Skip to main content

, ■ ' . ẅatf|àra. EGLURIADAU YSGRYTHYROL. "Canys anmhosibl i'r rhai a oleuwyd unwaith," &c. Hebreaid vi. 4—9. Parodd y gyfran hon gymaint o benbleth ac ammheuaeth i feirniaid ac esbonwyr wrth geisio ei hegluro ag odid i un gyfran o'r ysgrythyr. Pa un a oedd llygad yr apostol Pedr arni, pan ddywedai wrth y credinwyr Iudd- ewig fod yn llythyr " ei anwyl frawd Paul" atynt "ryw bethau anhawdd eu deall," ai peidio, cydnabyddai agos bob un a geisiai ei hegluro, bod rhyw beth yn anhawdd i'w ddeall yn hon. Myn rhai mai gosod allan gyflwr a nodwedd gwir gredinwyr y mae yr apostol, a dysgu eu bod mewn gwir ber- ygl o syrthio ymaith—y gallant wrthgilio, a bod yn dragwyddol golledig. Myn eraill mai dysgrifio cyflwr proffeswyr wedi eu goleuo a'u hargyhoeddi —rhai wedi profi graddau helaeth o ddylanwad dwyfol trwy y gwirionedd ar eu meddyliau, ond erioed heb eu cyfnewid trwy ras, y maej a bod yr ymadroddion ar ddiwedd y gyfran am y "pethau gwell, a'r pethau sydd yn nglýn wrth iachawdwriaeth," yn eglur brofi hyny. Tybiaeth arall ydyw— Er fod yr ymadroddion yn cynnwys darluniad o gyflwr gwir gredinwyr, ac er bod y cyflwr hwnw, ac edrych arno yn ei berthynas â chyfammod a threfn yr efengyl, yn un diogel a sicr o gadwedigaeth yn y diwedd; etto gan mai trwy foddion, cymhelliadau, rhybuddion, ac annogaethau yr ordeiniodd Duw gadw ei bobl rhag gwrthgiliad—ei bod yn briodol, ac yn anghenrheidiol i lefaru fel hyn wrth wir gredinwyr i'w cadw mewn gofal ac ofn rhag myned yn agos i gyfEniau y tir ofnadwy hwnw—pe yr aethent unwaith iddo, nad oedd yn ddichonadwy eu hadferu o hono. Nid ydym yn cofio weled na chlywed un golygiad arall, heblaw y tri a nodwyd, ar y geiriau. Cymerwn ninnau ein cènad, fel Elihu, ifynegu ein rhan, ac i ddyroedyd ein meddwl ar yr ymadroddion dwyfol a phwysig hyn. Tra yn cymeryd èin rhyddid i wahaniaethu oddiwrth wýr yr ystyriera yn fraint i gael dwyn eu hesgidiau, ystyriwn o'rtu arall fod hawl wreiddiol gan bob meddwl i chwilio a barnn drosto ei hun, ac i gyhoeddi ei farn os myn, a'i hamddiffyn os gall. Ni fynwn ruthro yn ffrom a hyderus, gan haeru cywirdeb anffaeledig yr eglurhad, ond ei gyflwyno i sylw ac ystyriaeth ein darllenwyr i'w chwilio a'i brofi. Heb ragor o ddyheurawd,—Yr ydym yn barnu nad yw yr ymadroddion dan sylw yn cynnwys y naill na'r llall (yn uniongyrchol a phenodol), o'r golygiadau a nodwyd; ond mai y mater sydd gan yr apostol mewn llaw yma ydyw cyflwr moesol a gwladwriaethol y genedl Hebreaidd y pryd hwnw. Meddyliem fod yr allwedd i agoryd y ddor i fyned i mewn i wir feddwl yr apostol yn yr ymadroddion yn gynnwysedig o'r pethau hyn:— 1. Mai at Hebreaid dychweledig a chrediniol yr ysgrifenwyd y llythyr. 2. Mai ychydig (tua chwe blynedd fel y bernir) cyn dinystr Jerusalem a'r deml, a gwasgariad y genedl—pan y cyflawnwyd yn llythyrenol Mai, 1853. . x