Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. IONAWR, 1849 DYLANWAD MEECHED AR NODWEDD CENEDL, CAN IEUAN CWYNEDD, LLUNDAIN. Dymunwyd arnaf gan Bwyllgor y Dysg- edydd ysgrifenu ycbydig nodiadau ar y testun ucbod. Er nad oeddwn wedi cael hamdden i feddwl llawer am dano cyn addaw, teimlwn fod y cais yn rhy anrhydeddus i'w wrthod. Hyderwn ar y pryd y buaswn cyn byn wedi cael cyfle i ddarllen rhyw gymaint ar fater mor bwysig, ond cefais fy siomi mewn wythnosau dyfodol; ac nid oes genyf yn awr ond cynnyg sylwadau prysur yn nghanol pryder Ilafur, a helbulon eraill. NODWEDDIAD CENHEDLAETHOL. Dibyna anrbydedd a chysur person unigol ar ei gymeriad. Os bydd ei nodwedd yn ddrwg, a'i fuchedd yn ddi- reol, bydd yn sicr o fod yn annedwydd- wch iddo ei hun, ac yn flinder chwerw i eraill o'i amgylch. Nid ydyw teulu digymeriad ond eu pla eu hunain, a melldith y gymydogaeth. Mae pob cenedl na bynodir am ei moesoldeb a'i rhinwedd yn Hawn o drueni ac anghysur mewnol, ac yn wreiddyn chwerwedd a gofíd i genhedloedd cymydogaethol. Y mae ffurfiad nodweddiad un dyn, teulu, a chenedl, gan byny, yn faterion tra phwysig, a dylid bod yn ofalus i chwilio allan y moddion goreu er ffurfionodwedd dda yn yr holl gysylltiadau hyn. Dibyna nodweddiad cenbedlaethol i raddau tra belaeth ar nodweddiadau teuluaidd. Tardda mawredd ac urddas y goedwig o gynnulliad a chyd-dyfiad Uuosogrwydd ei phrenau. Cyn y bydd yn frigog a cbadarn, rhaid fod y nifer amlaf o'i phrenau felly. Dichon fod o'i mewn lawer o brenau bycbain, ceimion, crebychlyd, ond teflir hwy o'r golwg gan amlder y derw tewfrig, talgryfion. Yr un modd y mae gyda chenhedloedd ; os bydd teuluoedd yn rhinweddol, bydd rhinwedd cenedl yn uchel a blagurogj o'r tu arall, 11 e na byddo nifer y teulu- oedd y rhai ni ofnant Dduw ac -na chil- iant oddiwrth ddrygioni ond ychydig, ni bydd moesoldeb y genedl ond isel a diwerth. Ffurfir nodweddiad yn gyffredin yn nbymmor ieuenctyd. Gall amgylchiad- au a dygwyddiadau blynyddoedd addfed- ach eireolia'iogwyddo; ond yngyffredin iawn tyfa a chryfha y goeden yn ol plygiad y planbigyn. Nodwedd cenedl ydyw y diweddaf yn ei darddiad, a'r meithaf yn ei ffurfiad. Cyn y ceir allan gymeriad y genedl, rhaid i nodweddiadau teuluoedd fod wedi eu perffeithio; a chyn y bydd i byny gymeryd lle, rhaid cyd-grynhoi y nodweddiadau personol, y rhai a ffurfir yn benaf yn nyddiau mebyd ac ieuenctyd, Gyda bod nod- wedd plant un oes wedi ei ffurfio, y maent yn dodi heibio bethau bachgen- aidd, ac yn dyfod yn weithredyddion yn ffurfiad nodwedd oes arall. Yr hyn a ddysgasanthwyaddysgant eraill. Priny gedy llawer oes argraff ei phethau neill- duol ei hunan ar yr oes a'i dilyn, gan mor ffurfiol ydyw bywydau y nifer luosocaf o'r hil ddynol. Fel yr ben ffyrdd mèni ar hyd ochrau llechweddog mynyddoedd Cymru, yr un led a dull er's ugeiniau o flynyddoedd; felly yn fynych y mae nodweddau personau a chenhedlaethau. Ganwyd, bu fyw, a bu farw, ydyw yr holl banes bywyd a ellir wneud am naw