Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. GORPHEI AF, 1848 YE EGLWYS A'R BYD, "Canys enw Duw, o'chplegid chwi, a geblir yn mhlith y Cenhedloedd," RhüF. 2. 24. Cyfeiria y geiriau uchod at yr Iudd- ewon yn eu perthynas â'r cenhedloedd— at ddylanwad niweidiol bucheddau llygr- edig y cyntaf ar y rhai olaf. Anrbyd- eddwyd hâd Abraham â breintiau cref- yddol mawrion a gwerthfawr yn foreu iawn. Neillduwyd hwynt o blith holl genhedloedd y ddaearifod ynbobl ac yn etifeddiaeth i'r Arglwydd Iôr; rhoddwyd iddyntoffeiriaid, Lefiaid, aphrophwydi; amddiffynwyd hwynt rhag eu gelynion; dygwyd hwynt i wlad yn llifeirio o laeth amêl; addawodd Iehofa fod yn Dduw iddynt ac i'w plant yn dragywydd; ac yn y dyddiau diweddaf, efe a lefarodd wrth- ynt yn ei Fab ei hun ; clywsant ei breg- ethau, gwelsant ei wyrthiau, a theimlas- ant ei awdurdod. Bwriadai yr Iôr wneud daioni i holl genhedloedd y byd trwy blant Israel; dyna oedd ei amcan neill- duol wrth eu dewis. Llawer o amser a gymerwyd i'w dysgu am dref'n achub trwy y seremoniau a'r aberthau, ac i dýnu i Iawr falchder eu calon yn yr anialwch; ac wedi iddo eu sefydlu yn ngwlad yr addewid, a rhoddi iddynt y babell a'r deml, buau y ciliasant o'i Iwybrau, ac y diystyrasant ei ddeddfau— pobl wrthnysig, a chenedl wrthryfelgar oeddynt. Yr oeddynt felly yn neillduol yn amser ein Hiachawdwr. "Seirff, hiliogaeth gwiberod," y galwai Ioan eu prif enwadau crefyddol; nesäent at yr Arglwydd â'u genau, ac anrbydeddent efà'u gwefusau, ond cadwent eu calon yn mhell oddiwrtho! Rhagrithwyr, ffyl- iaid, a deillion oeddynt, Matb. 23. 13—33. Oeddynt yn euog o gymysgu deddfau y nef â'u traddodiadau eu hunain, ac yn fwy manwl i gadw gor- chymynion dynion na deddfau Duw. Gwadasant a Uaddasant y Sant a'r Cyf- iawn. Er hyny, tybient eu hunain yn well na holl drigolion y ddaear. Ym- ffrostient yn eu henwau, yn eu henafiaid, yn eu rhagorfreintiau, ac yn eu Duw— " a chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi." Edrychent ar y dienwaediad yn dra diystyrllyd. Diau fod y cenhedloedd yn eithaf llygredig a ffiaidd, Rhuf. 1. 21—32; ond yr apostol a ddengys fod yr Iuddewon hefyd yn euog o'r pechodau mwyaf ysgeler, ac nad allent ddianc rhag barn Duw, gan nad faint a feient ar eraill, Rhuf.2.1—3. Oeddynt yn ynifalchio eu bod yn Israel- iaid, yn gorphwys yn y ddeddf, yn gwybod ewyllys Duw, yn darbod pethau rhagorol, ac yn ddysgawdwyr i'r anwyb- odus. Proffesent bethau mawrion, ond ar weithredoedd yr oeddynt yn gwadu yr Arglwydd, ac yn achlysur i'r paganiaid wrthod Cristiaeth. " Canys enw Duw, o'ch plegid chwi, a geblir yn mhlith y Cenhedloedd." Yn ein Darlithiau, bwriadwn sylwi ar, ae egluro y gosod- iadau canlynol,—Fod llawer o ffaeleddau yn berthynol i eglwys weledig Crist ar y ddaear—Paham y mae mor ffaeledig— Ei bod yn hollol ddiesgus am ei ffaeledd- au—Fod ei ffaeleddau yn dylanwadu yn ddrygol ar y byd—A bod y byd, er hyn oll, yn gondemniedig am fyw mewn pechod, a gwrthod crefydd. I. FOD LLAWER O FFAELEDDAU YN BERTHYNOL I EGLWi'S WELEDIG CRIST AR Y DDAEAR. Wrth eglwys Crist y deallwyf yma holl broffeswyr yr efengyl yn mhlith pob enwad crefyddol drwy y byd, yn gymysg- edig o wir dduwiolion a rhagrithwyr. Galwyf hi yn " eglwys weledig Crist ar y ddaear," i'w gwahaniaethu orldiwrth yr eglwys ysbrydol, yr hon sydd gynnwys- edig yn unig o wir saint. Duw ei hun ydyw sylfaenydd ac adeiladydd ei eglwys 2 B