Skip to main content

Y DYSGEDYDD. TACHWEDD, 1848 MASNACH DEG. CAN Y PARCH. J. ROBERTS, LLANBRYNMAIR. AT OLYGYDD Y DYSGEDYDD. Syr,—Barnodd Pwyllgor y Dysgbdydd, a gyfarfu yn Nolgellau Mai 29ain, mai un o ddyledswyddau blaenaf a phwysicaf y Cyhoeddiad hwnw oedd gofalu am dano ei hun. Gan fod y deuddeg punt, sef yr hyn a allai hebgor wedi dwyn ei draul y fiwyddyn o'r blaen, yn rhy fychan i'w rhanu rhwng* y siroedd, tybìwyd yn briodol gynnyg y swm uchod i ddenddeg o bersonau am ysgrifenu traethodau, gystal ag y medrent, ar wahanol destunau. Enwyd y pyneiau, a nodwyd y personau, heb eu cydsyniad; ac yr oedd y rhan amlaf o honynt ar y pryd ugeiniau o filldir- oedd o'r lle. Cyhoeddwyd y penderfyniad yn NysGEDYDD Gorphenaf, gan ddymuno ar y gw»r a enwyd gydsynio â chais y Pwyllgor. Ond yn Medi, mae yr un Dysgbdydd, yn enw ei ohebydd D. E., yn dannod y wobr cyn ei thalu, a chyn i neb ei cheisio! Ystyriwyf hyn yn fasnach eithaf annheg. Y testun a enwyd i mi oedd Y Sabbathj a'r testun a nodwyd i Mr. Price, Dinbych, ydoedd Masnach Deg. Yn fuan wedi hyn, cyfarfu fy nghyfaill a minnau ar yr huol yn Llanelwy; ac ar ychydig ymddyddan, cydsyniasom gyfnewid testunau. Credwyf fod hyn yn hollo) gyson ä Masnach Deg. Y prif bethau, os na chynnwys yr holl bethau, a ddygir gan ddynion i'r farch- nad ydyw daear a'i chynnyrchion, llafur breichiau, a ffrwyth myfyrdodau. Yr hyn a ddysgwylir yn gyfnewid am danynt yw arian y deyrnas. Ein dynodiad o fasnach deg yw—Bod yr eiddo yn ddi- dwyll, yna eu cymeryd i'r farchnad oreu, ar yr adeg fwyaf manteisiol, a'u gwerthu am y geiniog uwchaf. I. Masnach deg mewn daear a'i CHYNNYRCH. Cynnyrch y ddaear ydynt mwnglodd- iau aur, arian, pres, haiarn, glo, chwar- elau meini, coed a'u holl ffrwythau, tai a thiroedd, ýd, pytatws, meirch, moch, defaid, gwartheg, caws, ymenyn, llaeth, gwyddau, hwyaid, ieir, acwyau; ffrwyth- au gerddi—maip, moron, wynwyn, eirin, a blodau. Mae y pethau hyn yn medd- iant gwahanol bersonau—rhai a mwy a rhai a llai; ac nid oes nemawr neb heb y naill neu y llall i'w ddwyn i'r farchnad. Mae cynnyrchion y ddaear hefyd yn cynnwys pysg yr afonydd, y llynoedd, a'r moroedd; gwylltfilod yr anialwch, a gwylltehediaid yr awyr. Nid ydym yn barnu y rhai hyn yn feddiant personol i neb; ond y mae Cyfranydd pob trugar- edd fel pe byddai yn eu rhanu rhwng pawb am y drafferth o'u dal, a'u dwyn i'r farchnad. Tybiwn yn sicr, o'r ddau, y teflir hwy yn nes at law y tlodion. Ond y mae rhai o'r mawrion yn creulawn wthio y tlodion yn ol, ac yn mỳnu y cwbl iddynt eu hunain. Ië, carcharas- ant ac alltudiasant Iawer anghenog dros y moroedd am iddynt feiddio agor eu llaw a derbyn yr aderyn, neu yr ysgyfar- nog, a estynid iddynt gan yr Un sydd yn gwrando cwyn cywion y gigfran. Llawnder a phrinder sydd bob amser i reoleiddio ac yn rheoleiddio gwerth eiddo mewn masnach deg. Os bydd y prynwyr yn anaml, a'r cynnyrch yn fawr, neu yr anifeiliaid yn lluosog, maent yn rhwym o fod yn rhad; ond os bydd y prynwyr yn Iluosog, a'r cynnyrch yn brin, neu yr anifeiliaid yn anaml, maent yn rhwym o fod yn ddrud. Addefwn fod cyfreithiau annheg, a chynghrair rhwng personau, wedi medru effeithio ar fasnach dros dymmor. Cydunwn o'n calon â Cobden, Bright, a Chaledfryn, i gollfarnu yr holl bethau hyn ar unwaitb, ac am byth. Ond y mae llawnder a phrinder ganwaith. wedi dyrysu, a medr ddyrysu pan y myno, holl gynlluniau deddfroddwyr a chynghreirwyr. A phwy ond yr Ar- glwydd sydd yn goddef prinder ac yn anfon llawnder! Gan hyny, mae wedi cadw rheolaeth marchnad yn ei law ei hun. Y Gwr sydd yn llywodraethu y cymylau, ac yn peri i'w haul dywynu, fedr ei gostwng hithau. A da iawn ei bod fel hyn. I ba le na chodasai y