Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ẅíieíliota. Y WEINIDOGAETH, Un o elfenau y nodwedd crefyddol yn y cyfnod presenol ydyw y gŵyn eiddigedd sydd yn cyfodi yn erbyn y weinidogaeth. Beth bynag a fydd y diwedd, y mae amser o brofedigaeth arni wedi dechreu. Gwelodd lawer dydd o brawf er pan sefydlwyd hi, a dichon y gwel lawer un etto. Rhaid i bob egwyddor a sefydliad gael eu tynu drwy y tân hwn, ac ni ddylent ach- wyn wrth gael eu bwrw iddo, "felpe b'aibeth dyeithr yn dygwydd" iddynt. Od oes gwirionedd ynddynt, ni chollant ddim, ond ennillant lawer drwy eu profi. Daw gwirionedd, fel aur, allan o bob ffwrn yn burach a dysgleiriach nag ydoedd cyn ei fwrw iddynt. Nid gwrthwynebwyr a gelynion proffesedig crefydd ydyw yr ymosodwyr presenol yn benaf ar y weinidogaeth yn Lloegr a Chymru. Nid ei chas- ddyn yr anffyddiwr sydd yn cyfodi yn ei herbyn yn gymaint i'w difenwi, ond ei "chydradd a'i chydnabod"—ei "brodyr, a thŷ oi thad, hwynt-hwy sydd yn gwneuthur yn anffyddlon, ac yn gwaeddi yn groch ar ei hol hi." Y rhai a broffesant eu bod yn bleidwyr a chyfeillion calon crefydd, ac a hònant mai eiddigedd dros burdeb, symledd, gogoniant, a llwyddiant yr efengyl sydd yn eu cymhell i wregysu eu harfau, a dyfod allan i ymladd yn erbyn ei gweinidogaeth. Ymrana y gwrthwynebwyr hyn yn ddwy fyddin, megys,—ymesyd un dosbarth ar nodwedd y weinidogaeth, a'r llall ar ei hawliau a'i bodolaeth. Cyhudda y cyntaf hi o anffyddlondeb, anmhurdeb, cymysgedd, ac esgeu- lusiad o'r pethau hanfodol iddi fel gweinidogaeth efengylaidd. Condemnia ei hysbryd, ei thôn, a'i phethau. Udgana mewn udgorn i gynhyrfu y bobl —yn wýr, gwragedd, a phlant, i godi yn ei herbyn, ac i lwyr ymwrthod â hi, fel y mae yn bresenol. Proffesa barch calon i'r weinidogaeth fel y dylai fod, ond dywed nad ydyw i'w chael felly mwyach—bod ei haur a'i harian wedi myned yn sothach—ei gwin wedi ei gymysgu â dyfroedd Ueidiog ac afiachus—ei phrophwydi yn ysgeifn, ac yn wýr anffyddlawn—yn dwyllnyr annheilwng o gael eu derbyn i dý neb sydd yn caru'r gwirionedd, ac yn parchu yr efengyl, &c. Y mae pethau o'r ystyr yna wedi eu cyhoeddi trwy y wasg Gymreig yn lled ddiweddar, a hyny gan ysgrifenydd gwir alluog, ac un sydd gyda hyny yn deilwng o bob parch ar gyfrif ei nodwedd diar- gyhoedd fel dyn ac fel Cristion; ond ni allwn lai na gresynu gweled gwr o'i fath ef yn rhodio yn nghymdeithas rhyw fath arall o ddynion. Pell ydym oddiwrth duedd i haeru bod holl achwynion y dosbarth hwn yn hollol ddisail; ac mor bell a hyny hefyd ydym o gredu eu bod oll yn gywir. Ni allwn ar un tu lai na gofidio wrth feddwl a chydnabod bod diffygion lawer yn ysbryd a thôn gweinidogaeth y cyfnod presenol; ac ni allwn o'r tu arali lai na gwrthdystio yn gryf iawn vn erbyn llawer o'r GORPH., 1853. 2 II