Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MAI, 1849, BAPTIST NOEL AE UNDEB YE EGLWYS A'E LLYWODEAETH. Nid peth anghyffredin ydyw i ddynion adael yr enwad crefyddol y byddant wedi treulio y rhan foreuol eu hoes yn ei gyfundeb; ond efallai mai amgylchiadau ac nid argyhoeddiad cydwybod sydd yn achosi hyny fynychaf. Mae amrai wedi cilio o wersyll ymneillduaeth, a ffoi i fynwes y butain wladol. Dymunol fyddai i rai o'r tylwyth hyn gyhoeddi eu gwir resymau dros newid eu henwad. Rhoddai eu darlleniad wledd o ddifyrwch i lawer. Byddai rhesymau rhai ry wbeth yn debyg i'r rhai canlynol. Am na thelid digon o sylw a derchafiad iddynt—dim gobaith cael myned yn bregethwyr. Mae y ddysgyblaeth yn rhy lèm gyda'r enwad yma—ac y mae myned at yr enwad acw yn debyg o fod yn fwy manteisiol i'r fasnach. Os nachaiff ambell bregethwr ei urddo yh weinidog gydag un enwad, try at enwad arall. Ac os bydd ambell weinidog ynrhy ddienaid neu ddigymer- iad i fod yn barchus gydag un enwad, â i chwilio am nodded at enwad arall. Mae amgylchiadau yn gwasgu ar wynt llawer nesperi iddynt iibcnderfynu newid eu barn." Pan y mae dyn yn newid ei enwad oddiar argyhoeddiad cydwybod, y mae yu deilwng o barch fel dyn o feddwl annibynol. Dyn felly ydyw Mr. Baptist Noel. Mae wedi hanu o deulu urddasol. Bwriadwyd ef ar y cyntaf i'r gyfraith, ond cyfrifodd bob peth "yn golled er mwyn Crist." Ymgyflwynodd i'r weinidogaeth efengylaidd yn yr Eg- Iwys Sefydledig; a bu yn llafurio ynddi yn ffyddlon a chymeradwy iawn am ddwy flynedd ar hugain. Yr oedd yn barchus, poblogaidd, a defnyddiol. Ond yr oedd hudoliaeth poblogrwydd, gwen- iadau pendefigion, a ffafr y Frenhines yn annigonol i'w gadw yn yr Eglwys pan yr oedd ei gydwybod yn dweyd wrtho am fyned allan. Wrth ymneiliduo efe a gyhoeddodd draethawd grymus ar Undéb yr Eglwys cCr Llywodraeth, yn cynnwys ei resymau dros ei ymddygiad. Mae yn ei lyfr yn amddîffyn gwir egwyddor ym- neillduaeth. ^afmesyd, nid yn unig yn erbyn drygau y gyfundraith, ond hefyd yn erbyn y gyfundraith ei hun. Nid yn unig dengys ddiffygion a llygredigaethau yr Eglwys Wladol, ond profa yn anwrth- wynebol fod ei hundeb â'r llywodraeth yn anysgrythyrol, ac yn fagwrfa i bob llygredd. Yr undeb ywy drwg. Dattoder yr undeb, ac attelir ei Uygredd. Gan fod y briodas mor anaehaidd, nid rhyfedd fod yr hiliogaeth mor anghenfìlaidd. Mae yr awdwr wedi cadw ei hun bron yn hollol o'r golwg. Oddieithr y rhag- ymadrodd gallesid meddwl bod y llyfr wedi ei ysgrifenu gan un oedd yn ym- neillduwr trwy ei oes. Nid crëu cydym- deimlad oedd ei amcan, ac onide buasai yn hawdd iddo wneud hyny drwy roddi ychydig o'i hanes personol, a gweithred- iadau ei feddwl yn ei argyhoeddiad. Yr ydym yn ei gael ar ben ei daith, ond ni ddywed wrthym nemawr am y ffordd y cyrhaeddodd yno. Nid yw y llyfr yn cynnwys nemawr nad yw darllenwyr y Dysgedydd yn gynnefin ag ef; etto efallai y bydd yn dderbyniol ganddynt weled pa mor unol yw golygiadau Mr. Noel à'r eiddynt hwythau ar y mater hwn. Mae y llyfr yn dechreu gyda rhagym- adrodd byr, yn yr hwn y mae Mr. Noel yn dwyn tystiolaeth am dduwioldeb a gwerth llawer o'r rhai a ddaliant i fyny yr undeb a gondemnia efe. Tra yr hawlia ryddid i farnu drosto ei hun, dymuna barchu y rhai nas gallant gydweled ag ef. Ac os ydyw yn afreidiol wedi clwyfo teimladau unrhyw frawd Cristionogol, erfynia ei faddeuant. Arwydda ei fawr ofal am yr eglwy* gyfeillgar, hynaws, ac ewyllysgar y bu cyhyd yn gweinidog- aethu iddi, a chyflwyna iddi y diolch- garwch gwresocaf am y caredigrwydd mawr a gwastadol a ddangoswyd tuag ato. Wedi byn y dilyna Rhagarwein- iad, yn yr hwn y gosodir i lawr fod cyfreithlondeb yr undeb rhwng yr eglwys a'r llywodraeth i gael ei benderfynu trwy gyfeiriad at air Duw. Ofer yw ymofyn yn nghylch traddodiadau yr hynafiaid—