Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŵnrijjntat. Y DDIACONIAETH. Mewn cyaylltiad â'r ysgrifau campus a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Dysgedydd ar "Y Weinidogaeth," efallai nad cwbl annerbyniol fydd y sylwadau canlynol ar Y Dpiaconiaeth, a draddodwyd yn Nghemmaes, Mon, ar sefydliad y Parch. J. Jones yn y lle. Credwn fod cymdeithas o unrbyw natur heb swyddogion priodol i weithio allan ei hamcanion, yn beth hollol anmhosibl. Nid oes y fath beth wedi bod, ac ni all byth gymeryd Ue. Pe byddai i nifer o ddynion ymuno â'u gilydd i gyrhaedd rhyw amcan, ac yn penderfynu wrth gychwyn na byddai yr un swyddog o fath yn y byd yn eu phth, byddai y fath gymdeithas yn un o'r pethau rhyfeddaf yn y byd. Ond wrth gwrs nid oes neb mor ífol a disynwyr gyda phethau naturiol i wneud y prawf. Pan y byddys yn ffurfio cym- deithas, un o'r pethau cyntaf a wneir ydyw ymofyn am ddynion cymhwys i drefnu ei hamgylchiadau. Yr ydym gan hyny yn ei roddi i lawr fel gosodiad arweiniol,—Fod swyddogaeth o ryw fath yn elfen hanfodol mewn cymdeithas, bydded hi o'r natur ag y byddo. Y mae amser ac amgylchiadau yn sicr o grëu swyddogion ynddi, hyd yn nod pe byddai yr aelodau yn dewis bod heb yr un. Yn awr, os ydyw swyddogaeth yn elfen hanfodol i bob cymdeithas, rhaid fod swyddog- ion o ryw fath yn anghenrheidiol yn eglwys Crist. Y mae yn annichonadwy iddi hi, mwy na chymdeithasau eraill, fyned yn mlaen heb yr un. Golygwn fod y swyddogion yma o ddau fath, sef esgobion a diaconiaid; y naill wedi eu sefydlu gan Grist, a'r lleill gan ei apostolion. Er fod enwau lawer, nid oes ond dwy swydd; ac y mae rhediad cyffredinol y Testament Newydd yn dangos yn eglur fod y swyddau hyn i barhau yn yr eglwys hyd y diwedd. Y mae llawer o ymosod yn y dyddiau presenol ar y naill a'r Uall o'r swyddau hyn, ond er y cwbl nid oes neb etto wedi dangos y gellir gwneud hebddynt. Hoffem weled y rhai sydd o gydwybod yn gwadu yr anghenrheidrwydd am danynt, yn dyfod i'r maes fel dynion i wneud y prawf. Y mae digon o siarad a llythyru wedi bod ar y pwnc, ond beth sydd wedi ei wneud? Yr ydym etto yn methu deall y gellir dysgu heb athrawon, na phregethu heb bregethwyr; ac yr ydym heb gael yr un esiampl fod y rhai sydd yn aflon- yddu ary mater yn fwy parod i "roddi yn rhad" na rhywrai eraill. Nes y byddo rhyw- beth wedi ei wneud yn yr ystyr yma, maddeued yr holl aflonyddwyr hyn i ni am fyned heibio iddynt "fel dynion yn curo'r awyr." O'r swyddau hyn y mae a fynom yn bresenol â'r ddiaconiaeth, a'n hamcan ydyw gosod allan natur y swydd, a dyledswyddau pwysig y rhai sydd yn ei Uenwi. Y mae y gair diacon mor gynnefin yn ein mysg fel nad y w yn gofyn ond ychydig o eglurhad. Yn ei ystyr briodol y mae yn arwyddo gwas, neu weinidog. Felly y cyfieithir ef yn Mat. xxii. 13. "A dywedodd y brenin wrth ei weinidogion" ($ia.xoni). ' Y mae y gair Groeg diacon, a'r gair Cymraeg gwas, gan hyny yn arwyddo yn briodol yr un peth. Arferid ef gynt am was yn gyffredinol—am ryw was; ond arferir ef genym yn bresenol i wahaniaethu y swyddog- ion neillduol hyny yn yr eglwys, sydd yn cael eu hadnabod dan yr enw—y diaconiaid. Tybiwn mai yn y chweched bennod yn llyfr yr Actau y cawn yr hanes cyntaf am neill- duo diaconiaid. Ac wrth gymharu yr hanes yn y bennod hon â'r cyfarwyddiadau a rydd Paul yn ei lythyr cyntaf at Timotheus, cawn olwg lled gyflawn ar bob peth a berthyn i'r swydd. Yr oedd gwaith y swydd yn cael ei gyflawni ar y cyntaf gan bob un drosto ei hun. Cyfranai y cyfoethog o'r hyn oedd ganddo fel yr oedd yn gweled yr eisieu ar eraill o'i am- gylch. Ond gwelwyd yn fuan fod y cynllun yn hollol aneffeithiol i ateb y dyben. Yr oedd un yn derbyn gan lawer fwy efallai na'r eisieu, a'r Ilall yn ei ymyl yn cael ei esgeu- luso gan bawb, er fe ddichon yn ddigon anfwriadol. I wella y drwg hwn fe ddygwyd y cyfraniadau at draed yr apostolion. Y mae y gwaith yn awr yn cael ei gyflawni ganddynt Hydref, 1854. 3 a