Skip to main content

ÄwrfjHẀOBL CYNNEYCHIOLAETH ADDA, CAN YR HEN OLYCYDD. Wrth yradrin â'r mater difrifol a phwysig hwn, dymunem sylwi ar y gosodiadau canlynol:— 1. Fod Duw wedi cr'éu Adda ar ei lun a'i ddelro ei hun, menm gwybodaeth, cyfiawnder, a santeiddrwydd. Pa hyd y parhaodd yn y cyflwr hwn, nis gwyddom; ond y mae yn ddiammheuol ei fod yn ystyriol o'i gyfrifoldeb i'w Greawdwr, a'i rwymau i'w garu â'i holl galon, ac ufuddhau iddo yn mhob peth a ddywedai efe wrtho. Gwyddai mai Duw yn unig ydoedd Meddiannydd yr holl fyd, ac nad ydoedd ganddo ef hawl i ddim oedd ynddo ond a ganiateid iddo gan ei Greawdwr a'i Lywodraethwr. 2. Gwelodd Duw yn dda, yn gymaint a'i fod yn greadur cyfrifol iddo, ei osod ar brawf Yn y sefydliad, neu y drefn hon, rhoddwyd cyfraith i Adda. "A'r Arglwydd Dduw a orchymynodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta: ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta o hono; oblegid yn y dydd y bwytei di o hono, gan farw y byddi farw." Gofynai y gyfraith hon berfTaith ufudd- dod dros holl dymmor ei brawf. Nid ydym yn gwybod hýd amser ei brawf; ond gellid meddwl nad ydoedd ond byr. Pa fodd bynag am hyn, methodd Adda ddal ei íFordd; a chyn diwedd yr amser hwnw, efe a fwyta- odd o'r íFrwyth gwaharddedig, a chollodd ei hawl yn ol y drefn hon i fywyd o ddedwyddwch, yr hwn yn ddiau a gawsai drwy gydffurfio â'r gyfraith a roddwyd iddo. Daeth dan fygythiad y cyfammod neu y drefn hon, " yn y dydd y bwytei di o hono, gan farw y byddi farw." Ymadaw- odd â Duw,—daeth yn agored i farwolaeth naturiol a thragwyddol. Gen. ii. 17. 3. Gosodwyd ein tad Adda i sefyll, nid yn unig drosto ei hun, ond hefyd dros ei holl hiliogaeth. Oni buasai y gosodiad hwn, ni fuasai trosedd cyntaf Adda ddim i ni mwy na'i droseddau eraill ar ol hyny, neu droseddau ein rhîeni, neu ryw rai eraill a gaffai y cyífelyb fanteision i osod esiampl ddrwg ger ein bron. Ond y mae yn dra eglur yn yr ysgrythyrau, fod ei drosedd cyntaf ef wedi dwyn ei holl hiliogaeth i'r un cyflwr ag yntau—sef cyflwr o ysgariaeth oddiwrth Dduw, ac yn agored i farwolaeth naturiol a thragwyddol. Rhuf. v. 12, 14, 15, 17, 18, 19, 21. "Am hyny, megys trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint a phechu o bawb. Canys os trwy garawedd un (neu un carawedd) y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o Ebbill, 1854. Q