Skip to main content

Y DYSGEDYDD. AWST, 1849. ATHRAWIAETH Y BARNAU, GAN Y PARCH. T. ROBERTS, LLANUWCHLLYN. [Mae yn hysbys i rai ddarfod i ni ysgTifenu pedwar o draethodau ar destun cyffelyb o'r blaen i gyhoeddiad arall, a theg ydyw hysbysu, fod ein golygiadau, er y pryd hwnw, wedi myned dan radd o gyfnewidiad. Gwelir nad yw y traethodyn hwn, gyda gosod y testun ar hwyl, oud prin drafod un o'r amrywiol osodiadau sydd ynddo wedi eu rhoi i lawr, a'r un hwnw, efallai, y lleiaf ei bwys o'r cwbl: ymdriniwn, ond odid, â'r cyfan yn eu tro; yn nghyda thraethawd ar natur gwyrthiau mewn cysylltiad â hwynt, yr hwn awgrym a dderbyniwyd yn garedig er's tro yn ol oddiwrth gyfaill dysgedig o enwad arall.] Mae tuedd mewn dyn i dybio fod ei amddiffyn yn deilliaw tu allan iddo ei hun, a bod a fyno ei ymddygiad a'i am- ddiffyn rywbeth â'u gilydd. Nid yw y Gorucbaf yn edrychydd difraw arno, na'r byd wedi ei adael i'w dynged; yn ei drallodion mae gwg, ac yn ei lwyddiant, ffafr. Dan yr argraff hon, dyry i'w fywyd reol, i'w grefydd.ffurf, a Duw barch. Mae y cyfryw dyb yn hanfodol iddo, yn hanfodol i'w foesau, i'w deimlad, ac i'w fod; dwg allan y rhinweddau mwyaf pur, dyry obaith a ffydd mewn ymarferiad, a gesyd ar ben dynoliaeth yr anrhydedd mwyaf goruchel. Mae yn hawdd ei chamddefnyddio, ac o hyn mae perygl. Ei dylanwad sydd gref, eang, ac o gan- lynìadau annhraetbol. Rhodder iddi ormod rhwysg, ac mae dyn yn hygoelus; cyfynger arni, ac mae yn anifail. Yn mhlith y bobl, mae natur iddynt yn unig athraw; mae ei hawdurdod yn unigreol. Yno, nid oes na gwaith, nac amcan, na dyfodiad i mewn, na mynediad allan, na lywodraethir y cyfan gan y cysegredig ofal hwn. Gwên eu duwiau yw eithafion eu dymuniad ; eu gwg, eithafion eu hofn. Gofidiau a thrallodion a wasanaethant i'w chryfhau, ac nid anaml yr ymsudda i ofergoeliaeth drwyadl. Yna, mae dyn yn gaethwas, ofn wedi ei ddwyn dan awdurdod, a'i holl fywyd yn wasaidd. Mae cyfyngderau y blynyddoedd di- weddaf, methiant y cloron, prinder yr ýd, cydlethiad cyffredin masnach, y wasgfa a'r caledi sydd wedi ein dal, wedi rhoddi cyfodiad newydd i bwnc ag oedd er's talm wedi ei gladdu, ac ysgogiad i ddadleuon ag oedd er's amser wedi eu gollwng dros gof. Y mae i bobpeth ei dymmor. Yr oedd athrawiaeth y barn- au, gwaith Duw yn ymyraeth â chyfan- soddiad y byd, i raddau mwy neu lai yn cael ei gredu, ac i raddau mwy neu lai yn cael ei bregethu, yn mhob oes, yn mhlith pob cenedl, a than bob gweini- dogaeth. Ond ar amserau nodedig, pan fyddai rhagluniaeth oddiwrth ei dull cyffredin yn gŵyro, a dygwyddiadau anarferol yn cymeryd lle, byddai y pwnc yn caeth-ddal pob meddwl, ac yn dirgy- mhell ei hun ar bob calon. Y fath ydyw nodweddion y blynyddau diweddaf. Mae y wasg a'r pulpud wedi dyfod allan yn mblith y llu i edrych ar ddy- eithrwch y weledigaeth, ac i ddeongli yr achos. Dywed y wasg nad oes dim yn oruwchnaturiol ynddi, a'r pulpud fod; dywed y naill mai gweinidogaeth dyn ydyw, a'r llall mai gweinidogaeth Duw ydyw; dywed y wasg fod y pulpud yn goelgrefyddol, a'r pulpud fod y wasg yn hanner anffyddiwr. Ond heb gymeryd ein llithio gan dalent y naill, na dyben- ion didwyll y llall, cymerwn ein cènad i'w chwilio drosom ein hunain. Nid ydym heb deimlo yr anhawsder sydd yn gorwedd o bob ochr, a'r anfanteision y mae iaith yn ein go9od gyda golwg ar y fath destun: mae scylla a charybdis yn sefyll o bobtu, a'r ddau mor beryglus a'u gilydd; ac os na bydd i ni lwyddo yn mheliach na dangos nad y w y pwnc mor hawdd i'w benderfynu ag y tybia llawer ei fod, nid ofer ein gwaith. Yr ydym yn addef fod y defnydd mae rhai pregethwyr wedi ei wneud o ddyeithr weinyddiadau rhagluniaeth yn aml yn ymylu ar gabl- edd, a'r parodrwydd gyda pha un y maent yn cyhoeddi pobpeth sydd dywyll yn farn, yn fynych yn esgyn i orphwyll- dra; ond byddai eu hattal i'r unrbyw ormod rhysedd, ar draul gwadu yn gyfan- gwbl ragluniaeth neillduol y Goruchaf yn y byd, a'i deyrnasiad arbenig yn mrenhiniaethau dynion, yn rhy ddrud; 2 F