Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IONAWR, 1848 COFIANT Y PAECH, J. BEEESE, CAEEFYEDDIN, (o'r DRYSORFA EFENGYLAIDD.) Bywgraffiad dyn cyfiawn yw y trysor gwerthfawrocaf a all oes ei drosglwyddo i olafiaid. Yno y gwelir egwyddorion mawr yr efengyl yn eu hefteithiau gogoneddus, a'u bywiol nerth. Mae y dygwyddiadau a ymddangosent yn anghysylltiedig" i'w eanfod yn un symud- iad cysonawl o eiddo Rhagluniaeth ddiwyro. Mae y dylanwad sy'n ym- wasgaru oddiwrth y ddalen (page) ddystaw yn cyrhaedd y galon. Mae'r llais tawel yn treiddio trwy ddyfnderau yr enaid. Mae yn anwrthwynebol yn ei nerth. Ymddengys pwysigrwydd yr egwyddor hon yn amlycach pan ystyriom pwy a ddywedodd, " Ystyryperflaith, ac edrych ar y uniawn." Mae y cymeriad ag sydd yn beraroglawl yn serchiadau y rhai a'i mawrhant tra yn fyw, yn rhy werthfawr i'w drosi i ebargofiant; pan mae y calonau, y rhai ydynt ei unig ys- torfeydd, wedi eu malurio yn y llwch. " Coflfadwriaeth y cyfiawn sydd fendig- edig." O, gan hyny, trosglwydder ef i'r genedl sy'n cyfodi, yn bur, beb ei ddiwyno a'i niweidio. Yn absenoldeb adroddiadau helaethach nag a ellir eu cofnodi ar dudalenau cyhoeddiad fel hwn, yr hyn a gynnygia'r ysgrifenydd yw, rhoddi brasluniad o fywgraffiad a gyflea ond meddylddrych anghyfartal am ei wrthddrych. Y diweddar Barch. John Breese, Caerfyrddin, yr hwn sydd etto yn fyw yn serchiadau miloedd yn y Dywysog- aeth, a anwyd yn Llanbrynmair, Medi 1789. Disgynodd gofal ei fabandod ar ewythr a modryb, y rhai a'i dygasant ef i fyny megys eu plentyn eu hunain. "Yn ystod ei dymhor bachgenaidd, (ysgrifena y Parch. S. Roberts) o dan Mr. Charles o'r Bala, ymdrechion pa un er addysg crefyddol yr ieuenctyd, sydd wedi anwylu ei goffadwriaeth i bawb o'i gydnabod, daeth John Breese yn un o'i ddysgyblion goreu yn y parth hwn. Y fath wobr gyfoethog a allai gweinidogion ei medi o'u llafurion gyda'r Ysgol Sabbathol! Llawer, heblaw Mr. Breese, o'n gweinidogion effeithiolaf a dderbyn- iasant eu hyfforddiant crefyddol cyntaf mewn Ysgol Sabbathol. Pe byddai ein heglwysi, yn gyffredin, wedi eu dylan- wadu yn ddwysach gan ystyriaeth o bwysigrwydd y fath addysg, buan y cyrhaeddent sefyllfa o ddylanwad llawer uwch ac ardderchocach nag y maent ynddi." O'i febyd hyd yr 21ain flwydd o'i oedran, treuliodd Mr. Breese ei amser yn mysg amgylchiadau anffafriol í ddynoethiad ac ehangiad y galluoedd moesol a deallawl hyny a fuont o gymaint lles i eneidiau mewn amser dilynol. Yn y cyfnod hwn aeth i deulu amaethwr duwiol, ac yno daeth yn nodwedd sefydlog, ac a ymunodd â'r eglwys gynnulleidfaol dan ofal gweini- dogaethol y Parch. J. Roberts. Nid oedd ei gyfaill doeth ahynaws, yramaethydd, heb fod yn sylwedydd ystyriol o'r duwiol- der dwysfrydig a addurnai ei ymarfer- iadau crefyddol pan yn llywyddu yr addoliad teuluaidd. Gwresogrwydd, «ymlder, a chynnwysfawredd ei wedd'iau, ei serch at air Duw, purdeb ei ymddy- ddanion, a'i hoffder o fyfyrdod a neill- duedd, a'i dygasant ef yn fuan i sylw neillduol yr eglwys. Annogwyd ef i barotoi anerchion byrion ar bynciau neillduedig, yr hyn a wnaeth er cyflawn foddlonrwydd i'w wrandawyr, ac ystyrid hwy yn rhagarwyddion o ardderchawg- rwydd dyfodol. Ar ol ei fynediad i Athrofa'r Gogledd mwynhaodd dros beth amser addysgiaeth odidog Mr. (yn awr Arddelwr) Lee. Yr oedd tua'r 24ain flwydd o'i oedran pan yr aeth i'r sefydliad hwnw, ag oedd y pryd hyny dan ofal Dr. G. Lewis. Hynododd ei hun yno am ei sylw diflino o'r tlyled-