Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. RHAGFYR, 1848, CROMWEL A'R WERINLYWODRAETH, Rhif I. " There will be, one day, a resurrection of names and reputations, as certainly bs of bodies."—John Milion. Y mae enw 01iver Cromwel yn dra adnabyddus hyd yn oed yn Nghymru; etto, ychydig iawn o wybodaeth am ei wir gymeriad sydd gan y cyffredin yn ein mysg. Yr ydym, er ein mebyd, wedi ein dysgu i feddwl am dano fel gwr galluog, nerthol, rhwysgfawr, awdur- dodol, a llwyddiannus; ond etto, ar yr un pryd, y dyn gwaethaf ei gymeriad a warthruddodd hanes ein cenedl erioed! Cromwel!—yn hwnw yr oedd eithafion twyll, gormes, hunangais, ysgelerder, dichell, bradwriaeth, dialedd, a rhag- rith wedi cydymgyfarfod! Cromwel!— dyna y dyn a ŷrodd y byd i'r fath ben- bleth o ddyryswch ac annhrefn fel y tybid fod uffern wedi cael ei gollwng yn rbydd i ymosod arno! Cromwel!—yr oedd enw y dyn hwnw yn felldith, yn hwtiad, ac yn rheg gan bawb; ac ystyrid y neb a allai daflu y sarhad a'r dirmyg mwyaf ar ei enw megys yn gwneuthur gweithred i Dduw. Yr oedd rhyw blaid neillduol yn y wlad yn gwasanaethu ei dybenion yn hyn. Yr oedd ganddynt ryw fath o awdurdod ymddangosiadol i'w gwaith yn ei ddarlunio fel rhyw ddyhir- yn ofnadwy, wedi ymwerthu a diddar- bodi i gyflawni pob aflendid yn un chwant, ac i wneud pob peth yn aberth i'w dracbwant ei hun, canys yr oeddynt yn gallu cyfeirio at Hume yr hanesydd am gadarnhad i'w difrîaeth ar ei ddy- benion a'i weithredoedd; ac felly, ni ammheuid yr hòniadau, gan na wyddid ddim yn amgen am y gwirionedd, Yr oedd Siarl yr Ail wedi gorcbymyn llosgi yr holl gofnodau llywodraethol oedd ar gael am amser y Weriniaeth, i'r dyben o guddio hanea ei wir gymeriad oddiwrth yr oesau a ddelent; ac wedi cyflogi pob crach-ysgrifenydd, a werthai ei hun, i'w gamddarlunio, ei warthruddo, a'i ddir- mygu yn y lliwiau duaf ag y gallai iaith cabledd wisgo ei gymeriad. Ac y mae y teimlad hwn wedi cael ei gadw yn fyw hyd heddyw, fel y gwelir yn amlwg yn ngwaith ein llywyddion ni yn gadael ei ardeb allan o blíth y rhestr llywyddion a gedwir yn y Senedd-dai newyddion a adeiledir yn awr. Pa beth?—dim lle i Cromwel! Yr oedd yno ddigon o le i lofruddion a gymerasant yr enw brenin arnynt; ond dim lle i'r hwn a'i gwrthodai, gan ei ystyried yn ddim amgen naphluen yn ychwaneg yn ei ben! Y mae ei enw yn rhy uchel, ac wedi ei gerfio yn rhy ddwfn yn meddyliau y cyffredin, i holl falchder pendefigaidd y byd byth ei ddilëu oddiar lyfr coffadwriaeth ei wlad. Y mae wedi ei ysgrifenu â phin o haiarn ac â phlwm, ac wedi ei gerfio yn y graig dros byth. Y mae y fath gysylltiad rhwng ei enw ag egwyddorion iawnder a rhyddid, fel y mae yn rhaid i'r sylfaeni oesol hyny gael eu dadymchwel, cyn y symudir moliant enw Cromwel oddiar dafodau gwleidyddion y byd; ac y mae yn rhaid anghofio mai dyben Jlywodr- aeth ydyw Hes y cyffredin, cyn yr ebar- gofir ei orchestion a'i ragoriaethau gan bawb sydd yn ofni Duw, ac yn parchu dyn! Y mae adgyfodiad cyflym ar ei eg- wyddorion, ac adferiad prysur ar anrbyd- edd ei enw yn y dyddlau hyn. Y mae yn rhyfedd fel yr oedd yn rbaid i lwch dau canrif orphwys arno, cyn i awel rhyddid ddyfod i'w chwythu ymaith. Erbyn byn—y fath gyfnewidiad »ydd ar 2 T