Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MEDI, 18 4 9, COFIAIT CATHEEOE PRICE, DIWEDDAR BRIOD Y PARCH HUGH PRICE, GWRECSAM. Gwrthddrych y cofìant iiwo oedd ferch Hugh a Jane Pugh, gynt o Riwogo, yn mhlwyf Talyllyn, yn agos i Ddolgellau ; ei rh'ieni oeddynt aelodau selog o'r Eglwys Sefydledig—ac felly y cafodd hithau ei dwyn i fyny; ond er y byddai hi a'i theulu yn tnyned yn gyson i'r Eglwys ar y Sabbathau, ac iddi i'el aeiod o deulu amaethwr parchus gael gwell manteision na llawer i gyrhaedd gwyb- odaetli ac addysg, a chael ei dwyn i fyny yn ofalus o ran moesau, etto nid oes nemawr le i gasglu fod y gwirionedd, yn ysbrydolrwydd ei natur, wedi gwneuthur nemawr argraffarosol ar ei meddwl, hyd nes oedd tuag ugain mlwydd oed. Bydíìai yn ei hieuenctyd yn arfer myned yn achlysurol i wrando y Trefnyddion Calfìnaidd yn pregethu, heblaw myned gyda'r teulu i'r Eglwys; ond dan wein- idogaeth y diweddar Barch. Edward Jones, Bathafarn, un o'r gweinidogion cyntaf perthynol i'r Trefnyddion Wesley- aidd, a ddaeth i'r ardal hòno i bregethu yr efengyl, yrymwelodd Duw yn effeith- iol à'i meddwl. Meddylir mai y lle y rhoddodd hi ei hun yn benderfynol uyhoeddus i'r Arglwydd a'i bobl, oedd yn Nühaerberllan, Llanfihangel, neu yn Nghorris, yn mhlwyf Talyllyn, tua'r fiwyddyn 1804 neu 1805. Nid oedd gan y Trefnyddion Wesleyaidd addoldai i bregethu ynddynt tua'r amser hwn, yn yr ardaloedd hyny. Cyfarfyddodd hithau fel llawer un â rhai croesau wrth gychwyn ei gyrfa gyhoeddns gyda chrefydd. Heblaw fod ei mam yn nodedig o selog dros yr Eglwys Wladol, (yr oedd ei thad erbyn hyn wedi ei gladdu) ao felly hwyrach beth yn anfoddlon iddi ymuno ag un enwad arall o grefyddwyr; cwynid gan ei theulu yn ei herbyn hi, ac eraili, eu bod yn cynnal eu moddion yn rby hwyr y nosweithiau. A thrwy eu bod fel crefyddwyr ieuainc yn llawnach o sel na gwybodaeth a doethineb gyda'u gilydd, ac yn arfer dysgu canu yn nghyd yn fynych, y mae yn ddigon tebygol fod peth priodoldeb yn y gŵyn hefyd. Yr oedd dysgu canu yn wir angenrheidiol ar y pryd, a phriodolir llawer o lwydd- iant yr achos yn Nghorris, a manau eraill fdan fendith y nef) i'r canu; ond er mor angenrheidiol ydoedd, peth eith- af hawdd i raddau oedd bod yn annoeth, a chadw y cyfarfodydd hyn yn rhy hwyr, fel ag i beri gradd o anghyfleusdra i deu- luoedd; nid oes dim yn fwy gweddaidd a hyfryd na chadw atamser priodol gyda moddion gras. Wrth fyned adref un noswaith, o un o'r cyfarfodydd hwyrol hyn, bu gwrth- ddrych y cofiant mewn dirfawr berygl am ei bywyd. Yr oedd y llwybr adref trwy le hynod ddyrys, a elwid "Ceunant y Pentre," a thrwy fod y nos yn neillduoi dywell, collodd y ffordd; ac yn ei braw yn y fath sefyllfa anghysurus syrthiodd ar ei gliniau i erfyn nawdd ei Thad nefol; a thra yn yr agwedd hòno yn tywallt ei chwynion wrth orsedd gras—chwalodd y cymylau, a chiliodd y tywyllwch ym- aith i'r fath raddau, fel y deallodd yn mha le yr ydoedd, ac y canfu ei bod at ymyl y fath ddibyn, ag y buasai myned drosto yn angeuar unwaith, a phe buas- ai yu myned yn mlaen ychydig gamrau cyn ymostwng ar ei gliniau, drosodd y buasai: mawr a manwl y w gofal Duw am ei blant. Bu y tro dan fendith neillduol i'w meddwl, er daugos iddi mewn modd anilwg fod Duw yn noddfa i'w bobl mewn cyfyngder.