Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. E B RI LL, 1849, COFIOlSr AM MKS, ISABELLA THOMAS, LIYERPOOL. Ganwyd y ddiweddar Isabella Thomas yn Nghonwy, swydd Gaerynarfon, Ebrill 4, 1814. Ei rhîeni, William a Margaret Jones, ydynt yn awr yn byw yn y dref hòno. Isabella ydoedd eu hail blentyn, a'u merch hynaf. Bu iddi unarddeg o frodyr a chwiorydd, naw o ba rai sydd etto yn fyw. Gan ei bod yn ferch hynaf ei rhieni, dygodd ei rhan yn magwraeth y gweddill o'r teulu; ac felly cynnefinwyd hi o'i hieuenctyd á thrafferthion teulu- aidd. Perchid hi yn fawr gan ei brodyr a'i chwiorydd, a phan ddygwyddai rhyw wahaniaeth barn a theimlad yn eu mysg, gwrandawent ar ei chynghor, dilynent ei chyfarwyddiadau, a darfyüdai pob gwrthdadlu yn y fan. Yr oedd, er yn blentyn, mor hyddysg yn yr iaith Saes- onaeg ag ydoedd yn y Gymraeg, a gallai ddarllen ac ysgrüenu gyda rhwyddineb a chywirdeb yn y naill iaith fel yu y llall. Bu hyn yn fanteisiol iawn iddi mewn amser dyfodol. Nid oedd rhìeni Miss Jones yn proffesu crefydd ; o ganlyniad, ni chafodd hi ei dwyn i fyuy, fel llawer o ferched Cymru, wrth droed yr allor deuluaidd, na nem- awr o fanteision crefyddol gartref. Ond pan ddechreuodd y diweddar Bareh. R. Rowlands, o Henryd, bregethu ar y Sabbathau yn Nghonwy, âi hi, yn mysg llawer eraill, yn rheolaidd i'w wrando ; ac yn raddol, llewyrchodd y goleuni drwy ei weinidogaeth i'w chalon, a chaethiwyd ei meddwl i ufudd-dod Crist. Ymunodd â'r gymdeithas eglwysig, a derbyniwyd hi yn gyflawn aelod gan y Parch. Ll. Samuel, Bethesda, yn nechreu haf y fiwyddyn 1835, a chafodd y fraint o rodio yn addas i'r efengyl, yn ei gwahanol gylchoedd, hyd derfyn ei hoes. Ar y 12 o Awst, 1836, pr'iodwyd hi â Mr. R. Thomas, gynt o Lanuwchllyn, y pryd hwnw o Gonwy, ac ymadawodd â thŷ ei thad a'i mam. Wedi cael tŷ dan ei gofal ei hunan, ymdrechodd ei wneud yn drigfan dedwyddwch yn mhob ystyr; ac un o brif bynciau ei gofal oedd, fod addoliad teuluaidd yn cael eì ddwyn yn mlaen ynddo yn rheolaidd bob bore a hwyr. Gan ei bod yn hoff o ganu, ac yn fedrus yn y gân, awgrymodd wrth ei phriod y byddai canu emyn yn ychwan- egiad prydferth ac adeiladol at y darllen a'r gweddio; o ganlyniad, gwnaed y cynnyg, aliwyddwyd; ac ni roddwyd y delyn deuluaidd hon ar yr helyg nes y bu hi farw. Yn niwedd y fiwyddyn 1836, pan annogid ei phriod i ddechreu preg- ethu ychydig, ofnai Mrs. Thomas nas gallai ef fod yn ddefnyddiol yn y cylcb newydd a phwysig hwnw, a chynghorai ef i fod yn araf a phwyllus yn y mater: ond, wedi iddo unwaith ymaflyd yn y gwaith, ymdrechai ei goreu i'wgalonogi i fyned yn mlaen yn wrol, drwy bob rhwystrau a digalondid, tra byddai drys- au yn agor iddo i wneud lles i eneidiau dynion. Yn necbreu y flwyddyn 1837, hi a ymunodd â'r Gymdeithas Ddirwest- ol, a pharhaodd yn selog a ffyddlon i lwyrymwrthod â diodydd meddwol byd angeu. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1840, der- byniodd Mr. Thomas alwad oddiwrth yr Eglwysi Cynnulleidfaol yn Dinasmawdd- wy, a'r gymydogaeth, a thueddid ef i gydsynio à chais yr eglwysi. Wrth feddwl am ymadael â'i phertbynasau, ac ardal ei genedigaeth, a rhoddi i fyny ei bywioliaeth dawel ac annibynol, mewn cymhariaetn, teimlai Mrs. Thomas gryn betrusder. Yr oedd y cylch newydd y gelwid hi iddo yn un dyeith.- iddi, ac ofnai na allai ei lenwi er anrhydedd i achos y Cyfryngwr. Cafodd ei hun, ar unwaitb, ar ddecbreu byd a bywyd newydd. Er ei chalonogi yn y symud- iad, anfonodd y chwiorydd, yn y tair cynnulleidfa, anerchiad cariadlawn ati; yn yr hwn yr addawent iddi dderbyniad croesawgar i'w mysg, a rhan yn eu gweddiau, eu cydymdeimlad, a'u cyd- weithrediad, wedi iddi ddyfod. Symud- odd byn ei phetrusder, ac ufuddhaodd i'w cais. Mae yr anerchiad yn awr wrth law yr ysgrifenydd, wedi ei arwyddo