Skip to main content

Y DYSGEDYDD. CHWEFROR, 1849 DYLEDIOI, CAN Y PARCH. d. CRIPFITHS, TYDDEWI Un o ddyledswyddau blaenaf, eglaraf, a phwysicaf dyn at ei gyd-ddyn yw bod yn gyfiawn tuag ato—peidio eymeryd yr hyn sydd eiddo ef, nac attal oddiwrtho yr hyn sydd ddyledus iddo. Etto, er eglured a phwysiced ydyw, nid oes yr un ddyledswydd yn cael ei hesgeuluso yn fwy, a'i chroesi yn amlach yn y byd. Y mae llawer iawn o ffyrdd yn mha rai y mae dynion yn gwneud anghyfiawnder â'u gilydd—yn eu meddiannau, eu cy- meriadau, a'u teimladau. Y mae y Llywydd mawr, mewn doeth- ineb a daioni perffaith, wedi trefnu i ddynion ymddibynu ar eu gilydd, ac ymwneud â'u gilydd am bethau y bywyd hwn. Gallasai efe drefnu i bob dyn allu byw arno ei hun yn unig, heb ddim ymwneud rhyngddo â neb arall. Ond pe buasai felly, ni fuasai fawr o gyfrin- ach yn bod rhwng dynion, ac ni fyddai cyfie ganddynt i amlygu egwyddorion rhinwedd—cyfìawnder, gwirionedd, a haelfrydedd tuag at eu gilydd. Y mae yn eglur ei bod yn llawer gwell fel y mae. Y mae dynion wedi eu trefnu i fasnachu—i newid nwyddau â'u gilydd yu ol angen y naill a'r llall. Y mae gwahanol bethau yn meddiant gwahanol bersonau. Y mae gan un fwy o rai pethau nac sydd eisieu arno ef, a rhy fach neu ddim o bethau eraill. Y mae ei gymydog o'r tu arall yn meddu hel- aethrwydd o'r pethau y mae efe yn brîn o honynt, ac yn brin o'r pethau sydd yn helaeth ganddo ef. Felly y mae yn fanteisiol i'r ddau gael cyfnewid â'u gilydd, fel y byddo gymhesur gan bob un o'r hyn y mae angen arno. Er dwyn yn mlaen fasnachaeth yn fwy effeithiol a helaeth, y mae rhagluniaetb wedi trefnu hefyd gyfryngau eraill—aur, arian, pres, &c.—y rhai ydynt yn cynnrychioli gwerth, er nad oes ynddynt hwy eù hunain fawr o wir werth i ddyn. Trwy gymhorth y rhai hyn y mae llawer iawn o ymwneud gan ddynion â'u gilydd mewn ffordd o fasnach. Hyfryd a gwerthfawr iawn fyddai hyn pe byddai y cwbl yn cael ei ddwyn yn mlaen ar dir cyfiawnder. Ond pell iawn ydyw o fod felly. Y mae llawer iawn o anghyfiawo- der yn cael ei wneud yn fwriadol; ie, mae mil o ddyfeisiau gan ddynion i dwyllo, a gwneud anghyfiawnder a'u gilydd! Y mae peth yn cymeryd lle o ddiffyg gwybodaeth. Y mae angbyf- iawnder yn cymeryd lle hefyd yn aml trwy fod dynion yn gwneuthur yr hyn sydd yn anocheladwy yn eu gorfodi i wneud anghyfiawnder ag eraill, er nad oeddynt yn bwriadu hyny. Y mae hyn yn fy arwain at destun neillduol yr ysgrif hon— Dyledion. Wrth gydsynio â chais fy mrodyr parchedig i ysgrifenu ar y testun hwn, yr wyf yn teimlo fy mod mewn perygl ar y naill law o glwyfo teimladau rhai na fynwn eu dolurio, ac na fynai yr Ar- glwydd i mi eu dolurio; ac ar y llaw arall, o fyned yn rhy ysgafn heibio i rai pethau y mae angen neillduol yn y dydd- iau hyn i alw sylw difrifol atynt. Nid ydyw pob math o ddyledion yn bethau dianrhydeddus a drwg. Dicbon i ddyn helaeth o feddiannau, ac un o egwyddor uniawn fod mewn dyled i un arall; a phan y byddó hyny yn terfynu