Skip to main content

ẁetjjûìmn. CYSYLLTIAD PECHOD A PHOEN, Gwybodaeth sydd un, ond fod iddi wahanol wrthddrychau. Yr hyn sydd wirionedd profedig mewn un man, sydd felly yn mhob man, gan mai un Arglwydd sydd ar y cwbl. Gwybodaeth yn ei chysylltiad â dyn sydd gynnyddol, ond yn ei chysylltiad â Duw sydd arosol. Cynnydd mewn un ganghen o wybodaeth sydd yn taflu goleuni ar ganghen arall. Y mae dar- ganfyddiadau celfyddyd o bryd i bryd yn galluogi duwinyddion i ddeall crefydd naturiol a datguddiedig yn well; ac y mae pob symudiad newydd a wneir mewn gwyddoriaeth yn gymhorth i ddeall y Bibl, ac yn cyfeirio at yr iawn ddull o'i ddeongli. Nid oes gan grefydd ddim i'w ofni oddiwrth ddarganfyddiad unrhyw ffaith—pe felly, ni buasai yn wirionedd, Etto y mae cynnydd gwybodaeth wedi peri i lawer tyb ag yr edrychid arni unwaith gan yr Eglwys Gristionogol fel gwirionedd diammheuol, yn awr i gael ei hystyried fel peth llesg a marw. Y mae y Bibl o hyd yn aros yr un, ac fe erys byth; ond rhaid rhoddi heibiolawer eglurhad arno fel peth cyfeiliornus a gwrthodedig. Meddyliwyd lawer gwaith ei fod yn dysgu yr hyn nad yw, a'i fod yn cefnogi yr hyn y mae mewn gwirionedd yn ei wrthwynebu. Dylai cyfeillion y gwirionedd lawenychu yn nghadernid seiliau eu ffydd, ond ni ddylent byth betruso rhoddi heibio unrhyw eglurhad dynol a fyddo yn cael ei wrthbrofi gan ffeithiau gweledig a theimladwy. Cymerir yn gyffredin yn ganiataol fod cysylltiad hanfodol yn bod rhwng drwg moesol a dyoddefiadau corfforol neu anianyddol. Y mae y ffeithiau lluosog a diwrth- brawf, ar ba rai y mae daeareg fel gwyddor wedi ei sylfaenu, yn ddigon o reswm dros ailystyried pa un ai fod y dyb uchod yn wirionedd datguddiedig ai peidio. Ac os ydyw, pa fodd y cysonir hyn â'r ffeithiau y cyfeiriwyd atynt. Ni chaniatâ gofod y Dysgedydd i mi aros i enwi ac egluro ond ychydig o'r ffeithiau uchod—rhaid cymeryd yn ganiataol eu bod yn hysbys i'r dar- llenydd. Fod anifeiliaid yn awr yn dyoddef sydd amlwg—eu bod felly o'r dechreuad, hyny yw, oesau dirif cyn yraddangosiad dyn ar y ddaear, a brofir yn ddiamraheuol gan ffeithiau daeareg. Megys y mae yn awr ar y ddaear lwythau lawer o greaduriaid wedi eu cynnysgaeddu â nerth gewynol cryf, dannedd ac ewinedd Hym, fel ag i'w cymhwyso yn uniongyrchol i ladd a dinystrio creaduriaid eraill; felly y mae digon o brofion fod llwythau cyffelyb yn hanfodi yn mhob cyfnod o oes y ddaear. Cyfarfyddir yn aml ag un creadur yn nghorff creadur arall, a ddifawyd ganddo fel yraborth—y cwbl yn awr wedi eu cyfnewid i graig. Y mae dull cyfansoddiad allanol a mewnol y creaduriaid hyn, yn gystal a greddf eu natur, yn dangos eu bod wedi eu bwriadu gan eu Creawdwr i ymborthi ar gnawd ac esgyrn creadur- iaid eraill. Fod rhyw gymaint o ddyoddefiadau yn gysylltiedig â'r pethau hyn, debygid, sydd yn rhy aralwg i ofyn prawf. Yr oedd poen gan hyny MEDI, 1853. 2 S