Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEIBION SCEPA, " Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi? "—Ya Ysbryd Dawa. Cynhyrfodd yraddangosiad y Gwaredwr yn y cnawd, ac amgylchiadau sefydliad cyntaf ei deyrnas yn y byd, nid yn unig y ddaear a'r nef, ond uffern hefyd. Bu y peth yn hysbys, nid yn unig i'r "tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd," ond hefyd i dywysogaethau ac awdur- dodau y tywyllwch. Efe a welwyd gan angylion, a bregethwyd i'r cenhedl- oedd, a gredwyd iddo yn y byd, ac awelwyd, aadnabuwyd, ac agyffeswyd gan ysbrydion aflan gyda hyny. Nid hwn oedd y cyntaf o honynt a ddygodd y dystiolaeth hon. " Daeth llef o'r nef, oddiwrth y mawr ragorol ogoniant, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab;" a daeth llefau o ufFern hefyd—"Ni a'th adwaenom pwy ydwyt, Sant Duw." Derbyniai yr Iesu addoliad angylion, a chyffes dynion, ond archai i'r ysbrydion aflan dewi, "ac ni oddefai iddynt gymaint a dywedyd yr adwaenent ef." Gwisgai ei apostolion ag awdurdod ar ysbrydion aflan, wrth eu hanfon allan i bregethu yr efengyl —awdurdod wyrthiol, oruwch-naturiol, i'w bwrw allan o'r rhai a berchen- ogid ganddynt. Sel ddwyfol ydoedd yr awdurdod hon i wneuthur gwyrth- iau, i brofi i'r byd ddwyfoldeb a gwirionedd Cristionogaeth ar ei chychwyn- iad cyntaf allan. Pan oedd trefniant newydd o grefydd yn cynnwys corff o dystiolaetb.au ysbrydol goruwch-naturiol,—hyny yw, tystiolaethau nad oedd goleuni natur yn eu datguddio, ac nad oeddynt yn nghyrhaedd gallu rheswm dynol i'w cael allan—yn cael eu cyhoeddi a'u cymhell ar y byd,—yr oedd yn hollol anghenrheidiol profi y tystiolaethau goruwch-naturiol hyny trwy weithredoedd goruwch-naturiol, i fod yn arwyddion i'r rhai digred—i dynu sylw dynion at y grefydd hòno ag yr oedd y fath arwyddion a rhyfeddodau yn ei chanlyn—i godi yr ymofyniad, "Beth yw hyn? Pa athrawiaeth newydd yw hon ? " Gwnelai y gwyrthiau a'r rhyfeddodau hyn anghredin- iaeth y rhai oeddynt yn dystion o honynt yn hollol ddiesgus—" Oni buasai i mi wneuthur yn eu plith y gweithredoedd na wnaethai neb arall, ni buasai arnynt bechod; eithr yirawr nid oes ganddynt esgus am eu pechod:" ac— "Os nad ydych yn qredu i mi, credwch y gweithredoedd eu hunain," medd Crist wrth yr Iuddewon. Ni buasai yr awdurdod hon yn gyflawn heb i'r ysbrydion aflan gael eu daiostwng iddi, yn gystal a phob clefyd ac afiechyd naturiol. Yr oedd yn anghenrheidiol i'r awdurdod wyrthiol i gyflawni rhyfeddodau anianyddol goruwch-ddynol, ag oedd yn gydfynedol â phregethiad cyntaf yr efengyl, feddu y gallu i sathru ar holl gryfder y gelyn yn yr ystyr hwn, er profi grym effeithiol ei gwirioneddau, pan y'u credir, i ddarostwng holl gryfder moesol y gelyu yn ei lywodraeth a'i ddylanwad ysbrydol ar galonau dynion. Y gallu dwyfo? anianyddol i waredu y rhai a "orthryraid gan ddiafol" yn Mai, 1854. * x