Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ŵflrfjlflktt. Y WEINIDOGAETH. Er ymddangosiad ein herthygl ar y weinidogaeth yn Nysgedydd Gorphenaf, gwelsom mewn rhai cyhoeddiadau Seisnig sylwadau lled achwyngar ar y weinidogaeth yn Lloegr; a daeth allan ryw frefydd i oernadu ar y weinidogaeth yn Nghymru—yr un hwnw a gyfenwai y diweddar Ieuan Gwynedd yn "asyn anferthol asynaidd"—un y mae yn rhaid attal ei ên â genfa, ac â ffrwyn,—ac un y dylasai gweinidogaeth yr enfa, y ffrwyn, a'r ffrewyll, fod wedi ei gweinyddu yn llym ac effeithiol tuag ato yn hir cyn hyn. Y mae tryblith, gynmhlith, yr ysgrifenydd yn y traethodyn dan sylw yn llawer tebycach i gynnyrch ymenydd un o breswyl- yddion gwallgofdy, nag ydyw i eiddo dyn yn ei iawn bwyll; a gallesid yn briodol fyned heibio iddo heb. wneud un sylw o hono, oni b'ai y frad a'r falais fileinig sydd i'w gweled yn gymysg â'r pentwr ffolineb. Nid iddo ef y mae y diolch bod ei fwa yn egwan, a'i fraich heb gadernid, canys y mae yr ewyllys yn gref, os yw y gallu i'w chyflawni yn fethiantus. Medr geisio gŵyrdroi ffeithiau adnabyddus, a throchi ei saethau yn mustl a gwenwyn malais, dan fantell proffes o gydwybodolrwydd, ofn yr Arglwydd, ystyr- iaeth o ddyledswydd, teimlad tros ogoniant yr efengyl, a llwyddiant crefydd. Y crys rhawn a wisga dynion drygionus a rhagrithiol bob amser i geisio dallu a thwyllo meddyliau gweinion ac anwadal, ac i geisio ennill nerth dylanwad i gyflawni eu bradau ysgeler yn yr eglwysi. Anela y dyn hwn ei saethau gwenwynllyd at galonau personau neillduol, ac ar yr un pryd, appèlia at yr Hollwybodol fel tyst, nad oes ganddo yr amcan lleiafi archolli teimladau neb byw! Y mae ei ragrith a'i ryfyg yn appèlio beunydd at y farn a'r Barnwr wrth gyflawni pob cyflafan yn arswydus ac ofnadwy i bob meddwl tyner ac ystyriol; ond ymddengys ei fod ef, trwy hir ymarferiad â'r gwaith echryslon, wedi ymgynnefino gymaint ag ef, fel nad yw ond peth ysgafn iawn ganddo. Y mae y dyn a wnelo hyn yn taflu ei liun allan o gylch pob goddefgarwch,—byddai dda i'r dyn hwn gofio y wers orlem a roddodd y diweddar Williams o'r Wern iddo, y tro diweddaf, ond odid, y gwelodd ef, ar y peth hwn: a'r gwirioneddau noethion a ddywed- odd y diweddar Ieuan Gwynedd wrtho drwy enau y Gymraes. Nid ydym am ddywedyd nad oes genym un amcan i archolli ei deimlad- au, canys hyny sydd un amcan genym wrth ysgrifenu hynj dymunem allu gwanu ei gydwybod, nes y teimlo i'r byw yn ei fynwes—yr alaro arno ei hun, ac y byddo yn ffiaidd ganddo am dano ei hun, ac yr edifarhao mewn llwch a lludw am y gweddill o'i oes, am ragrith a rhyfyg a bradwriaethau maleisus y rhan flaenorol o honi. Gallwn ddywedyd yn onest, fod yn wir boenus i ni ysgrifenu a chyhoeddi pethau fel hyn, ond anghenrhaid a osodir arnom: canys gan fod y Dysgedydd yn wyliedydd wrth ei swydd dros ein henwad yn Nghymru, byddai yn anftyddlondeb ac yn anonestrwydd ynddo i dewi a son ar y fath achos â hwn, pan y mae un dan yr enw o weinidog yn ein plith, yn bwrw allan drwy y wasg lysnafedd ei falais am ben ei holl frodyr, ac yn ymdrechu hyd y gallo ef i warthruddo eu nodweddau, a lladd dylanwad y weinidogaeth. Dywedwn etto, mai nid o ddewisiad, ond o anghenrheidrwydd, yr ydym yn ysgrifenu ac yn cyhoeddi peth fel hyn. Y mae malais a rhagrith yn bethau i'w dynoethi gyda'r llymdostedd mwyaf. Htdrep, 1853. 2 z