Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŴntefiiiàîiL Y WEISTIDOGAETH. AT OLYGWYR Y DYSGEDYDD. Wrth edrych dros fy mhapyrau, gwelwn y ddau lythyr a ganlyn, pa rai a ysgrifenwyd ryw chwech neu saith mlynedd yn ol. Gan eu bod yn cyffwrdd a phwnc sydd yn tynu sylw y wlad y dyddiau byn, dichon y tueddir chwi i'w cyhoeddi yn y Dîsgedydd.» EPISTOL CYNTAF E. J. PRYSE AT JOHN ROBERTS. Anwyl Frawd,—Yr wyf yn mawr gymeradwyo tuedâ (neu fel y dywedir yn gyffredin, ysbryd) eich llythyr carcdig ataf, ac yn teimlo fy hun yn golledwr mawr am na chawswn o yn gynt, neu rybudd cyffelyb iddo. Rhwydd gydnabyddaf i mi ddangos fy marn—fy marn ddiysgog hyd yn hyn, yn ry fyr- bwyll, mewn lle ac mewn tymher na ddylaswn, ac efallai â geiriau anaddas. Am y pethau hyn, mae yn edifar genyf, ac hyderaf y maddeuwch. Nid o herwydd fy marn, sylwch, nac o herwydd ei dangos, y mae yn edifar genyf; ond o herwydd ei dangos mewn Ue, mewn tymher, ac â geiriau anaddas. Yr wyf am amddiffyn fy marn, ac am ei dangos, pe gallwn, i'r holl fyd Cristionogol; ond dymunwyf wneud hyny yn gyson â'r Testament Newydd. Gobeithiwch y cymeraf y "cyfan yn garedig"—sicr y gwnaf—ni welaf fi ddim yn eich llythyr sy groes i garcdigrwydd; ac am yr ychydig gamgymeriad o'm geiriau sydd ynddo, gwn i hyny ddygwydd yn anfwriadol—nid o angharedigrwydd. Bellach, ceisiaf unioni y pethau sydd yn eich llythyr yn ymddangos i mi yn geimion, ac egluro, o leiaf dechreu cgluro, fy mcddwl ar yr egwyddorion a gynnwysa; a gobeithiaf y cymerwch chwithau y cyfan yn garedig a didramgwydd. Hysbyswch i mi ddywedyd unwaith yn nghymdeithas dau o leiaf o rai dibroffes mai "y felldith fwyaf a ddaeth i'r byd erioed ydyw gweinidogacth yr efengyl." Rhaid i mi hys- bysu ar unwaith yn ddiseremoni nas gallaf gredu i mi ddywedyd y froddeg yna erioed, mcwn un man, " yn nghymdeithas dau," nac un nifer arall, " o rai dibroffes " na phroffes- edig. Nis gallaf chwaith goleddu y dyb ddarfod i chwi, yn fwriadol, lunio y froddeg yna, er ei thadogi arnaf. Yr wyf yn tybied "mewn barn cariad" i'r froddcg dan sylw gael ei llunio yn fyrbwyll wrth wrando arnaf fi yn dywedyd fy meddwl, ar frys ac yn drwsdan, ar y pwnc, ac efallai â geiriau anaddas. Ond pa mor frysiog bynag y gallaswn fod yn dywedyd, yr wyf yn sicr yn fy mcddwl fy hun na ddywcdais mo'r froddeg sydd yn eich llythyr fel y mae yno ar lawr. Dyma fy marn i ar y pwnc yn fy ngeiriau fy hunan—Bod y felldith fwyaf a ddaeth i'r byd eriocd yn nglŷn ffr hyn a elwir gweinidogaeili yr efengyl, yn ei dullpresenol. Yr wyf yn diysgog gredu y froddeg yna, ac yn barod i sefyll neu syrthio yn ci hwyneb; ond efallai mai "disynwyr" yw i mi ei dywedyd heb gael arfod i'w heg- luro. Ar draws pob peth, a ddarfu i chwi sylwi nad yw yr ebiaith (phrase) hon, Gweini- dogaetìi yr efengyl, ddim yn ysgrythyrol? Ychwancg ar hyn etto. Am y froddeg arall, " y byddai yn anrhydeddusach genyf fod yn nodweddiad tinker nag yn nodwcddiad un o bregethwyr yr oes hon"—nid wyf am wadu i mi ddywedyd broddeg • Deallwn fod Uawer o gyfeillion Mr. R. J. Pryse a Mr. J. Roberts (Edeyrn), yn dymnno gweled yr ohebiaeth g-anlynol yn y Dysoedydd, a dichon y teimla lluaws mawr o'n darllenwyr ddyddordeb wrth ei darllen. Nid yw y ddau lythyr hyn ond rhagymadrodd i'r fayn sydd I ymddangos etto ar y pnnc mewn dadl; canys yr ydyra wedi penderfynu agor colofuau y DY80BDYDD ddechreu y flwyddyn netaf i'r ohebiaeth a fu rhwng Mr. J. Roberts a Mr. J. M. C—d—t, orno. Y raua galluotdd Mr. Roberts fel ysgrifenydd yn hen adnabyddus i ddarlieuwyr y Dysgedydd, a deallwn fod ei lytbyran mewn amddiffyniad i'r weioidogaeth, yn erbyn ymosodiadan Mr. J. M. yn mysg y pethau mwyaf gallaog a ddaetU o dan ei law erioed. Wedi i'n darllenwyr ddarlleu ei atebiad i'n oyfaill Mr. R. J. P. yn y Rhifyn uwd, credwn y bydd amynt frya am waled y lleill.—Gol. RlIAGFYR, 1854. 3 L