Skip to main content

ŵetjjẀHt. ADOLYGIAD Y PLWYDDYN. Dyma y Dysgedydd yn terfynu y flwyddyn gyntaf o'i gyfnod newydd; ac oddiwrth y gymeradwyaeth a gafodd yn ystod y flwyddyn hon, teinjla ei Olygwyr yn galonog wrth edrych yn mlaen at ddechreuad blwyddyn newydd; gan hyderu mai ychydig iawn fydd y nifer o'r rhai y bu yn eu gwasanaeth y tymmor o'r blaen, a ymwrthodant ag ef y tymmor nesaf,— ond y bydd nifer ei dderbynwyr newyddion yn llawer iawn. Nid oeddym yn ceisio gobeithio wrth ymgymeryd â'r olygiaeth, y gallasem foddhau pawb,—mwy nag y gallodd eraill, ond ein dymuniad ydoedd iddo fod o duedd i lesâu pawb,—iddo fod yn ofn i weithredoedd drwg, a mawl i'r gweithredwyr da:—i geryddu y naill, ac annog a chefnogi y llall gyda pliQb awdurdod, ffyddlondeb, a gonestrwydd. Os bu yn llyrn ac yn llaw- drwm ambell dro, bernid fod achosion cyfiawn yn galw am hyny; ac ni phetrusirarferllymderetto pan fyddo yn anghenrheidiol. Gellir argyhoeddi yn llym, ac arfer y filangell, heb fod yn euog o gecraeth a natur ddrwg;— ac y mae arfer llymder, mewn ,-rhai amgylchiadau, yn gymaint o ddyled- swydd ar ddysgawdwr ac athraw, ag ydyw arfer tynerwch a thiriondeb mewn amgylchiadau eraill. Dysgai Paul Timothëus i "argyhoeddi a cheryddu yn llym" yn gystal ag i uddysgu gyda phob hirymaros ac addfwynder." Bu y flwyddyn sydd yn awr ar derfynu yn un ffrwythlawn ei dygwydd- iadau. Os eyfyngwn ein sylw o fewn cylch ein gwlad ein hunain, ym- ddengys arwyddion yr amserau yn hynod galonog a gobeithlawn. Terfynodd y Senedd ei thymmor diweddaf â'i choron ar ei phen. Ni ellir dwyn yr hen gyhuddiad o fod yn ddiffrwyth a diwaith yn ei herbyn yn gyfiawn. Cyflawnodd gryn lawer o waith, ac o waith da hefyd. Er yr ymddengys bod rhai o'r mesurau a basiodd yn ddiffygiol ac anmherffaith; etto, teg yw addef fod pob un o honynt yn symudiad yn yr iawn gyfeirnod. Ennillodd egwyddorion rhyddid a diwygiad rai cufyddau at eu maintioli. Sefydlwyd rhyddid masnachol ar graig ddiysgog, fel y mae weithian uwchlaw perygl i ymgyrch ei elynion allu ei ddadymchwelyd mwy. Claddwyd eu gobeith- ion olaf o dan adfeilion cwymp gweinyddiaeth Iarjl Derby. Trodd pob ystryw, a dichell, a rhagrith, a llwgrwobrwyaeth, yn amser yr etholiad diweddaf, er ceisio adferu ac adgyweirio hen d\vr y ddiffyndolliaeth, a chaethiwed masnachol, yn hollol ofer ac aneffeithiol. Erioed o'r blaen ni buasai y fath lifeiriaint cryf o'r drygau ifieiddiol hyny yn rhedeg allan yn mhob cẁr o'r deyrnas hon. Yr oedd y pethau ysgeifn—dynion ysgeifn eu penau, ac ysgeifn eu hegwyddorion—yn cael eu hysgwyd ymaith wrth y miloedd ar wyneb dyfroedd y llifeiriant hwn. Gwelid hwy ar gefn y rhyferthwy, ddydd yr etholiad, yn gyrnysg a'u gilydd.-. Caredigion y ddìod, a charedigion gweniaith a hudwobrau, a charedigion Protestaniaeth forsooth! yn nghyda rhai eraill ag oeddynt yn wir wrthddrychau tosturi i'w gweled yn y fath gymdeithas, sef y rhai a ddirwesgid gan ddwylaw trymion trais—yn cael eu cludo ymaith. Ond yr ydoedd digon o synwyr, a dealltwriaeth, ac egwyddorion, a chrefydd yn y wlad i orbwyso y cyfan. JRhagfyb, 1853. 3 k