Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. GORPHENAF, 1849 COFIANT MES, MAEGAEET EVAKS, GWRAIG MR. RICHARD EVANS, MASNACHWR, DINAS MAWDDWY. Mae amgylchiadau wedi codi llawer dyn, fel cribyn noeth y mynydd uchel, i sylw gwledydd, tra mae eraill mwy prydferth yr olwg, a llesiol eu dylanwad, fel cang- henau ffrwythlawn wrth ffynnon, o'r golwg ond i ycbydig. Yn ofer yn fynych yr edrychwn i balasau y mawrion, i gymdeithasau tywysogion, a chylchoedd mwyaf anrbydeddus y byd hwn, am rinweddau Cristionogol yn blodeuo, a pherarogl crefydd yn ymwasgaru ; canys mae yr awyr a anadlir yno yn rby lygr- edig, a'r awelon a chwythant yno yn rhy ddeifiol, i blanhigion tyner gwinllan Duw. Eithr mewn Ueoedd anghyhoedd ceir (diolcb i Dduw) lawer Cristion fel pren ar làn afonydd dyfroedd, yn rhoddi ei ffrwyth yn ei bryd, a'i ddalen heb wywo, ac yn llwyddo yn mha beth bynag a wnelo. Ac y mae pawb a adwaenent yn dda wrthddrych y Cofiant hwn yn alluog i dystio ei bod yn ganghen ffrwyth- lawn, a bod ei chalon a'i henaid yn hynod helaeth dan ddylanwad crefydd y Gwaredwr. Ganwyd Mrs. Margaret Evans yn nechreu y fiwyddyn 1795, yn Melin Cerist, yn ymyl Dinas Mawddwy. Yr oedd ei rh'ieni, John a Jennet Davies, mewn amgylchiadau cysurus, ac yn grefyddol—efe yn aelod rheolaidd a selog iawn o'r Eglwys Wladol, a hithau o'r Eglwys Annibynol yn y Dinas. Dau o blant oedd iddynt. Yr hynaf—Row- land Davies—a briodwyd â Margaret Davies, nith i wraig y Parch. W. Hughes, Dinas Mawddwy: yr oedd yu nith hefyd i Mr. John Roberts,* Tallow Chandler, Utica; a hwy a ymfudasant i America yn 1819, ac ymsefydlasant yn Durfield, yn agos i Utica. Ỳr oedd Margaret, yr ieuangaf, yn meddu argraflìadau cref- yddol dwys iawn yn fore; a phan yn agos i 15 mlwydd oed, derbyniwyd hi i gymundeb yr Eglwys Annibynol yn y Dinas gan y Parch. Ẁ. Hugbes. Dech- reuodd ei gyrfa grefyddol yn fore, a * Yr oedd Mr. John Rolierts yn un o'r oelodnu cyntaf yn y Dinas gyda'r Annibynwyr. dechreuodd yn ddifrifol. Teimlai yn y cychwyniad nad oedd yn ddigon iddi ryfeddu duwioldeb Joseph, Daniel, ac eraill oedd yn enwog am ofni Duw a chilio oddiwrth ddrygioni; ond fod rhaid iddi hithau ymlwybro felly hefyd. Yn y cychwyniad, dewisodd y rhai duwiolaf yn gyfeillesau iddi, ac ymarferai dduw- ioldeb yn y gyfeillach. Yr oedd yn ofalus iawn bob amser am y moddion crefyddol. Cyn i'r Ysgol Sabbathol ddyfod i sylw, teithiai o ddeg i ddeuddeg o filldiroedd i'r cyfarfodydd pregethu a gweddio bron bob Sabbatb. Ond nid gwneud hyn yr oedd hi i'r dyben o borthi tueddiad segur a rhodianllyd dan rith crefydd, eithr newyn a syched am y gair, ac awydd i wneud ei dyledswydd, a'i cadwai yn y diwydrwydd yma. Nid oedd neb a allai ei chyhuddo o hel o le i le gyda'r segur, er gweled a chael ei gweled. Y mae y ffaith, na fu mewn un ffair o'r amser yr aeth at grefydd hyd wedi ei phriodi, yn dystiolaeth dda ar y mater yma. Ystyriai nad oedd dim cymundeb rbwng gwasanaethu Crist a rhodio yn nghynghor yr annuwiolion, na sefyll yn ffordd pechaduriaid, nac eis- tedd yn eisteddfa gwatwarwyr. Teimlai fod y gwyryfon teg a saf'ent yn nghonglau yr heolydd yn y ffeiriau yn fwy tebyg i anifeiliaid ar werth nac i ferched yn ymddwyn yn anrhydeddus. Mewn cref- ydd a gwyleidd-dra, yr oedd yn deilwng o efelychiad gan yr ieuainc o'i hystlen. Yn y flwyddyn 1815, ymunodd mewn priodas â Mr. Ricbard Evans, cydaelod o'r un Eglwys a hithau ; yr hwn sydd yn bresenol wedi ei adael mewn colled nas gellir ei barìferyd idtîo. Bu iddynt 11 o blant, tri o ba rai a fuont feirw yn eu mabandod ; ac Anne, yr bynaf, yr hon y cawn goffadwriaeth am dani yn y Dysgedydd, Ebrill 1844, a fu farw yn 27ain oed. Cafodd y dedwyddwch o weled pedwar o'r saith sydd yn fyw yn bresenol yn gwneud proffes o Grist—un o honynt y Sabbath diweddaf ond un y bu hi byw: derbyniwyd un arall, yr