Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MEHEFII, 1849. COFIANT Y PAECHEDIG BElSTJAMm EVAE"S, GWEINIDOG YR ANNIBYNWYR YN BAGILLT A FFLINT. Mr. Evans ydoedd ddyn da, ac feíly yn un gwir fawr—yn un o rai rhagofol y ddaear. " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Ond yr oedd Mr. Evans hefyd yn genhadwr Cristionogol, ac yn weinidog cymhwys y Testament Newydd —cafodd hir oes i blanu a dyfrhau eglwysi Crist. Nid teg a chyfìawn fyddai i mi redeg dros hanes ei fywyd cyhoeddus, fel pe ni buasai ond dyn cyffredin—anghyffredin iawn, fel y mae gwaethaf, y canfyddir gweinidog yr efengyl mor weddaidd, mor wyliadwrus, mor sobr, mor lleteugar, mor anym- laddgar, mor ddiariangar, mor hunan- ymroddgar, mor dirion a diargyhoedd, ie, ac mor iach a chadarn yn y ffydd. Am fore oes Mr. Evans, cefais y Ilinellau canlynol oddiwrth berthynas iddo, debygid, sef y Parch. John Evans, Hebron, swydd Benfro;— " Ganwyd Benjamin Evans mewn lle a elwir Trwynygraig, Plwyf Eglwys Fair a Churig, swydd Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1779. Ei rieni oeddynt Thomas a Rachel Evans, y rhai oeddynt aelodau gyda'r Annibynwyr yn Glan- dwr; ond symudasant yn fuan i Benlli, yn yr un plwyf, pan oedd Benjamin tua phump oed. Efe oedd yr ieuangaf o bedwar o blant—yn awr, y maent oll wedi myned i flfbrdd yr holl ddaear. Gan fod ei r'ieni mewn amgylchiadau parchus, cafodd Benjamin fanteision addysg pan yn ieuanc; ond fel llawer, ni wnaeth ddefnydd gwych o honynt. Treuliodd fore ei oes yn lled anystyriol, er ei holl fanteision teuluaidd. Ond pan tua deunaw oed, derbyniwyd et yn aelod i'r eglwys Gynnulleidfaol yn Glandwr, dan ofal bugeiliol y Parch. John Griffiths. Yn mhen ychydig wedi hyny, cafodd ei dueddu a'i annog i bregethu yr efengyl; bu yn arfer ei ddoniau yn mysg ei frodyr am rai blynyddau; ond derbyniodd addysg dan olygiaeth Mr. William Grifnths, mab ei hybarch weinidog, Tua'r flwyddyn 1801, cafodd Benjamin dderbyn- iad i athrofa Wrexham; ac wedi treulio ei amser yno, cafodd alwad i fod yn weinidog * * * *, Gogledd Cymru, tua'r flwyddyn 1805." Gyda golwg ar Mr. Evans yn yr athrofa yn Wresham, dan ofal y diwedd- ar Barch. Jenldn Lewis, nid oes genyf fawr i ddywedyd, ac nid wyf yn sicr pwy oeddynt ei gydfyfyrwyr yno, ond fod y diweddar Mr. Williams o'r Wern yn un, am beth amser o leiaf; a hefyd Mri. W. Jones, Dwygyfylchi; John Lewis, gynt o'r Bala; D. Edwards, gynt o Lanedi; un James, o Henllan, yr hwn nad aeth i'r weinidogaeth; a Golygydd y Dysgedydd. CJywais ei fod yn cael ei barchu yn fawr oblegid ei symlrwydd, ei wyliadwriaeth, ei ddiwyd- rwydd, a'i ufudd-dod. Ymddengys ei fod yn un llawn o ysbryd cenhadol, yn awyddus i bregethu a dechreu achosion i Grist mewn lleoedd newyddion. Debygid ei fod ef yn un o'r rhai blaenaf yn dechreu yn y Rhos, Wern, Harwood, Llanarmon, Llandegle, a bron drwy swyddi Fflint a Dinbych. Nid oedd ond ychydig iawn o Eglwysi Cynnulleidfaol y pryd hyny; ond yr oedd amgylchiadau y wlad y fath fel y tynid sylw, ac y cenhedlid awydd yn y myfyrwyr teilwng i fwrw eu hunain ar ragluniaeth fawr a chyfoethog am gyn- naliaeth, ac i ymdrechu sefydlu achos- ion newyddion. Felly yn neillduol am Mri. Jones o Ddwygyfylchi; Williams o'r Wern, Jones o'r Moelfro a Sant Siorr EUis o Langwm, A. Shadrach, Evans o Bagillt, &c. Gellir dywedyd am y brodyr yn awr, "Eraill a lafuriasant, a chwithau a ddaethoch i mewn i'w llafur hwy." Dichon eu bod bron yn feius yn nghylch diffyg gofal am eu hamgylch- iadau bydol: modd bynag, gall fod eithafìon mewn pryderwch, gofal gor- modol, a diffyg hyder am amgylchiadau bj-dol; ac o'r tu arall, gall fod diofal- wch, rhyfyg, a rhy fach o ddarpariaeth at gael sefyllfa barchus, deilwng o'r swydd uchel. Am ycbydig o hanes Mr. Evans tra y bu yn Ruthin, yr ydwyf yn ddyledus i Mr. E. Thomas, un o ddiaconiaid Eglwys Gynnulleidfaol Ruthin. Derbyniais lyth- yr serchog a synhwyrol iawn oddiwrth yr hen ẃr anwyl mewn perthynas iddo.