Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MAI, 1848, COFIANT AM GBIFFITH ROBERTS, YNYSDDU, Mae llawer iawn o bobl dduwiol wedi bod, ac yn bod, ar y ddaear; ond mae yn debyg, pe caem gofion yr hen dduw- iolion i gyd wedi eu hysgrifenu, na tíhaem ddau o honynt yn rhagori yr un ffunud yn yr un grasusau: a phe caem fenthyg Uygaid Hollalluog, i weled ac adnabod calonau holl dduwiolion presenol y ddae- ar; ac er y byddai rhagoroldeb yn mhob un o honynt, etto gallwn benderfynu nad oes yma ddwy galon yn hollol debyg, ag a atebant i'r naill y llall i'r manyl- rwydd penaf. Ac os ydyw ffynhonell darddiadol gweithredoedd yn amrywio cymaint, pa ryfedd fod eu hymarferiadau felly? Mae yn wir mai nid yr un faint mae Cyfranydd talentau wedi ei roddi i bob dyn a'i gilydd; ond etto, a ddylem ni ddiystyru y ddwy dalent, am nad oedd ganddo ddeg; neu yr un, am nad oedd ganddo ddwy? Na, yr hyn a ddylem ei gyfrif yn ddiffygiol yw y camddefnyddiad o'r un fel o'r deg; ac os gwelwn un dyn wedi iawnddefnyddio yr un neu y ddwy dalent a fyddo ganddo, gallwn, yn ddi- ofn, ddywedyd fel y dywedodd ein Gwaredwr, " Da, was da a ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydig," &c. Nid peth teg mewn cyhoeddiad fyddai cau cofion pobl dduwiol allan—pobl a ffrwyth gwahanol i fieri a drain arnynt—am nad oeddynt yn Williams o'r Wern mewn meddyliau, a Christmas Evans mewn dychymyg, a John Elias mewn byawdl- edd areithyddawl; mae y rhai hyn uwchlaw cyrhaedd tebygolrwydd iddynt; nid allwn ymarfer ein hunain i feddyliau yr enwogion yma. Peth a ddisgynodd o law Duw ydyw talentau, a pheth yr ymarferir ag ef drwy gyfarwyddyd gair Duw ydyw duwioldeb: gallwn ymarfer a meddiannu yr olaf, ond nid ellir ond dynwared y cyntaf. Nid mawredd gwybodaeth, dawn, nac athrylith Griflìtb Roberts a'n tueddodd i ysgrifenu hyn o Gofiant am dano, ond yn unig am ein bod yn meddwl ei fod yn ddyn duwiol. Un o wyth o feibion ydoedd, o rieni parchus, y rhai a breswylient mewn tyddyn bychan yn Rhoslan. Wedi iddo briodi, sefydlodd mewn tyddyn o'r enw Ynysddu, lle y trigai ei wraig mewn amgylchiadau cysurus gyda'i thad. Yn fuan wedi hyn, daeth at grefydd—i swper ei Arglwydd. Ni chymerodd efe esgus llawer, drwy ddywedyd, " Mi a briodais wraig, ac nis gallaf fi ddyfod." Ni chanlynwn ne- mawr ar amgylchiadau tymmorol Gri- fiîth Roberts: cynnysgaeddwyd ef â sefyllfa ddymunol; ni chafodd ei or- lwytho â ehyfoeth, nac ychwaith ei iselhau gan dlodi; yr oedd ei dyddyn, fel y gellid dywedyd am dano, heb fod yn fawr nac yn fychan. Byddai gartref yn ddyn diwyd, diddiogi, gweitbgar; a cbyda chrefydd yn Ilafurus, gostyngedig, a ffyddlon. Yn awr, gadawn Grifiìth Roberts fel dyn, ac edrychwn arno fel Cristion. Nid ydym am hòni ei fod yn flodeuyn perffaith yn holl ragoriaethau duwioldeb; ond digon ydyw dywedyd, fod arno ffrwyth na ddichon iddo dyfu ar un pren arall. Byddwn yn camgymeryd wrth ddysgwyl i holl rinweddau Cristionogaeth ymgyfarfod yn gyfiawn a digoll yn yr un dyn; oblegid pe felly, caem ber- ffeithrwydd yn trigfanu ar y ddaear, yr hyn ni ddichon fod. Nid peth yn tyfu o'r ddaeajfc ac yn cael ei genhedlu gan aniauy™Pperffeithrwydd, ond gwreich- ionen yn cael ei chynneu gan Ysbryd Duw; a phan ddechreua oleuo ac ym- ddangos,ehed j fyny at yr hwn a'ì rhoes. Ymunodd ag Eglwys Tabor yn fûan wedi i'r Parch. Robert Elliis, yn awr o'r Brithdir, sefydlu yn weinidog yno, pan oedd yr achos a'r eglwys yn wan, yn