Skip to main content

Y DYSGEDYDD. AWST, 1848, OOFIANT DAYID DAYIES, BETHEL? GER BALA, Bu David Davies farw Awst 13, 1847, yn 45 mlwydd oed. Yr oedd ei goríf a'i synwyr o faintioli cyffredin ; ond yr oedd yn rhagori ar y cyffredin fel crefyddwr, ac yn enwedig yn ei swydd fel diacon. Dywedir llawer yn y Bibl am gymhwys- derau diacon. Dysg hyn ni fod anghy- mhwysder mewn dyn, fel pechadur, i fod yn y swydd, a bod rhwystrau lawer i'w chyflawni. Ni wna dyn heb wir grefydd ddiacon da, rhaid ei addurno â'i holl elfenau cyn y gallo wasanaethu yr achos yn iawn. Mae rhwystrau ac anhawsderau i ddiacon gyflawni ei swydd yn iawn yn y byd, ac yn yr eglwys; ac mae anwybodaeth yn meddyliau dynion am eu dyledswydd, a gwrthwynebiad i gyflawni y cyfryw. Ond yr oedd David Davies yn meddu cymhwysderau i gyf- lawni ei swydd. Yr oedd, yn ol Act. 6. 3, a "gair da" iddo; ac, yn ol 1 Tim. 3.10, "yn ddiargyhoedd." Ni fedrai neb ei gyhuddo ef o fai, a phrofì ei fod yn euog o hono. Meddyliai pawb, fel eglwys ac ardal, ei fod yn gymhwys i'w swydd. Hefyd, yr oedd wedi ei brofi, yn ol 1 Tim. 3. 10. Bu yn cyflawni amryw ranau o waith diacon am flyn- yddau cyn iddo gael ei osod yn y swydd, a chafwyd ei fod yn ddiargyhoedd. Yr oedd, yn ol 1 Tim. 3. 8, yn onest, ac nid yn ddau eiriog—coeliai pawb ei fod yn ddifrif, ac yn dy wedyd y gwir. Nid oedd yn ymroddi i win lawer, ond yr oedd yn gyflawn ddirwestwr; ac ni arferai ddim diod feddwol na thobaco, a gwnai ei oreu er i eraill beidio eu harfer. Nid oedd un amser am fudr- elwa; cymaint a gai o'r byd yn onest ac nnrhydeddus a'i boddlonai. Yr oedd yn llawn o'r Ysbryd Glan, yn ol Act. 6. 3, —yn llawn o hono fel ffynnonell crefydd bersonol, ac i ddala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur, 1 Tim. 3. 9. Er ei fod yn ddiacon, nid oedd hyny yn lleihau ei ofal am grefydd bur a diragrith iddo ei hun. Chwiliai a phrofai ei hun yn wyneb y gair, fel y byddai i Grist drigo drwy ffydd yn ei galon. Yr oedd yn llawn o'r Ysbryd Glan i ddeall ei swydd fel diacon—i wybod beth oedd iddo i'w wneuthur. Ni feddyliai, fel rhai, mai prif waith diacon yw dwyn bara a gwin oddiar fwrdd y cymundeb i'r bobl, er y golygai hyny yn angenrheid- iol; ond credai fod a fynai ei swydd ef â holl amgylchiadau yr eglwys ag y rhaid eu dwyn yn mlaen trwy bethau bydol. Deallai yn dda fod cysur a llwyddiant eglwys yn gysylltiedig â chyflawniad ei dyledswydd. Pan y mae eglwys yn cydnabod Crist a'i holl bethau, yn ymddiried ynddo, ac yn gwneud drosto y pethau a orchymyn efe iddi, y mae yntau yn ei harddel hithau, yn ei llwyddo, ei chysuro, a'i dyddanu. Yr oedd hyn yn fater pwysig yn meddwl David Davies; am hyny ymdrechai yn wastad i gael yr eglwys yn weithgar, ac i wneud y cwbl i Grist; cyflawnai yntau ei swydd fel ei wasanaethwr; ac felly, byddai bendith Crist yn helaeth arno ef a'r eglwys. Barnai ef ei bod mor angen- rheidiol cyfranu pethau bydol át achos Duw ag ydyw gwneud un rhan arall o'i waith, a bod cysylltiad neillduol rhwng gwahanol ranau ei waith a'u gilydd, ac mai nid aberth diwerth at achos Duw fyddai gan y dyn a'i gwasanaethai yn yr ysbryd. Yr oedd David Davies yn fanwl iawn i gael yr eglwys i wneud pob peth yn ei bryd. Y dydd cyntaf o'r wythnos yr oedd pawb i roddi heibio yn ei ymyl fel y llwyddodd Duw ef. Rhaid i eglwys a diaconiaid ddyfod i amser a threfn Duw cyn y byddont yn gysurus a llwyddiannus. Gofalai yn fanylaidd i gael pob talion am yr eisteddleoedd, &c< 2 F