Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. MAWETE, 1848 ADDYSG YN NGHYMEÜ, Adroddiad y Dirprwywyr a benodwyd i ymchwilio i sefyllfa Addysg yn Ngogledd Cymru. Ymddengys fod ein Senedd yn arfer cyfranu rhai miloedd o bunnau bob blwyddyn tuag at roddi addysg i blant y ílodion yn y deymas hon. Rhoddodd ddeng ìnil o bunnau yn y flwyddyn 1835, a syraiau ychwanegol yn y blynyddau 1837—38. Defnyddiwyd yr arian uchod gan mwyaf er codi ysgolion Normalaidd a Chynlluniol, perthynol i'r " National School Society," ac i'r "British and Foreign School Society." Sefydlwyd a chefnogir y gymdeithas fiaenaf gan yr Eglwyswyr, er lledaenu ysgolion dydd- iol i ddysgu eu Catecism a'u cyfeiliorn- adau dinystriol yn mhob ardal; a sef- ydlwyd a chefnogir yr olaf gan yr Ym- neillduioyr, er lledaenu ysgolion dyddiol ar y cynllun goreu, ac ar yr egwyddorion rhyddaf, yn mhob gwlad. Y gymdeithas olaf a sefydlwyd gyntaf, a chododd y Ilanwyry flaenaf i'w gwrthweithio. Fel yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad tra y bydd y peth a alwant yn eglwys mewn cysylltiad â'r llywodraeth. Yr oedd y ddwy gymdeithas a nodwyd wedi dechreu gweithredu cyn i'r Senedd benodi arian at addysg; a lled debyg na buasai neb o'r seneddwyr yn meddwl am y fath beth oni b'ai iddynt gael eu hannog gan gefnogwyr y " Na- tional School Society." Yn y flwyddyn 1839, neillduodd ein Brenhinesamryw o arglwyddi i fod yn Eisteddfod o Gynghor (Committee of Council) i arolygu cyfran- iad yr arian a benodid gan y Senedd er helaethu dysgeidiaeth. Y mae awdurdod y Cynghor hwn yn fawr iawn. Ym- ddengys nad ydynt yn gyfrifol i neb ond i'r Frenhines a'i Chynghor Cyfrinachol; ac nad oes gan y Senedd ddim i'w wneud mewn perthynas iddynt ond penodi neu beidio penodi arian at eu gwasanaeth, a derbyn Adroddiadau blynyddol oddî- wrthynt. Gallant, trwy gydsyniad y Frenhines, wneud y rheolau a fynont, mewn perthynas i'r gwahanol ymchwil- wyr sydd yn eu gwasanaeth, ac i'r ysgol- ion sydd yn derbyn cynnorthwy gan- ddynt. Y maent eisoes- wedi cyhoeddi llawer o gyfrolau mawrion yn llawn o reolau a chyfarwyddiadau. Gelwir y rhai hyn—" The Minutes of Committee ofCouncilon Education." Uu o'r pethau cyntaí' a farnodd y Cynghor hwn oedd, "Mai y gwasanaeth goreu a ellid wneud ag arian y llywodraeth fyddai eu def- nyddio i sefydlu ysgol Normalaidd dan arolygiaeth y llywodraeth, ac nid dan reolaeth cymdeithas wirfoddol." Yn y flwyddyn 1839, penododd y llywodraeth £30,000 at ledaenu addysg; ac yn fuan gwnaed dros dri chant o geisiadau am gynnorthwy, gan mwyaf oddiwrth y llanwyr. Ffurfiodd y Cynghor eu rheolau mewn perthynas i'r ammoitau ar ba rai y cyfranent yr arian. Eu bwriad cyntaf oedd cynnorthwyo i adeiladu ysgoldai da a chyfleus; ond ni wnaent hyny os na byddai yr ysgolion mewn undeb ag un o'r ddwy gymdeithas a nodwyd, ac hefyd yn foddlon i fod yn agored i ymehwiliad y llywodraeth. Y peth nesaf a wnaeth- ant oedd neillduo ymchwilwyr er caei gwybodaeth gyflawn am sefyllfa yr ysgol- ion oedd yn derbyn cynnorthwy, ac addysg yn gyffredinol yn Lloegr a Chymru. Yr oedd gan yr archesgobion law fawr yn newisiad yr ymchwilwyr a benodid dros ysgolion yr Eglwyswyr, ac yr oedd y Cynghor yn foddlon i enwadau eraill gael penodi ymchwilwyr dros eu hysgolion hwythau, y gallent ymddiried ynddynt. Prif amcan eu hymchwiliad oedd, medd Cofnodau y Cynghor, annog