Skip to main content

ŵetjinìímt DIJWOYDDIAETH, Gofyna R. 0. Rhydymain, ynNYSGEDYDD Ionawr,—"1. Aydywllyfrau creadigaeth a rhagluniaeth yn rhoddi amlygiad i'r paganiaid o bob peth sydd anghenrheidiol iddynt eu gwybod er eu hiachawdwriaeth ? Os ydynt, —2. Pa fodd yr ymddengys yr anghenrheidrwydd o roddi iddynt y Bibl, a chenhadon i'w bregethu? Os nad ydynt,—3. Pa fodd yr ymddengys cyfawnder yn eu cosbifel drwgweithredwyrl" Er nas gallwn ystyried yr yraofynion uchod yn mysg y pethau gwir bwyMg ac anghenrheidiol, y rhai sydd dda a buddiol i ddynion yn yr ystyr mwyafpriodol, nid ydym chwaith yn eu golygu yn perthyn i ddosbarth "y cwestiynau íFol, a'r achau anorphen," a gondemnir gan yr apostol fel pethau anfuddiol ac ofer; gan hyny, nyni a ymdrechwn eu hateb, gan obeithio y gallwn roddi o leiaf radd o foddlonrwydd i feddwl yr ymofynydd. Yn mlaenaf, y mae creadigaeth a rhagluniaeth yn rhoddi amlygiad i bawb —pob creadur rhesymol—o "anweledig bethau" Iehofah, "sef ei dra- gwyddol allu ef a'i Dduwdod, hyd onid ydynt yn ddiesgus," fel y dywed yr apostol. Condemnir y paganiaid eulunaddolgar am gamddefnyddio moddion y wybodaeth sydd ganddynt—"Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd.—Y rhai a newidiasant wirionedd Dnw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethas- ant y creadur yn fwy na'r Creawdwr," &c. Dyna y cyhuddion a ddygir yn eu herbyn hwy, ac am hyny y condemnir ac y cosbir hwy. " Oblegid cynnifer ag a bechasant yn ddiddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddiddeddf; a chynnifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrrth y ddeddf." Y mae creadigaeth a rhagluniaeth yn cynnwys amlygiadau digonol o Dduwdod anweledig ac anfeidrol, i gonderanio pob eulunaddolwr yn ei gydwybod ei hun, ond iddo ystyried yr amlygiadauhyny, canys tystion iddynt eu hunain ydyw holl eulunaddolwyr yr oesau—na wel, ac na ŵyr, ac na wna eu delw- au hwy ddim oll, " fel y byddo cywilydd arnynt." " Nid oes gwybodaeth (er bod ganddynt foddion gwybodaeth) gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a wedd'iant Dduw nid all achub.—Cauasant eu llygaid rhag gweled, a'u calonau rhag deall. Ië, ni feddwl neb yn ei galon, ie, nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd, Llosgais ran o hono yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwyteais; ac a wnaf fi y rhan arall yn ffieiddbeth? a ymgrymaf i foncyffo bren?" Nid ar y moddion sydd gan- ddynt i wybod pethau amgenach y mae y bai a'r diffyg eu bod fel hyn, ond ynddynthwy eu bunainam gau eu llygaid a'u calonau rhag y goleuni—eu diffyg ystyriaeth meddwl yn y galon—hyn a gyfansodda eu heuogrwydd, ac a dýn arnynt gyfiawn gosbedigaeth. Yr ydym fel yna wedi ateb gofyniad Mehefin, 1854. 2 c