu farw tad a mam Richard pan yn bur ieuanc, a chymer- odd ei ewylhr, John Forsyth, mab i'r uchod, ef o dan ei ofal, ac a'i magodd yn grefyddol yn moreu ei oes; ac nid o ie fyddai i ni sylwi yma mai y John Forsyth olaf a enwyd oedd un o'r rhai a goleddodd grefydd yn y dref hon gyntaf, a bu gwrthddrych ein Cofiant gydag ef pan yn blentyn yn y cyfarfod neillduol cyntaf erioed a gynnaliwyd yn Llanerch- ymedd, yn nbŷ un John Thomas y Troellwr, a bu John Forsyth yn noddwr ffyddlon i'r achos crefyddol yma tra bu efe byw. Priododd gwrthddrych ein Cofiant Margaret, wyres i Thomas Williams o'r Pentre, yr hwn a'i magodd. Yroeddef hefyd yn un o amddiffynwyr cyntaf crefydd yn Môn; a phan yr oedd o dan boethder angerddol erledigaeth, ymneill- duodd Thomas Williams a'i wraig i Drefecca, Ile y buont am ryw byd yn mwynhaugweinidogaetb y Parch. Howel Harris; ond gwelsant y gyfundrefn gyffredinol hòno yn anysgrythyrol ac yn afresymol, a dychwelasant i Fôn, i'w hen gartref, a chynnaliasant bregethu yn eu tŷ ardrethol eu hunain am lawer o flynyddau. Yr oedd Richard Parry yn un o sylfaenwyr yr Ysgol Sabbathol yn Llan- erchymedd, ac yr oedd yn ddyn o ddeall cryf a chraffus, ond nid oedd ei ddoniau naturiol yn hylithr. Bu yn fasnachydd cyfrifol am yspaid maith, ond ni wenodd rhagluniaeth ar ei amgylchiadau mas- nachol; er hyny, efe a lynodd gyda chrefydd dros dymmor maith ; ac er ei bod weithiau yn dywyll arno, etto yr oedd ei egwyddor (fel nodwydd y morwr yn annelu at begwn y gogledd) a'i hannel yn uniongyrchol at Grist croeshoeliedig fel yr unig fan am fywyd; a bu yn ffydd- lon gydag achos crefydd. Magodd ddeuddeg o blant, o ba rai y bu tri feirw; ac y mae naw yn fyw, a saith o'r naw yn proffesu gyda'r Annibynwyr. Y mae un o honynt yn weinidog parchus, sef y Parch. R. Parry o Lanymddyfri, swydd Gaerfyrddin (gynt o Gonwy); ac un arall yn fardd enwog, sef Mr. Thomas Parry, (Llanerchydd), yr hwn hefyd sydd ddiacon ffyddlon yn yr eglwys y perthynai ei dad iddi. Ymneillduodd gwrthddrych ein Cofiant o swn a thrafferth y byd, gan adael heibio fasnach, ac a aeth i fyw i ffarm fechan tua dwy fìlldir o'r ciref, lle y treuliai y rhan fwyaf o'i amser i ddarllen a myfyrio ar betbau byd arall, ac ni chai neb fod yn hir yn ei gymdeithas heb glywed rhyw darawiadau cyffroawl am ffordd iechydwriaeth trwy ras yn unig, ac am y tragwyddoldeb ag yr oedd yn byw mor agos iddo. Teithiodd ar ei draed ddwy filldir o ffordd, er ei fod yn gloff, am na allai farchogaeth, bob wythnos, trwy bob tywyddi'rgyfeillachgrefyddol, a'ifeddwl yn llawn, a'i serchiadau yn gynhes, a'i ddeall yn fywiog—ac yn ei ddull dirodres a diaddurn, ond syml ac effeithiol, dy- wedai ei brofiad ei hun, a chynghorai 2 o