Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. CHWEFEOR, 1848 COFIANT MAIE, Dtchon nad anfuddiol cyhoeddi yr hyn a ganlyn am un aj? oedd yn ei bywyd "yn harddu ethrawiaeth Crist," er nad oedd yn garítor cyhoeddu» gyda chrefydd. Mair chwaer Martha a ddewisodd y rhan dda, felly, fe! y credwn, y gwnaeth y Fair hon. Os crybwyllwyd am y gyntaf yn y Bibl, dichon nad gormod crybwyll am yr olaf yn y Dysoedydd. Mary ydoedd ferch henafDavid aMary Thomas, Machynlleth. Ganwyd hi Rhag. 6, 1814. Cafodd bi, a'i brawd (sydd yn awr yn yr Amwythig), a'i chwaer eu dwyn i fyny yn grefyddol. Cymerasant oll yr enw mawr arnynt. Gwelwyd y rhieni a'r plant gyda'u gilydd ar y ffordd dda, ond Mair a redodd yn mlaen yn gynt na hwy oll, ac aeth allan o'n golwg ni i "mewn i lawenydd ei Harglwydd," Chwef. 6, 1846. Ei llwybr trwy y byd hwn ydoedd, efallai, y llwybr mwyaf perygìus—llwybr trwy ganol anialwch o demtasiynau—sef yn ngwasanaeth y " bobl fawr," pa rai sydd yn bobl fach iawn o ran eu crefydd, ac yn gyffredin maent hwy a'u gwasan- aethyddion yn anffafriol i "grefydd bur a dihalogedig;" ond profodd Mair y dichon yr " hael Ysbryd" gynnal yn mhob man, pa faint bynnag fyddo y rhwystrau. Yr oedd yn dra hoffo ym- ddyddan am bethau crefyddol. Nid oedd byth yn gwisgo rhyw fantell ddu (a heavy looks), wrth ymddyddan am grefydd yr Iesu, ag sydd oll yn daugnef- edd, llawenydd, a gogoniant. Cyfeill- achai yn siriol am "siriol Rosyn Saron." Mawr hoffai y Bibl—y gyfrol auraidd. Yr oedd megys " crocban aur " yn llawn "manna" nefol yn ei golwg. Byddai yn ddagenyf pe gwelai merched ieuainc Cymru ei Bibl bychan yn llawn marciau a phlygion drwyddo! Cynnyddai "yn amlwg i bawb" yn mhethau crefydd yn mlynyddoedd di- weddaf ei hoes. Daeth mor gryf o'r diwedd fel y cadwai ddyledswydd deulu- aidd weithiau pan fyddai ei brawd yn flinedig. Yr oedd ei chlywed ar ei gliniau yn dweyd, "O ein Tad tirion," yn ddigon a thoddi bryn o galedwch. Ei dedwyddwch hi, mewn rhan fawr, oedd gwneud eraill yn ddedwydd o'i hamgylch. Yr oedd yn gymwynasgar i bawb, a haelionus at bob achos teilwng hyd y gallai. Yr oedd rhoi tramgwydd mor flin ganddi a chael tramgwydd. Yr oedd yn tybio yn wastad nad oedd gan neb fwy o achos diolch i'r Arglwydd nag oedd ganddi hi, er iddi gael llawör o groesau trymion a siomedigaethau chwerwon. Barnai tua diwedd ei hoes iddi fod yn rhy ddystaw gyda chrefydd Iesu ar hyd ei bywyd; o ganlyniad, gwnaeth ei gwely angeu megys platform, ac yno bu yn siarad am grefydd amrai fisoedd. Dyma ychydig o'i geiriau—" Cymerais i fy attal i dý'r Arglwydd gan afiechyd lawer tro; ond pe byddwn mor iach yn bresenol, ni chai hyny fy rhwystro." " Yr wyf wedi ffarwelio â'r byd hwn y dydd o'r blaen; pwy ddymunai aros yn y fath fyd a hwn." "Os byddaf byw, byddaf byw yn fwy duwiol; os byddaf marw, mae fy ngafael yn Nghraig yr oesoedd. 'Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred.' " " * Y genhedlaeth wyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy ei bai, heb fod yn blant iddo ef.' Mor drist fuasai fy nghyflwr i yn awr pe buaswn heb fod yn blentyn iddo ef." "Mae Duw fel haul o'm hamgylch." Gorchymynai i'w brawd fel hyn—"O, dywed mor dda yw Iesu. Dywed wrth y bobl ieuainc fod crefydd yn dda mewn iechyd, yn well mewn cystudd, ond yn wyneb marw, O! O! O! bethamdanü! Wrth gasglu, nid oes genyt ti ond bod yn ffyddlon. Bydd dyner o honot dy hun, rhag i ti edifarhau pan yn rhy ddiweddar. Yr wyf yn dy orchymyn i'r Iesu, bydd ef yn gysur i ti yn mhob cyflwr." " Yr wyf yn gwneud fy ngoreu i wella, ac yn parotoi fy ngoreu erbyn marw.v