Skip to main content

€xẅ)àm. CYMHWYSDERAU GWEINIDOGAETHOL,* CAN Y PARCH. R. JONES, MANCHESTER. "Glyn wrth ddarllen, wrth (rynghori, wrth athrawiaethu. Nao esfreulusa y dawn aydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy brophwydoliaetb, gydag arddodiad dwylaw yr henuriaeth. Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau byn aros; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb. Gwylia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth; aios ynddynt: caDys ob gwn&i hyn, ti u'tu gedwi dy hun a'r rhai a wrandawant uruut," 1 Tim. iv. 13—16. Fr Anwyl, Frawd,—Hyderwyf nad oes anghen i mi ail adrodd yn y lle hwn yr anfodd- lonrwydd a amlygais i gymeryd arnaf y rhan hon o'r gwaith, a hyny o herwydd fy nwfn argyhoeddiad o'm hanghymhwTysder i'th gyngliori a'th gyfarwyddo i iawn gyflawni gor- chwylion y swydd hwysig a gymcraist arnat heno. Ond gan i mi gydsynio â'th gais, yr wyf yn teimlo mai fy nyledswydd yn awr yw ymryddhau hyd y mae ynof oddiwrth hob teimladau personol, a chyflawni oreu y gallaf y gorchwyl pwysig a ymddiriedwyd i mi. Yr wyf yn rhagweled yn cglur, ac yn teimlo yn orddwfn, a hyny cyn dechreu, y bydd i'r cynghorion a fwriadaf eu rhoddi i ti droi yn gyhuddwyr yn fy erbyn fy hun, o herwydd fy niffygion personol. Yr wyf yn gweled yn eglur nas gallaf ddarlunio yr ymddygiadau a'r dybenion a ddylai reoh pob gweinidog ffyddlon i Grist heb deimlo cywilydd a gorchwyl- edd o herwydd amledd fy niffygion yn fy nghyflawniad o'r un dyledswyddau. Ond gan na ddylem iselu safon dyledswydd at ein cymhwysder personol, dichon nad oes dim yn fwy llesol na bod dan yr anghenrheidrwydd weithiau i gymhell ar eraill yr egwyddorion sant- aidd, a'r dyledswyddau cysegredig hyn, er ein dwyn i deimlo ein rhwymau a'n diffygion personol, yn gystal a nerth gofyniad yr apostol—" Tydi, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun?" O bob dosbarth o'r teulu dynol, dysgawdwyr y bobl yw y dosbarth pwysicaf, a'u swydd hwy yw y swydd anrhydeddusaf. Mae y dosbarth hwn yn ymwneud yn uniongyrchol â'r meddwl, ac yn gweithredu ar fain spring y gymdeithas ddynol. Maent yn sefyll wrth galón y byd—ffynhonell bywyd—ac yn cyfarwyddo ysgogiadau moesol a chymdeithasol plant dynion. Yn mysg holl ddosbarthion dysgawdwyr y byd, y dysgawdwr crefyddol sydd yn troi yn y cylch pwysicaf; ac o bob swyddog, yr wyf yn rhwym o roddi y flaenor- iaeth i ŵr Duw, neu "weinidog da Iesu Grist." Dichon fod llawer yn gwahaniaethu oddiwrthyf yn y farn hon, ond nid yw hyny yn oeri fy sel, nac yn fy attal i fawrhau fy swydd. Yn y tcstun, gosodir ger ein bronau y cymhwysderau gofynol mewn gweinidog da i Iesu Grist, neu y pethau sydd raid iddo eu gwneud, yn nghyda'r wobr gysylltiedig. Gelwir arno i "ly?w wrth ddarllen" Y mae y gair darllen yn y fan hon yn golygu darllen ncu ymchwilio yn fanwl y llyfrau hyny a'i cymhwysoi iawn gyflawni ei swydd gyhoeddus. Dichon fod yma gyfeiriad neillduol at y gyfran hòno o'r gyfrol santaidd ag oedd y pryd hwnw ar gael, ond nid yw y gair yn gwahardd llyfrau defnyddiol eraill. Ni bu dyn enwog erioed nad oedd yn ei gwneud yn arferiad i ddarllen. Mae cyrhaedd cnwogrwydd heb ddarllen yn annichonadwy yn ein dyddiau ni. " Mae darllen," medd Bacon, "yn gwneud dyn llawn, siarad yn gwueud dyn parod, ac ysgrifenu yn gwnead dyn manwl." Mae darllen yn ffurfio ieithwedd (style) y dyn, yn dodrefnu y meddwl â gwybodaeth, yn gystal a dwyn y galluoedd deallawl i ysgogiad. Glynu wrtli gynghori, hyny yw, wrth ddirgy- mhell dyledswyddau ymarferol crefydd—defnyddio rhybuddion ac addewidion yr efengyl er cynhyrfu dynion i iawn gyflawni eu rhwymedigaethau. " At/irawiaetliu "—mae y gair hwn yn golygu addysgu neu drosglwyddo gwybodaeth gyffredinol o athrawiaethau crefydd * Sylwedd pregeth a draddodwyd yn Llanberis, Gorph. 14, 1853, ar yr achlysur o neillduad y Parcb. Griffîth Jones i waith y weinidogaeth, gan ei frawd. Chwefror, 1854. ¥