Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MEHEFIN, 184 8 COFIANT HFGH HI7GHES, DTJLAS, MON, Bu enw gwrtbddrych y Cofiaut hwn yn adnabyddus drwy y rhan fwyaf o Ogledd Cymru, gan ei fod wedi teithio cryn lawer yn ystod y 39 o flynyddoedd y bu yn pregethu; cyfreithlona hyny, debygid, i'w hanes gael dalen yn y Dysgedydd. "Y cyfiawn a fydd byth mewn coffad- wriaeth;" a theilwng ydyw yr enwau sydd yn "llyfr y bywyd" i'w cadw yn ein llyfrau ninnau; ac eithaf priodol ydyw cadw darlun o'r rhai a ymdebygent i'r "hwn a roddes i ni esiampl," fel y gallo eraill edrych arno, a'u dilyn hwy mor bell ag yr oeddynt hwy yn dilyn Crist. Bu gwrthddrych y Cofiant yn hynod mewn dwy ffordd; gallasai ddweyd fel Paul, " Yr oeddwn i o'r blaen yn gablwr, yn erlidiwr, ac yn drahaus; eithr mi a gefais drugaredd." Mab oedd Hugh Hughes i Rhys a Jane Hughes, o'r Seri, Llandrygarn, Môn; ganwyd ef yn y flwyddyn 1768, pan yr oedd crefydd yn isel, a chrefyddwyr yn anaml yn Nghy- mru. Ymddengys iddo gael manteision addysg yn ei ieuenctyd, ond na ddysgwyd ef i barchu dim ar grefydd na chrefydd- wyr. Tua'r flwyddyn 1790, ymbriododd ag Ann, merch W. Jones, Traphwyll, i ba le y symudodd yntau, a bu yno am rai blynyddau yn cydlafurio y tyddyn á'i dad-yn-nghyfraith ; bu iddynt 9 o blant, o ba rai y mae 5 yn fyw. Yn fuan wedi prìodi, ymunodd ei wraig ag eglwys y Trefnyddion Calfìnaidd yn Nghaergeil- iog, a chafodd gryn erledigaeth oddi- wrtho yn nghychwyniad ei gyrfa grefydd- ol. Gorfyddai yn aml ddianc yn ddystaw o'r tý pan yn myned i'r capel, a gwneud i'r forwyn estyn ei mantell iddi drwy y ffenestr. TJn tro pan oedd H. Hughes ar ben y das ŷd, canfu y wraig yn myned tua'r capel, a chymaint oedd ei gyn- ddaredd, fel y gadawodd ei orchwyl, ac aeth ar ei liol i'w dwyn adref. Tua'r amser yma breuddwydiodd freuddwyd— tybiai fod rhyw ellyil yn ymafael ynddo, ac yn ei fwrw i uffern. Cafodd y breuddwyd hwnw gryn argraff ar ei feddwl—dychrynodd yn ddirfawr, a meddyliodd am ei ffyrdd ; ar ol hyny, collent ef o'r tý bob Sabbath, na wyddai neb o honynt i ba le y byddai yn myned; ond o'r diwedd, daetbant i wybod mai i gapel yr Annibynwyr yn Ceirchiog yr oedd ei gyrchfa. Daeth y peth yn ddigon amlwg pan ymunodd â'r eglwys yno,—" Wele yr oedd efe yn gweddio." Tua'r flwyddyn 1804, symudodd i fyw i Talyllyn, plwyf Llanfihangel-tre'r- beirdd. Rhosymeirch oedd y capel agosaf iddo, a bu yn aelod yn yr eglwys hòno am 12 mlynedd. Tra y bu yno y cymhellwyd ef i ddechreu pregethu. Efe fu y prif offeryn i godi capel Soar, Rhosfawr. Mawr fu ei ymdrech a'i ddiwydrwydd i gael hwnw i ben. Treul- iodd bron ei holl amser tra y buont yn ei adeiladu yn eynnorthwyo ac yn edrych ar ol y gwaith. Yny flwyddynl823, symudodd Rhag- luniaeth ef drachefn o Talyllyn i Felin Dulas; a chan nad oedd dim pregethu gan yr un enwad crefyddol yn yr ardal hòno, agorodd ei ddrws ei hun. Cadwai y Methodistiaid ysgol yno bob Sabbath; a'r rhan fynychaf, byddai rhai o'r Anni- bynwyr yno yn pregethu; ac felly parhaodd ei dŷ yn gapel hyd oni adeil- adodd y Bedyddwyr gapel yn y gymyd- ogaeth. Bu yn un offeryn er adeiladu capel Annibynol yn Moelfro, a hwnw fu ei gartref hyd ddiwedd ei oes: felly, mewn ffordd ddystaw, bu y Cristion hwn o lawer o fendith i'w genhedlaeth. Nid byw iddo ei hun yr oedd; wedi derbyn y goleuni ei hun, yr oedd am i bawb gael yr un fraint. Teithiodd gryn Iawer ar Ogledd Cymru gyda'i hen gyfaill, y diweddar Barch. Owen Thomas, Carrog,