Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŵwtjjẁm. EGLUEIADAU YSGRYTHYEOL. Phil. ii. 5—7, " Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn hefyd oedd yn Nghrist lesu," Sfc. Wrth " y meddwl yma, yr hwn oedd yn Nghrist Iesu," y golygir y mawreddigrwydd haelfrydig a graslawn hwnw a barai iddo ymddarostwng yn wirfoddol, gan ddodi heibio megys am dymmor ei urddas personol fel Duw, a dyfod i ystad o iselder a dyoddefaint fel Cyfryngwr yn achos ac er mwyn daioni eraill. " Bydded ynoch chwi," ei ddilynwyr ef, yr un cyfFelyb ysbryd, neu agwedd meddwl, yn preswylio mewn awdurdod llywodraethol ar eich calon a'ch bywyd. Agweddiad lywodraethol ei feddwl ydyw ffynhonell bucheddiad ymarferol pob bôd rhesymol, yr hyn sydd yn ffurfio ei nodweddiad moesol. Os bydd hwn, llygad y meddwl, yn ddrwg, bydd. yr "holl gorff"—y fuchedd a'r ymarferion—yn dywyll. O'r tu arall, os bydd " y llygad yn syml," bydd " yr holl gorff yn oleu." Nid oes nemawr o ymadroddion yn y Testament Newydd wedi rhoddi mwy o orchwyl i feirniaid ac esbonwyr i'w trafod na'r ymadroddion dan sylw. Y maent y fath faen tram- gwydd trwm, a chraig rhwystr fawr, ar ffordd syniadau yr TJndodiaid am berson Crist, fel y gallesid dysgwyl y buasai iddynt wneud ymdrechion gorchestol i'w symud ymaith. Ceisient eu cyfieithu, eu deongli, a'u beirniadu, i'w hystwytho at, a'u cydweddeiddio â'u, golygiadau hwy, a chael ganddynt ddwyn tystiolaeth drostynt, neu o leiaf i beidio dwyn tystiolaeth yn eu herbyn; ond profasant ef yn orchwyl caled ac anhawdd i fyned trwyddo. Cyhudda beirniaid Trindodaidd hwy o fod yn euog o ŵyrdroi ystyr briodol ac amlwg yr ymadroddion, ac o drawsder yn erbyn rheolau addefedig beirniadaeth deg, er gwasanacthu eu pwnc. Nid cytunol â'n hamcan presenol, ac anfuddiol i'r cyffredin o'n darllenwyr, fyddai i ni fanwl olrhain y brwydrau beirniadol a ymladdwyd ar y maes hwn. Gall yr ymofyngar weled crynodeb o honynt yn Dr. Pye Smith's " Scripture Testimony to the Mes- siah" vol. ii. p. 365, 3 edition. Yn y geiriau dan sylw, cyfeiria yr apostol y Philippiaid (a Christionogion yn gyffred- inol) at yr Arglwydd Iesu Grist fel esiampl iddynt i'w efelychu yn ausawdd ei fcddwl. Gesyd y meddwî yma yn gyferbyniol i feddwl arall, hollol groes a gwrthdarawiadol iddo, yr hwn y rhydd efe y Philippiaid ar eu gocheliad na byddai iddynt ei feithrin—y meddwl cul, cyfyng, hunangarol, hwnw sydd yn edrych bob amser " ar yr eiddo ei hun yn unig," heb deimlo na gofalu dim am '*yr eiddo eraill." Meddwl sydd yn byw ynddo ac iddo ei hunan yn gwbl, ac a fynai blygu pawb a phob peth arall i wasanaethu wrth ei ewyllys ac i'w fudd personol ef,—meddwl balch, uchelfrydig, ffrom, eiddigus dros ei iawnderau a'i hawliau tybiedig ei hunan, heb brisio dim yn hawliau na theimladau eraill, a hawdd ganddo gythruddo, ymddigio wrth, ac ymddial ar, bwy bynag a safo ar ffordd ei amcan- ion. Gochelwch y meddwl yna, a meithrinwch " y meddwl yma,"—y meddwl y rhoddodd eich Arglwydd a'ch Athraw Crist Iesu y fath arddangosiad gogoneddus o hono o'ch blaen; canys nid yn unig efe a'i dysgodd ac a'i cymhellodd yn ei athrawiaeth, eithr hefyd a'i gweithiodd allan yn ymarferol yn ei fywyd ei hunan. Y mae y meddwl yma yn hollol wahanol i'r llall yn ei ansawdd a'i dymher. " Nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun; ni chyth- ruddir; ni feddwl ddrwg,"—y mae yn ymaros â phob dim—yn bur, yn foneddigaidd, a hawdd ei drin—yn addfwyn a gostyngedig—yn " edrych ar yr eiddo eraill," heb geisio ei lesâd ei hun, ond Uesâd y Uaweroedd. Y mae yn awyddus ac ymroddgar i wasanaethu y daioni cyffredinol, ac i ymwadu â'i fuddion a'i esmwythdra personol i'r dyben hwnw. Mewn gair, meddwl wedi çolli yr olwg arno ei hunan, ac yn ymdywallt allan megys o hono ei hunan, i wrthddrych neu amcan ag sydd wedi dyfod yn fwy, yn werthfawrocach, ac anwylach, yn ei olwg nag efe ei hunan, ydyw. Eiddigedd, dyhewyd (enthusiasm), hwyrach y gellid ei alw, ag sydd yn ennyn y fath awyddfryd angerddol yn yr enaid, am ddwyn yn mlaen lesiant a daioni tymmorol ac ysbrydol eraill, nes y mae yn ymgyflwyno Tachwedd, 1854. 3 F