Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MEDI, 1848 COFIANT Y PAECH, EICHAED HEEBEET, PONT ROBERT, SWYDD MALDWYN. Ganed ef Hydref 14, 1779, mewn lle a elwir Cogerddanfach, yn mhlwyf Llan- fihangel-genau'r-glyn, swydd Ceredig- ion. Enwau ei r'ieni oeddynt Henry a Margaret Powell Herbert: yr oedd yn hynaf o bump o blant. Nid oedd ei r'ieni ond o sefyllfa ganolig, eithr yr oeddynt yn gymydogion tirion a hynaws, ac yn aelodau hardd a dichlynaidd gyda'r brodyr y Methodistiaid Calfinaidd; felly cafodd gwrthddrychein Cofiant ei ddwyn i fyny yn " addysg ac athrawiaeth yr Ar- glwydd." Pan yn lled ieuanc, rhoddwyd ef mewn ysgol yn Aberystwyth, yn nghyda lleoedd eraill, am amryw flyn- yddoedd, er ei gýmhwyso i fod yn Athraw ysgol ddyddiol, yr hon alwedig- aeth a ddilynodd hyd ei flynyddoedd diweddaf: nid oedd yn alluog i ddilyn yr un alwedigaeth arall, am ei fod yn ddiffygiol o un fraich. Pan oddeutu 22 oed, priododd ag Elizabeth, (gwel hanes ei bywyd yn y Dysgedydd am Ionawr, 1833,) trydedd ferch i Edward a Mary 01iver o'r Felinfach, yn yr un plwyf. Bu iddynt bump o blant, a chawsant yr hyfrydwch o'u gweled oll yn cofio eu Creawdwr yn more eu hoes: bu tri o honynt feirw o'i flaen ef, ac y mae yn aros ar ol fab a merch. Oddeutu y flwyddyn 1801, daeth yr Annibynwyr i bregethu yn achlysurol i Dalybont, y cyntaf o ba rai oedd y diweddar Mr. Rees Davies o swydd Gaerfyrddin; ac yn fuan ar ei ol, y di- weddar Barch. Dr. Phillips o'r Neuadd- lwyd; a bu Mr. Herbert yn gymhorth iddynt, cyn belled ag y caniatâi ei amgylchiadau ar y pryd. Ar ol i'r Dr. ymweled ychydig droiau ag ardal Taly- bont, gofynodd i Mr. H., "A oes yr un lle ag y gallaf gael pregethu y tro nesaf, yn lle dan yr hen dderwen? (dan hen dderwen, ar yr heol, yr oeddynt yn arferol a phregethu y pryd hwnw,) oblegid yr wyf yn meddwl cadw society ar ol, os bydd neb yn cly wed arno aros." Caniataodd yntau iddo gael dyfod i'r ystafell lle yr oedd yn by w ar y pryd, yn Penpomprenfawr; ac felly, yn ei dý ef y cadwodd yr Annibynwyr y society gyntaf yn ardal Talybont. Yr oedd Mr. H. y pryd hwn yn cadw ysgol yn Penrhiw, Talybont. Yn fuan ar ol iddo ef a phump eraill (os wyf yn iawn gofio) gael eu derbyn yn Llanbadarnfawr, un pryd- nawngwaith, wrth ollwng y plant allan o'r ysgol, efe a weddiodd yn gyhoeddus, am y waith gyntaf, gyda hwynt. Pan glywodd yr ychydig gyfeillion am hyn, cyhoeddasant gyfarfod gweddi yn nhŷ y diweddar frawd Mr. L. Evans, tad y Parch. W. Evans o'r Neuaddiwyd; ac ymddyddanasant â gwrthddrych ein Cofiant, a dywedasant wrtho nad oedd ganddynt hwy neb mewn golwg a fedrai wedd'io ond efe, a bod yn rhaid iddo wneud. Yn wyneb hyn, nis gwyddai pa beth i'w wneud;—efe a ysgrifenodd weddi yn y modd goreu ag a allai, ac a'i rhoddes yn ngwaelod^ei het; ac ar ol darllen a cbanu, dechreuodd yntau ddarllen ei weddi, a'r bobl yn gwasgu i mewn, a phawb yn taflu ei bet i'r bwrdd, a rhyw ffordd diffoddodd y ganwyll, yr hon oedd ar y bwrdd, cyn iddo -fyned agos dros hanner ei weddi, yr hyn a fu yn gryn brofedigaeth iddo; ond bu Duw gystal a'i addewid iddo,—" Agor dy sàfn, a mi a'i llanwaf." Mynych y dywedodd ar ol hyn ei fod yn meddwl yn sior na chafodd erioed fwy o nerth a rhwyddineb mewn gweddi. Dyma y eyfarfod gweddi cyntaf erioed a gynnaliwyd gan yr Anni- bynwyr yn ardal boblogaidd Talybont. Nid hir ar ol hyn y buwyd eyn