Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

€m^skxi DAEAEGEYN, SEF DAELITH A DEADDODWYD YN NGHYMDEITHAS LENYDDOL EEHOBOTH, LLANBEEIS, GAN M. ELLIS, ATHEAW BETJTANAIDD. Mae yn íFaith brofedig fod yr holl ysgrythyr wedi ei rhoddi gan ysbrydol- iaeth Duw, a hyny er ein haddysg ni; y raae yn ffaith yr un mor brofedig fod holl natur wedi ei rhoddi gan hollalluogrwydd yr un Duw, ac wedi ei chyflëu gan ei ddoethineb a'i ddaioni i fod yn briodol wỳddoniadur doethineb anianyddol i'w greaduriaid rhesymol droi ei dudalenau eang, prydferth, a chynnwysfawr; ar y rhai y mae amrywiaeth aneirif o faterion goruchel yn cael eu dadlenu mewn modd anghymharol o flaen llygaid pwy bynag a ewyllysio gyfoethogi ei feddwl â'r hyn sydd yn amlygu ei "anweledig bethau ef; sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod." Mae llawer o ddar- Uen, chwilio, myfyrio, wedi bod ar yr hen wyddoniadur crybwylledig yn mhob oes o'r byd er's chwe mil o flynyddoedd bellach, gan ddoethion dwyrain, gorllewin, gogledd, a dehau; ond er yr holl ymchwil, nid ydys etto wedi ei droi ond o dan ychydig o'i eiriau neu ei faterion mwyaf cyffredin—ni chafwyd terfyn etto ar y llythyren A. Un o'i hen ffyddîon efrydwyr boreuol, wrth chwilio ynddo dan y geiriau Gallu aDoethinebDuw, wedi ei orchfygu gan brydferthwch ac eglurder ei iaith, lluosogrwydd a chysondeb ei osodiadau, diysgogrwydd a nertholrwydd ei feddyliau ar y materion hyn, a waeddodd allan,—"Wele, dyma ranau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed am dano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef ?" Un arall (diweddarach) wrth ei droi dan y gair Gogoniant Duw, ryw noson ddysglaer, serenog, pan yn edrych i fyny tua'r ffurfafen eirianlas, a mil myrdd o ser tanbeidiol yn chwerthin ac yn wincio arno, wedi ei orchfygu gan ei ehediadau ysplenydd a barddonol, crëedig gan yr olygfa swynol ar bob llaw, a dòrodd allan gan ddywedyd,— "Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw; a'r ffurfafen sydd yn mynegu gwaith ei ddwylaw ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth. Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt." Bu yr enwogion Copernicus, Galileo, Bacon, Newton, Cullen, Herschel, Davy, Ferguson, a lluoedd eraill, yn troi yr hen wyddon- iadur, gan ddwyn allan eu holl alluoedd er amgyffred ei draethiad ar y geiriau atdyniad, goleuni, gwres, lliwiau, cydbwysiant, seryddiaeth, &c. Yn awr, gan fod yr hen lyfr wrth law, a pherffaith ryddid i bawb wneuthur defnydd o hono, nyni a gymerwn ein hyfdra i nesâu yn mlaen i blith y dorf sydd yn ei ddiwyd efrydu, a thrown ei dudalenau i edrych pa beth y mae yn ei ddweyd o dan y gair daeargryn. Sylwn yn I. Ar natur ac achosion daeargryn. Un o'r ymddangosiadau mwyaf ofnadwy a berthyn i natur yw y daear- gryn. Y mae rhuad y daran, a gwibiad y fellten, yn rhy frawychus i'r natur ddynol ddal heb bron lewygu; eithr nid oes ond ychydig o gymhar- iaeth cydrhwng y rhai hyn â'r cynhwrf ofnadwy yn mherfeddion y ddaear a achosir gan ddaeargryn. Pan gýnnygiom ddirnad mawredd y gallu hwnw a barai i'r Wyddfa ddawnsio fel pe b'ai ond pwysau pluen, y raae ein dỳchymyg yn pallu, a'n meddwl yn boddi! Ond pa beth yw ysgwyd yr Awst, 1853. 2 »